Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro camgymeriadau yn O.S. 2021/1294 (Cy. 328) ac mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2022 Rhif 49 (Cy. 18)
Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso
I11
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022.
I22
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Chwefror 2022.
I33
Mae rheoliadau 4 i 6 yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
I44
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20143 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6.
I55
Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwnnw yn lle “paragraff 289B” rhodder “paragraffau 289B a 289D”.
I66
Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 9B rhodder—
9B
1
Person—
a
sydd ar y dyddiad perthnasol—
i
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; neu
ii
yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);
b
a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
i
yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu
ii
yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
e
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
3
Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
I77
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
I88
Yn eithriad 2 ym mhob un o reoliadau 44(1), 54, 62(2) a 69(2), ar ôl “6A(1),” mewnosoder “6BA,”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)