Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 55 (Cy. 21)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

am 3.12 p.m. ar 20 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.45 p.m. ar 20 Ionawr 2022

Yn dod i rym

am 6.00 a.m. ar 21 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 21 Ionawr 2022.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16ZA(1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “i’r” rhodder “i rannau o dan do’r”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)ym mharagraff (i), ar ôl “bwyd neu ddiod” mewnosoder “o dan do”;

(ii)ym mharagraff (ii), ar ôl “bwyd neu ddiod iddynt” mewnosoder “o dan do”;

(iii)ym mharagraff (iii), ar ôl “bwyta neu’n yfed” mewnosoder “o dan do”.

(3Yn rheoliad 28(3)(b), hepgorer “neu (2A)”;

(4Yn rheoliad 37—

(a)ym mharagraff (1)(b), hepgorer “, (2A)”;

(b)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “neu” ar y diwedd;

(ii)hepgorer paragraff (ii).

(5Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig,”;

(ii)hepgorer is-baragraff (2A);

(iii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau o flaen paragraff (a) hepgorer “, (2A)”;

(iv)hepgorer is-baragraff (6)(j).

(b)ym mharagraff 4—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “oni bai—” hyd at ddiwedd paragraff (c) rhodder “a gynhelir i unrhyw raddau o dan do.”;

(ii)yn is-baragraff (2)—

(aa)hepgorer paragraff (g);

(bb)ym mharagraff (j)(ii), hepgorer “neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored”;

(iii)hepgorer is-baragraff (3)(b).

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.12 p.m. ar 20 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.