2022 Rhif 61 (Cy. 23)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022 a deuant i rym ar 23 Chwefror 2022.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20032

1

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20033 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (2), hepgorer “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”;

b

hepgorer paragraffau (2A) a (2B);

c

ar y diwedd, mewnosoder—

8

Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i’w gymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2021–2022.

3

Hepgorer rheoliad 6.

Dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 20203

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 20204 wedi eu dirymu.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig pa un a’u cynhelir felly ai peidio. Maent yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i’w rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 i leihau isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae rhaid eu cynnal yn y flwyddyn ysgol 2021-2022 o 380 i 378. Diben lleihau isafswm nifer y sesiynau ysgol yw sicrhau bod ysgolion yn elwa ar yr ŵyl banc ychwanegol sy’n digwydd yn ystod y gwyliau hanner tymor ar 3 Mehefin 2022 i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a wnaeth ddiwygiadau i Reoliadau 2003 mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cangen Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.