Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 61 (Cy. 23)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022

Gwnaed

21 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

24 Ionawr 2022

Yn dod i rym

23 Chwefror 2022

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022 a deuant i rym ar 23 Chwefror 2022.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”;

(b)hepgorer paragraffau (2A) a (2B);

(c)ar y diwedd, mewnosoder—

(8) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i’w gymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2021–2022.

(3Hepgorer rheoliad 6.

Dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020(4) wedi eu dirymu.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig pa un a’u cynhelir felly ai peidio. Maent yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i’w rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 i leihau isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae rhaid eu cynnal yn y flwyddyn ysgol 2021-2022 o 380 i 378. Diben lleihau isafswm nifer y sesiynau ysgol yw sicrhau bod ysgolion yn elwa ar yr ŵyl banc ychwanegol sy’n digwydd yn ystod y gwyliau hanner tymor ar 3 Mehefin 2022 i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a wnaeth ddiwygiadau i Reoliadau 2003 mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cangen Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Am ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).