Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 75 (Cy. 27)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022

Gwnaed

26 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

27 Ionawr 2022

Yn dod i rym

28 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ionawr 2022.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.

(3Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.

(4Hepgorer rheoliad 10B.

(5O flaen rheoliad 11 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu

10C.(1) Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.

(2) Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.