2022 Rhif 79 (Cy. 28)
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154:
RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2022.
Cymhwyso2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1Cyflwyniad
3
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Dinasyddion Affganistan
Diwygiad i’r Atodlen4
Yn yr Atodlen ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
a
hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
b
ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—
d
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
dd
caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
e
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
f
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (e) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;
PENNOD 3Tiriogaethau Dibynnol y Goron
Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)5
Hepgorer rheoliad 2(8).
RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 1Cyflwyniad
6
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20146 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Diwygiad i reoliad 3 (dehongli)7
Yn rheoliad 3, yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—
- a
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
- b
y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
- c
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
- d
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;
Diwygiad i reoliad 6 (myfyrwyr cymwys)8
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—
10F
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
b
y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)9
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)(b)—
a
yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
b
ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—
v
person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1Cyflwyniad
10
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Dinasyddion Affganistan
Diwygiad i’r Atodlen11
Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
a
hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
b
ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
e
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
f
caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
g
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
h
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (g) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;
PENNOD 3Tiriogaethau Dibynnol y Goron
Diwygiad i’r Atodlen12
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(6)—
a
yn lle “Yr Alban,” rhodder “Yr Alban neu”;
b
hepgorer “neu yn yr Ynysoedd”.
RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1Cyflwyniad
13
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20178 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 16 (grant newydd at ffioedd)14
Yn rheoliad 16—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,395” rhodder “£4,295”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
c
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,270” rhodder “£2,220”;
d
ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
Diwygiadau i reoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)15
Yn rheoliad 19—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
b
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
Diwygiad i reoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)16
Yn rheoliad 24(3), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
Diwygiad i reoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed)17
Yn rheoliad 26(3), yn lle “£3,190”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£3,262”.
Diwygiadau i reoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)18
Yn rheoliad 27—
a
ym mharagraff (7)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
b
ym mharagraff (9)(a), yn lle “£138.81” rhodder “£141”.
Diwygiad i reoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni)19
Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
Diwygiadau i reoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)20
Yn rheoliad 43—
a
ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,027” rhodder “£6,163”;
b
ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£10,907” rhodder “£11,152”;
c
ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
d
ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
e
ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,786” rhodder “£7,961”;
f
ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,457” rhodder “£5,580”;
g
ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£9,932” rhodder “£10,155”;
h
ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
i
ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
j
ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,213” rhodder “£7,375”.
Diwygiadau i reoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)21
Yn rheoliad 45—
a
ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
b
ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
c
ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
d
ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
e
ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
f
ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
g
ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
h
ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
i
ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
j
ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
k
ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
l
ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
m
ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
n
ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
o
ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
p
ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
q
ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
r
ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
s
ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
t
ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
u
ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
v
ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
w
ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
x
ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
y
ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
z
ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
aa
ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
bb
ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
cc
ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
dd
ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
Diwygiadau i reoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm)22
Yn rheoliad 50—
a
ym mharagraff (1)(a), yn lle “£89” rhodder “£91”;
b
ym mharagraff (1)(b), yn lle “£172” rhodder “£176”;
c
ym mharagraff (1)(c), yn lle “£188” rhodder “£192”;
d
ym mharagraff (1)(d), yn lle “£188” rhodder “£192”;
e
ym mharagraff (1)(e), yn lle “£135” rhodder “£138”.
Diwygiadau i reoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)23
Yn rheoliad 56—
a
ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
b
ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
c
ym mharagraff (3)(c), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
d
ym mharagraff (3)(d), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
e
ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
f
ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
g
ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
h
ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
i
ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
j
ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
Diwygiad i reoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl24
Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
Diwygiadau i reoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed)25
Yn rheoliad 91(3)—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”.
Diwygiad i reoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)26
Yn rheoliad 92—
a
ym mharagraff (6)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
b
ym mharagraff (8)(a), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
Diwygiad i reoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni)27
Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
Diwygiad i reoliad 117 (swm y grant)28
Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 3Diwygiad i’r diffiniad “blwyddyn Erasmus”
Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)29
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”, yn lle “a elwir ERASMUS neu yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing,” rhodder “a elwir ERASMUS, yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing neu yn y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu,”.
PENNOD 4Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Diwygiadau i reoliad 2 (dehongli)30
Yn rheoliad 2(1)—
a
hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
b
yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchoddedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiadau i reoliadau 4, 81 a 11031
Ym mhob un o reoliadau 4(10E)(a), 81(10E)(a) a 110(12E)(a)—
a
ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
b
ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)32
Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).
RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1Cyflwyniad
33
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20189 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Mewnosod rheoliad newydd 23F (terfynu cymhwystra – dinesydd perthnasol o Affganistan)
34
Yn rheoliad 12(1), yn lle “23D neu 23E” rhodder “23D, 23E neu 23F”.
35
Ar ôl rheoliad 23E mewnosoder—
23F
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Diwygiad i reoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)36
Yn rheoliad 80—
a
ar ôl paragraff (2)(b)(ib) mewnosoder—
ic
bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
b
ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”.
Diwygiad i reoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd)37
Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ib) mewnosoder—
ic
bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
Diwygiadau i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)38
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA—
a
yn is-baragraff (4)(b)—
i
yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
ii
ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—
v
person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,
b
ar ôl is-baragraff (4)(e) mewnosoder—
ea
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—
i
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,
ii
y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,
iii
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu
iv
y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath,
Diwygiadau i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl39
Yn Atodlen 4—
a
ar ôl paragraff 13E mewnosoder—
13F
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
ii
mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
b
ar ôl paragraff 14(3)(b)(ib) mewnosoder—
ic
bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
c
ym mharagraff 14(4), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
Diwygiad i Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge)40
Yn Atodlen 5, paragraff 4—
a
ar ôl is-baragraff (2)(ab) mewnosoder—
ac
bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
b
yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)41
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder—
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”
Atodlen 2, paragraff 2ZA
PENNOD 3Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser)42
Yn rheoliad 55, mae Tabl 7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
Categori 1
Byw gartref
£8,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£12,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£9,710
Categori 2
Byw gartref
£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£4,855
Diwygiadau i reoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)43
Yn rheoliad 56—
a
mae Tabl 8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
ii
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
Byw gartref
£9,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£13,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£10,710
b
mae Tabl 8A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
ii
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
Byw gartref
£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£4,855
Diwygiadau i reoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig)44
Yn rheoliad 57, mae Tabl 9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
Byw gartref
£91
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain
£176
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall
£138
Diwygiadau i reoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser)45
Yn rheoliad 58, mae Tabl 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
£6,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Diwygiadau i reoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)46
Yn rheoliad 58A, mae Tabl 10A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
£7,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Diwygiad i reoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl)47
Yn rheoliad 63(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodded “£32,546”.
Diwygiad i reoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol)48
Yn rheoliad 72, mae Tabl 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
£3,262
Diwygiadau i reoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni)49
Yn rheoliad 74, mae Tabl 12 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
a
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
b
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
£1,862
Diwygiadau i reoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant50
Yn rheoliad 76—
a
mae Tabl 13 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
i
yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
ii
ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022
Un plentyn dibynnol
£184
Mwy nag un plentyn dibynnol
£315
b
ym mharagraff (4), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)51
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 4Diwygiad i’r diffiniad o “blwyddyn Erasmus”
Diwygiad i Atodlen 1 (dehongli)52
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (3) rhodder—
3
Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—
a
cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol,
b
y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing, neu
c
y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu.
PENNOD 5Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Diwygiadau i reoliad 23E (personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben)53
Yn rheoliad 23E(a)—
a
yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;
b
yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiadau i Atodlen 1 (dehongli)54
Yn Atodlen 1, paragraff 6—
a
hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
b
yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiad i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)55
Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).
Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)56
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)—
a
ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
b
ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)57
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.
PENNOD 6Grant Myfyriwr Ôl-raddedig Anabl – diwygiadau sy’n ymwneud â gwaith gofal cymdeithasol
58
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2, ar ôl “Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016” mewnosoder “pan fo’r cwrs ôl-raddedig dynodedig yn dechrau cyn 1 Awst 2022”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)