2022 Rhif 797 (Cy. 175)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1), 83, 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 80(2)(c) ac adran 82(2) a (3)(a) a (d) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar ddrafft o’r Rheoliadau hyn, ac wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i wneud y Rheoliadau i’r prif gynghorau yn ardaloedd y cyd-bwyllgorau corfforedig ac i’r cyd-bwyllgorau corfforedig.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rymI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2022.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 20002;

  • ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 3.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Perfformiad a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â pherfformiad

Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ddarparu ar gyfer cyfarwyddydau gan Archwilydd Cyffredinol CymruI33

1

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20044 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 46(1) (cyrff y caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cyfarwyddo i gyhoeddi gwybodaeth), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

a corporate joint committee;

3

Yn adran 47(4)(c) (edrych ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad), ar y dechrau mewnosoder “in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee,”.

4

Yn adran 48 (dulliau a ganiateir o gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 47), yn lle is-adran (1) rhodder—

1

The permitted methods of publication referred to in section 47(4)(b) are—

a

in the case of a relevant body which is a corporate joint committee, electronic publication;

b

in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee, the methods mentioned in subsections (2) and (3).

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i gymhwyso Pennod 1 o Ran 6 i gyd-bwyllgorau corfforedig

I44

Ar ôl Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) mewnosoder—

PENNOD 1APERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

115ACymhwyso Pennod 1 i gyd-bwyllgorau corfforedig

Mae Atodlen 10A yn cymhwyso Pennod 1 (perfformiad, asesiadau perfformiad ac ymyrraeth: prif gynghorau), ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

I55

Ar ôl Atodlen 10 i Ddeddf 2021 mewnosoder—

ATODLEN 10A(a gyflwynir gan adran 115A)

CYMHWYSO PENNOD 1 O RAN 6 I GYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

1

Mae Pennod 1 o Ran 6, ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon.

Addasiad cyffredinol i gyfeiriadau

2

Ym Mhennod 1 o Ran 6—

a

mae’r cyfeiriadau at brif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 17 o’r Atodlen hon (sy’n gwneud addasiadau ychwanegol i ddarpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 6);

b

mae’r cyfeiriadau at bwyllgor llywodraethu ac archwilio prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig;

c

mae’r cyfeiriadau at ardal prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal a bennir yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Cyd-bwyllgor corfforedig i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiad

3

Mae adran 90 i’w darllen fel pe bai—

a

ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

ca

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

cb

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

Adroddiad hunanasesu gan gyd-bwyllgor corfforedig

4

Mae adran 91(10)(c) i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

iia

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

iib

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

Asesiadau panel o berfformiad

5

Mae adran 92 i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-adran (1), “i brif gynghorau yng Nghymru (“y cyfnod rhyngetholiadol”)” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—

1A

At ddibenion is-adran (1), y cyfnod rhyngetholiadol cyntaf yw’r cyfnod yn union ar ôl yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

1B

Yr etholiad a grybwyllir yn yr is-adran hon yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a ddigwyddodd ar 5 Mai 2022.

c

yn is-adran (3)—

i

ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

ca

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

cb

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

d

yn is-adran (5)—

i

ym mharagraff (c), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

ii

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

ca

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

cb

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

e

yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

f

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

7A

Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i adroddiad gan banel

6

Mae adran 93 i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-adran (6)(b)—

i

yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

ii

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (iii) (ac o flaen “a”)—

iiia

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

iiib

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

b

yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

c

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

7A

Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn adran 92(1B).

Arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

7

Mae adran 95 i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-adran (7)(b)—

i

yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

ii

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

iia

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

iib

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

b

is-adran (9) wedi ei hepgor.

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

8

Mae adran 96(7)(b) i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-baragraff (i), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod,

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (i) (ac o flaen “a”)—

ia

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

ib

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

9

Mae adran 97(2)(b) i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

iia

pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

iib

unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

b

yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod.

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol

10

Mae adran 98 i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

1

Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre—

a

cyd-bwyllgor corfforedig;

b

cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

c

awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o gyd-bwyllgor corfforedig,

a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys arolygu dogfen a ddelir gan yr awdurdod y mae’r arolygydd wedi mynd i’w fangre.

b

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)—

2

Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig—

a

dogfen y mae’r awdurdod yn ei dal;

b

cyfleusterau a chymorth.

c

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o is-adran (4)—

b

ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir yn ei fangre o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd ganddo o dan is-adran (2)(a);

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabod

11

Mae adran 99 i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

1

Caiff arolygydd fynd i fangre awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1) wrth arfer y pwerau o dan yr is-adran honno o dan yr amgylchiadau a ganlyn yn unig —

a

pan fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r awdurdod, a

b

pan fo o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.

b

yn is-adran (2), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, yn y ddau le y mae’n digwydd;

c

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)—

3

Nid yw’r gofyniad yn is-adran (1) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(1) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.

3A

Nid yw’r gofyniad yn is-adran (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(2) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.

d

yn is-adran (4)(b)(i), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor”;

e

yn is-adran (5)—

i

“awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1)” wedi ei roi yn lle “brif gyngor”;

ii

“awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (a), (b) ac (c);

iii

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c)—

d

os yw’r awdurdod y mae’r rhybudd i’w roi iddo yn gyd-bwyllgor corfforedig—

i

gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

f

yn is-adran (6)—

i

“aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”;

ii

ym mharagraffau (a) a (b), “prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “cyngor”;

g

yn is-adran (7), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”.

Ymgynghori ar ffioedd yr Archwilydd Cyffredinol

12

Mae adran 101(5)(b) i’w darllen fel pe bai “cyd-bwyllgorau corfforedig” wedi ei roi yn lle “prif gynghorau”.

Cyfarwyddyd i ddarparu cefnogaeth a chymorth

13

Mae adran 103 i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod a grybwyllir yn is-adran (1A) i ddarparu i gyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

1A

Yr awdurdodau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—

a

cyd-bwyllgor corfforedig;

b

prif gyngor.

b

yn is-adran (3), “awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd iddo a’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “ddau gyngor”;

c

yn is-adran (4)—

i

“awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

ii

“cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “cyngor a gefnogir”, ym mhob lle y mae’n digwydd.”

Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd

14

Mae adran 104(2)(a) i’w darllen fel pe bai “awdurdod arall” wedi ei roi yn lle “cyngor arall”.

Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth

15

Mae adran 105 i’w darllen fel pe bai—

a

yn is-adran (1)—

i

“cyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”)” wedi ei roi yn lle “prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”)”;

ii

ym mharagraff (b), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

iii

“i’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor a gefnogir”;

b

yn is-adrannau (2), (3) a (4), “cyd-bwyllgor corfforedig” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd;

c

yn is-adran (5), “ac awdurdod” wedi ei roi yn lle “a phrif gyngor”.

Arfer swyddogaethau

16

Mae adran 108 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (1) i (3)—

1

Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig a grybwyllir yn is-adran (4).

Dehongli

17

Mae adran 112 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig penodol, yw cyngor cyfansoddol fel y nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

I66

1

Yn nheitl Rhan 6 o Ddeddf 2021, ar ôl “PRIF GYNGHORAU” mewnosoder “A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG”.

2

Yn nheitl Pennod 1 o’r Rhan honno, ar ôl “YMYRRAETH” mewnosoder “: PRIF GYNGHORAU”.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio adran 159 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021I77

Yn adran 159 o Ddeddf 2021 (rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru)—

a

yn is-adran (1), ar ôl “phrif gyngor” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”;

b

yn is-adran (4), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig);

c

yn is-adran (5), yn Nhabl 2 —

i

ar ôl y trydydd cofnod yn yr ail golofn sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

Swyddogaethau o dan Bennod 1A o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)

ii

yn yr ail golofn, yn yr ail gofnod sy’n ymwneud â Gweinidogion Cymru, ar ôl “(perfformiad prif gynghorau)” mewnosoder “, Pennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)”.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Trosolwg a chraffu

Dyletswyddau mewn perthynas â throsolwg a chraffu

Dyletswydd i gydweithredu o ran trosolwg a chraffuI88

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol (“y pwyllgor”) yn gwneud adroddiad neu argymhellion o dan adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, a

b

pan fo’r adroddiad neu’r argymhellion yn ymwneud ag arfer swyddogaeth cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gydweithredu â’r pwyllgor a rhoi iddo’r cymorth rhesymol hwnnw y mae’n gofyn amdano mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

3

Caiff y cymorth a ddarperir o dan baragraff (2) gynnwys—

a

trefnu i aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

b

trefnu i aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

c

darparu gwybodaeth;

d

darparu copïau o ddogfennau sydd ym meddiant y cyd-bwyllgor corfforedig neu o dan ei reolaeth.

4

Pan fo’r pwyllgor yn gwneud cais i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, neu gopi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfen honno i’r pwyllgor oni bai bod yr wybodaeth yn berthnasol.

5

At ddibenion paragraff (4) mae gwybodaeth yn berthnasol os yw swyddog priodol y cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu bod yr wybodaeth—

a

yn ymwneud â gweithred neu benderfyniad sy’n cael ei adolygu neu y creffir arno gan y pwyllgor, neu

b

yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw un o raglenni gwaith y pwyllgor.

6

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt gan bwyllgor trosolwg a chraffu ac eithrio fel yr awdurdodir gan unrhyw ddeddfiad arall.

7

At ddibenion y rheoliad hwn “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw—

a

pwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd gan gyngor cyfansoddol o dan adran 21(2) o Ddeddf 2000;

b

cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 20135 pan fo’r awdurdodau sy’n penodi yn gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

c

is-bwyllgor i bwyllgor a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b).

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i roi sylwI99

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

a

rheoliad 8 yn gymwys, a

b

y pwyllgor yn cyhoeddi yr adroddiad neu’r argymhelliad o dan—

i

adran 21B(2) o Ddeddf 2000;

ii

rheoliad 13(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.

2

Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—

a

ystyried yr adroddiad neu’r argymhelliad, a

b

cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad neu’r argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.

3

Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (2)(b) gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad gan y pwyllgor.

4

Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill)6 yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(a).

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth esemptI1010

1

Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd wrth ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraffyn ddarostyngedig i unrhyw amodau a geir yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd.

2

At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—

2

Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—

a

in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and

b

in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio

Penodi cadeirydd a dirprwyI1111

1

Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig benodi—

a

cadeirydd, a

b

dirprwy gadeirydd.

2

Rhaid penodi’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd o blith aelodau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

3

Ni chaiff yr aelod a benodir yn gadeirydd hefyd fod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Trafodion etc.I1212

1

Mae cyfarfod is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) i’w gadeirio—

a

gan y cadeirydd, neu

b

os yw’r cadeirydd yn absennol, y dirprwy gadeirydd.

2

Os yw’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff yr is-bwyllgor benodi un o’i aelodau eraill i gadeirio’r cyfarfod.

3

Caiff pob aelod o’r is-bwyllgor bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor.

4

Caiff yr is-bwyllgor—

a

ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

b

gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd o’r is-bwyllgor.

5

Mae dyletswydd ar unrhyw aelod neu aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (4)(a).

6

Ond nid oes rhwymedigaeth ar berson o dan baragraff (5) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person yr hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr, neu at ddibenion achos llys o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd is-bwyllgor llywodraethu ac archwilioI1313

1

Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

2

Rhaid i’r is-bwyllgor hefyd gyfarfod—

a

os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu y dylai’r is-bwyllgor gyfarfod, neu

b

os yw o leiaf un rhan o dair o aelodau’r is-bwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy un neu ragor o hysbysiadau mewn ysgrifen a roddir i’r cadeirydd.

3

Mae dyletswydd ar y person sy’n cadeirio’r is-bwyllgor i sicrhau y cynhelir cyfarfodydd o’r is-bwyllgor fel sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2).

4

Nid yw’r rheoliad hwn yn atal yr is-bwyllgor rhag cyfarfod yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Dehongli etc.

Dehongli’r Rhan honI1414

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw cyngor cyfansoddol fel y’i nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;

  • mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

  • ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—

    1. a

      gwybodaeth a roddir i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan Weinidogion Cymru o dan delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a

    2. b

      gwybodaeth y mae ei datgelu i’r cyhoedd wedi ei wahardd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu drwy orchymyn llys,

  • ac yn y naill achos neu’r llall mae cyfeiriad at y rhwymedigaeth i gyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit sub-committee”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r is-bwyllgor o’r enw hwnnw a benodwyd gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Rheolau Sefydlog

Rheolau sefydlog mewn cysylltiad â gweithdrefnauI1515

Yn adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19897 (dyletswydd awdurdodau perthnasol i fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol penodol), yn is-adran (4)(a), ar ôl “below” mewnosoder “, a corporate joint committee”.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheolau sefydlog mewn cysylltiad â chontractauI1616

1

Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud rheolau sefydlog mewn cysylltiad â gwneud contractau gan neu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig ar gyfer—

a

cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau;

b

cyflawni gwaith.

2

Rhaid i reolau sefydlog a wneir o dan baragraff (1) gynnwys darpariaeth i sicrhau cystadleuaeth am y contractau hynny ac ar gyfer rheoleiddio’r ffordd y gwahoddir tendrau.

3

Caiff rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff (1) gynnwys darpariaeth—

a

yn esemptio contractau am bris sy’n is na’r hyn a bennir yn y rheolau sefydlog o’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (2);

b

yn awdurdodi’r cyd-bwyllgor corfforedig i esemptio unrhyw gontract o’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (2) os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei fodloni bod yr esemptiad wedi ei gyfiawnhau gan amgylchiadau arbennig.

4

Nid oes rhwymedigaeth ar berson sy’n ymrwymo i gontract gyda chyd-bwyllgor corfforedig i holi pa un a gydymffurfiwyd â rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig sy’n gymwys i’r contract, ac nid yw unrhyw gontract yr ymrwymwyd iddo gan y cyd-bwyllgor corfforedig neu ar ei ran wedi ei annilysu oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â’r gorchmynion hynny.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021I1717

1

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 20218 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

a

yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

b

ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

da

adolygu ac asesu gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

db

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

c

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

d

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

e

yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

f

hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

g

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

2A

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021I1818

1

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 20219 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

a

yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

b

ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

da

adolygu ac asesu gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

db

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

c

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

d

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

e

yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

f

hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

g

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

2A

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021I1919

1

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 202110 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

a

yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

b

ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

da

adolygu ac asesu gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

db

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

c

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

d

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

e

yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

f

hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

g

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

2A

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021I2020

1

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 202111 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

a

yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

b

ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

da

adolygu ac asesu gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

db

gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

c

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

d

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

e

yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

f

hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

g

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

2A

Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Deddf Llywodraeth Leol 2003I2121

1

Mae Deddf Llywodraeth Leol 200312 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 101(7A) (materion trosglwyddo staff: cyffredinol) ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

ad

a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;

3

Yn adran 102, yn lle is-adran (7B) (materion trosglwyddo staff: pensiynau) rhodder—

7B

In this section, in relation to Wales, “local authority” means—

a

a county council, county borough council or community council in Wales;

b

a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004I2222

Yn adran 54 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (cyfyngiad ar ddatgelu gwybodaeth)—

a

yn is-adran (1)—

i

ym mharagraff (aa), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”;

ii

ym mharagraff (b), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”;

b

yn is-adran (2)(b), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015I2323

Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 201513 (adroddiadau gan gyrff cyhoeddus ar gynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant), ar ôl is-baragraff (2A) mewnosoder—

2B

Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi) yn yr un ddogfen.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021I2424

Yn adran 174(5) o Ddeddf 2021 (rheoliadau o dan Ddeddf 2021)—

a

ar ôl paragraff (m) mewnosoder—

ma

adran 94 fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

b

ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

na

adran 107(3) fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

c

ar ôl paragraff (o) mewnosoder—

oa

adran 110(1) neu (2) fel y’u cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud fel rhan o gyfres o reoliadau sy’n gysylltiedig â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn a dehongli’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gallu cyfarwyddo cyd-bwyllgorau corfforedig i gyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’u perfformiad.

Mae Rhan 2 hefyd yn mewnosod adran 115A newydd ac Atodlen 10A newydd yn Neddf 2021. Effaith y darpariaethau newydd hyn yw cymhwyso’r rhan fwyaf o Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) i gyd-bwyllgorau corfforedig, gydag addasiadau sy’n gwneud y Bennod honno yn addas ar gyfer amgylchiadau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Bydd Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021, fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan yr adran 115A newydd a’r Atodlen 10A newydd, yn darparu ar gyfer asesu perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o gyd-bwyllgorau corfforedig, yn ogystal â darparu ar gyfer rhoi cefnogaeth a chymorth i gyd-bwyllgorau corfforedig, ac ar gyfer ymyriadau eraill gan Weinidogion Cymru.

Mae paragraff 2 o’r Atodlen 10A newydd yn gwneud rhai addasiadau cyffredinol i gyfeiriadau ym Mhennod 1 o Ran 6, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau at brif gynghorau gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, rhaid darllen yr addasiadau cyffredinol hynny mewn cyfuniad â pharagraffau 3 i 17 o’r Atodlen 10A newydd sy’n gwneud addasiadau ychwanegol ac, mewn achosion penodol, addasiadau gwahanol i gyfeiriadau at brif gynghorau.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio adran 159 o Ddeddf 2021 i greu pwerau a dyletswyddau i rannu gwybodaeth at ddibenion swyddogaethau penodol y caniateir eu harfer mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gydweithredu a rhoi cymorth pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu un neu ragor o gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig yn gwneud adroddiad neu argymhellion mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gan y cyd-bwyllgor corfforedig. Gall hyn olygu sicrhau bod ei aelodau a’i staff yn mynychu cyfarfodydd o’r pwyllgor neu y darperir dogfennau (neu wybodaeth arall). Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd roi sylw i unrhyw adroddiad neu argymhellion o’r fath a gyhoeddir gan y pwyllgor trosolwg a chraffu hwnnw, ac ymateb i’r adroddiad hwnnw neu’r argymhellion hynny.

Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio y mae rhaid i bob un o’r cyd-bwyllgorau corfforedig presennol ei benodi o dan y rheoliadau sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’n darparu bod rhaid i’r is-bwyllgor benodi cadeirydd ac yn gwneud darpariaeth ynghylch pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd a’r weithdrefn bleidleisio.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheolau sefydlog cyd-bwyllgorau corfforedig drwy estyn pŵer presennol Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol fabwysiadu rheolau sefydlog i reoleiddio eu trafodion a’u busnes i gynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r Rhan hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar gyd-bwyllgorau corfforedig i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau. Mae hyn yn cyfateb i adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau amrywiol a chanlyniadol. Mae hyn yn cynnwys diwygio swyddogaethau is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio fel y’u nodir yn y rheoliadau sy’n sefydlu pob un o’r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig presennol.

Gellir cael copi o’r asesiad effaith rheoleiddiol sy’n ymwneud â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.