Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 802 (Cy. 178)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

5 Awst 2022

Enwi a dod i rymLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 5 Awst 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

Diwygiadau i Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001LL+C

2.  Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

3.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—

(a)ar ôl “gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo,” hepgorer “ac”;

(b)yn lle “1995;” rhodder “1995, a”;

(c)ar y diwedd mewnosoder “chyd-bwyllgor corfforedig;”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

4.  Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(a)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(3) benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

5.  Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

6.  Yn rheoliad 7(1)(a), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(aa)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(bb)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

7.  Yn rheoliad 7A(1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

8.  Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “Rheoliad 7(b)” rhodder “rheoliad 7(1)(b)”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i)”;

(c)ym mharagraff (6)(c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

9.  Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 12(a)(ii)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(ii)”;

(b)ar ôl paragraff (3)(a), mewnosoder—

(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

10.  Yn rheoliad 10(10), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

11.  Yn rheoliad 12—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);

(b)ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, a rhaid iddo roi gwybod” hyd at “penderfyniad”;

(c)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(2) Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i:

(a)unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,

(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

(c)Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a

(d)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

12.  Yn rheoliad 13—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i) neu (b)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)”;

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”;

(iii)hepgorer y geiriau o “ac anfon” hyd at “a arweiniodd at yr ymchwiliad”;

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:

(a)unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,

(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

(c)swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a

(d)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.

(1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.;

(c)ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “dan sylw”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 5.8.2022, gweler rhl. 1

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu, pan fo aelod o gyd-bwyllgor corfforedig (neu aelod cyfetholedig) yn destun ymchwiliad, a’i fod hefyd yn aelod (neu’n aelod cyfetholedig) o gyngor cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol, fod yn rhaid anfon gwybodaeth benodedig, adroddiadau penodedig ac argymhellion penodedig i’r cyngor neu’r awdurdod hwnnw hefyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig, a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny, a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2000 p. 22. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosododd rheoliad 3(2)(a) o O.S. 2022/372 (Cy. 92) gyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “relevant authority” yn adran 49 o Ddeddf 2000. Mae adran 49 wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 ac mae’n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.