Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 805 (Cy. 181)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

5 Awst 2022

Yn unol ag adran 49(5)(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau perthnasol y maent yn ystyried eu bod yn briodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001LL+C

2.  Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn erthygl 2 (Dehongli) o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001(3), ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder—

(ca)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)(4),.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau perthnasol, gan wneud yr egwyddorion yn yr Atodlen i’r Gorchymyn yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn yn nodi’r egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2000 p. 22. Diwygiwyd adran 49(2) gan baragraff 8(3) o Atodlen 4 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd cyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “relevant authority” yn adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan O.S. 2022/372.

(2)

Diwygiwyd adran 49(5) gan baragraff 8(5) o Atodlen 4 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), paragraff 53(3) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) a pharagraff 2(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10).

(3)

O.S. 2001/2276 (Cy. 166), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.