Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 806 (Cy. 182)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2) a (3)() a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000() ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.
Diwygio’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
2. Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rhan 1 (Dehongli) o’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008() ar ôl “cyngor cymuned” mewnosoder—
“(ca)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)(),”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol fel y’i nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau perthnasol. Effaith y diwygiad fyddai gwneud y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gorfodol yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol pan wnaed y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Back to top