2022 Rhif 83 (Cy. 29)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 16—

a

ym mharagraff (1)—

i

o dan y pennawd “Cam 2”, hepgorer “a Cham 4”;

ii

hepgorer—

Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau o dan do yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;

b

pan fo’n ofynnol i bersonau aros o dan do i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.

Cam 4

b

hepgorer paragraff (1A);

c

hepgorer paragraff (3)(ba);

d

hepgorer paragraff (4A).

3

Hepgorer rheoliadau 16ZA ac 16ZB.

4

Yn rheoliad 16A(1), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

ca

na all y person, am resymau meddygol—

i

cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig, na

ii

cymryd prawf cymhwysol.

5

Hepgorer Rhan 4B.

6

Yn rheoliad 20—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “mynediad iddynt” mewnosoder “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;

b

hepgorer paragraff (3)(h).

7

Yn rheoliad 26, hepgorer “, 16ZA(1), 16ZB”.

8

Yn rheoliad 37, hepgorer paragraff (2).

9

Hepgorer rheoliad 42A.

10

Yn Atodlen 5, yng ngholofn 3 o’r tabl ym mharagraff 1, yn lle “Lefel Rhybudd 2” rhodder “Dim lefel rhybudd”.

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:

  • nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull;

  • nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau ar unrhyw adeg;

  • nad oes unrhyw ofynion i unrhyw fathau penodol o fusnesau neu wasanaethau gau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu:

  • rheoliad 18B o’r prif Reoliadau, sy’n darparu na chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw at ddibenion gwaith pan fo’n rhesymol ymarferol i’r person weithio gartref;

  • rheoliad 42A o’r prif Reoliadau, sy’n darparu ar gyfer gorfodi rheoliad 18B;

  • darpariaethau penodol yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau sy’n ymwneud â chaniatáu, neu ei gwneud yn ofynnol, i bersonau sydd fel arfer yn gweithio mewn mangreoedd rheoleiddiedig weithio gartref, a darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau o dan do yn y fangre;

  • rheoliadau 16ZA ac 16ZB, sy’n gwneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd trwyddedig a mangreoedd manwerthu.

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i’r darpariaethau a nodir uchod ac Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd. Mae’r gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do hefyd yn parhau i fod yn gymwys, ond mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i berson wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n parhau i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn newid cymhwystra i fod yn bresennol mewn mangreoedd penodol o dan reoliad 16A (a adwaenir yn gyffredin fel “pàs COVID”) i gynnwys personau sydd â thystiolaeth na allant, am resymau meddygol, gael eu brechu neu gymryd prawf cymhwysol am y coronafeirws.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.