Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/09/2022.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
5 Medi 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Medi 2022
Yn dod i rym
30 Medi 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(2), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
2. Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4), ym mharagraff (9)(b)(ii), yn lle “diwedd 30 Medi 2022” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
3. Yn rheoliad 12 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007(5), ym mharagraff (a) yn lle “chyn diwedd 30 Medi 2022” rhodder “chyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE)—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”; a
(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir), yn lle paragraff 4 rhodder—
“(4) Nid yw paragraffau (1)(a)(vi) nac (1)(b)(ii) yn gymwys—
(a)os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn 1 Ionawr 2024; a
(b)pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad—
(i)yn achos paragraff (1)(a)(vi), o Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu
(ii)yn achos paragraff (1)(b)(ii), o Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
6. Yn rheoliad 22 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(8), ym mharagraff (1)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
7. Yn rheoliad 15 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(9), ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
8. Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Mêl (Cymru) 2015(10), ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
9. Yn rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015(11), ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
10. Yn rheoliad 10 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016(12), ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
11. Yn Erthygl 2 (labelu pan na fo gwybodaeth ar gael) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(13), ym mharagraffau 3 a 4, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
12. Yn Erthygl 30 (wyau a fewnforir) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau(14), ym mharagraff 3, yn lle’r geiriau o “for a period” hyd at “falls” rhodder “for the period beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu(15) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 7 (cymysgeddau), ym mharagraff 4(b), yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
(3) Yn Atodiad 1 (marchnata)—
(a)yn Rhan A (safon marchnata cyffredinol), ym mhwynt 4(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”; a
(b)yn Rhan B (safonau marchnata penodol), ym mhob un o Rannau 1 i 10, ym mhwynt 6(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
14. Yn Erthygl 2 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012 ar safonau marchnata ar gyfer olew olewydd (codeiddio)(16), ym mhwynt (b) o’r trydydd paragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
15. Yn Erthygl 46 (dynodiad y potelwr, y cynhyrchydd, y mewnforiwr a’r gwerthwr) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad(17), ym mharagraff 1, ym mhwyntiau (a) a (d), yn lle “30 September 2022” rhodder “31 December 2023”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, un o Weinidogion Cymru
5 Medi 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol a chyfraith yr UE a ddargedwir mewn perthynas â labelu bwyd yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn estyn trefniadau trosiannol blaenorol, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd mis Medi 2022, fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys hyd at ddiwedd 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 16. Mae swyddogaethau’r “Secretary of State” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Gweler diwygiadau i adrannau 16 ac 48 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gan adran 40 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi. Mae’r pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990, o’u darllen ynghyd â pharagraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), yn caniatáu gwneud addasiadau i fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir fel y diffinnir “retained direct minor EU legislation” yn adran 7(6) o’r Ddeddf. Diffinnir “modify” yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ac mae’n cynnwys “amend, repeal or revoke”.
Mewnosodwyd is-adran (4A) gan baragraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.
EUR 2002/178.
O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/371 (Cy. 114).
O.S. 2007/389 (Cy. 40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/371 (Cy. 114).
O.S. 2009/1551 (Cy. 151), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1376 (Cy. 242). Daeth O.S. 2019/1376 (Cy. 242) i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 ac fe’i diwygiwyd cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1308 (Cy. 289).
O.S. 2011/991 (Cy. 145); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/3270 (Cy. 320), O.S. 2018/1188 (Cy. 242) ac O.S. 2019/732 (Cy. 137). Daeth O.S. 2019/732 (Cy. 137) i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020.
O.S. 2013/2591 (Cy. 255), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/371 (Cy. 114).
O.S. 2014/2303 (Cy. 227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/911 (Cy. 207).
O.S. 2015/1507 (Cy. 174), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/371 (Cy. 114).
O.S. 2015/1519 (Cy. 177), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/911 (Cy. 207).
O.S. 2016/1130 (Cy. 270), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/371 (Cy. 114).
EUR 2000/1825, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/822. Daeth O.S. 2019/822 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 ac fe’i diwygiwyd cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1453 ac O.S. 2020/1481.
EUR 2008/589, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/1402 ac O.S. 2019/1422. Daeth O.S. 2019/1402 ac O.S. 2019/1422 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020. Diwygiwyd O.S. 2019/1402 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1445 ac O.S. 2020/1452. Diwygiwyd O.S. 2019/1422 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1445 ac O.S. 2020/1453.
EUR 2011/543, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/822, O.S. 2019/828, O.S. 2021/756, O.S. 2021/1396 ac O.S. 2022/608. Daeth O.S. 2019/822 ac O.S. 2019/828 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020. Diwygiwyd O.S. 2019/822 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2019/1405 ac O.S. 2020/1453, a gwnaeth yr olaf o’r rhain hefyd ddiwygio O.S. 2019/1405 cyn iddo ddod i rym. Diwygiwyd O.S. 2020/828 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1452.
EUR 2012/29, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/1422. Daeth O.S. 2019/1422 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 ac fe’i diwygiwyd cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1453.
EUR 2019/33, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1637, O.S. 2020/1661 ac O.S. 2021/632.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: