2022 Rhif 939 (Cy. 203)
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19902, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwantI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2022.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006I22
Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20064, ym mharagraff (9)(b)(ii), yn lle “diwedd 30 Medi 2022” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007I33
Yn rheoliad 12 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 20075, ym mharagraff (a) yn lle “chyn diwedd 30 Medi 2022” rhodder “chyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009I44
1
Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 20096 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE)—
a
ym mharagraff (1)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”; a
b
ym mharagraff (2)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011I55
1
Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20117 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4 (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir), yn lle paragraff 4 rhodder—
4
Nid yw paragraffau (1)(a)(vi) nac (1)(b)(ii) yn gymwys—
a
os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn 1 Ionawr 2024; a
b
pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad—
i
yn achos paragraff (1)(a)(vi), o Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu
ii
yn achos paragraff (1)(b)(ii), o Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013I66
Yn rheoliad 22 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20138, ym mharagraff (1)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014I77
Yn rheoliad 15 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20149, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015I88
Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Mêl (Cymru) 201510, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015I99
Yn rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 201511, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016I1010
Yn rheoliad 10 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201612, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000I1111
Yn Erthygl 2 (labelu pan na fo gwybodaeth ar gael) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion13, ym mharagraffau 3 a 4, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008I1212
Yn Erthygl 30 (wyau a fewnforir) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau14, ym mharagraff 3, yn lle’r geiriau o “for a period” hyd at “falls” rhodder “for the period beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011I1313
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu15 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn Erthygl 7 (cymysgeddau), ym mharagraff 4(b), yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
3
Yn Atodiad 1 (marchnata)—
a
yn Rhan A (safon marchnata cyffredinol), ym mhwynt 4(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”; a
b
yn Rhan B (safonau marchnata penodol), ym mhob un o Rannau 1 i 10, ym mhwynt 6(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012I1414
Yn Erthygl 2 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012 ar safonau marchnata ar gyfer olew olewydd (codeiddio)16, ym mhwynt (b) o’r trydydd paragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33I1515
Yn Erthygl 46 (dynodiad y potelwr, y cynhyrchydd, y mewnforiwr a’r gwerthwr) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad17, ym mharagraff 1, ym mhwyntiau (a) a (d), yn lle “30 September 2022” rhodder “31 December 2023”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)