2022 Rhif 948 (Cy. 204)

Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 38 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag Erthygl 39(7) o’r Rheoliad hwnnw2, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol, a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi, cychwyn, dod i ben, cymhwyso a rhychwant1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022 a deuant i ben ar 1 Ebrill 2023.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

Dirymu2

Mae Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 20223 wedi eu dirymu o 1 Hydref 2022.

Diwygiadau i Reoliad (EU) Rhif 576/20133

1

Mae Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodiad 4 (gofynion dilysrwydd ar gyfer prawf titradiad gwrthgorff y gynddaredd)—

a

ym mhwynt 2(b), ar y diwedd mewnosoder “, except where point 2A applies”;

b

ar ôl pwynt 2, mewnosoder—

2A

This point applies where, the Welsh Ministers have administered a test which measures a level of antibody to rabies virus in serum of the animal tested equal to or greater than 0.3 EU/ml and using an enzyme linked immunosorbent assay method that meets the validation standards set out in Chapter 1.1.6 of the Manual of Diagnostic Tests and Vaccines for Terrestrial Animals 2022;4

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022 o 1 Hydref 2022.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol (EUR 576/2013), er mwyn caniatáu i brawf titr gwrthgorff arall gael ei ddefnyddio ar anifeiliaid anwes sy’n dod i Gymru o’r tu allan i’r DU. Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 1 Ebrill 2023.

Mae copi o’r safon ddilysu y cyfeirir ati yn rheoliad 3 ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.