- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
22 Medi 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 40(2)(c) o Ddeddf Iechyd 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023.
2. 26 Medi 2023 yw’r diwrnod a benodwyd i adran 31(2) o Ddeddf Iechyd 2009 ddod i rym.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22nd September 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 31(2) o’r Ddeddf, sy’n diwygio adran 107(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae adran 107 o Ddeddf 2006 yn rhoi pŵer i Fyrddau Iechyd Lleol i ddileu enw ymarferydd o restr fferyllol neu restr offthalmig pan fo amodau penodol wedi eu bodloni. Mae adran 31(2) o’r Ddeddf yn diwygio’r diffiniad o “practitioner” (“ ymarferydd”) yn adran 107(9) o Ddeddf 2006 i egluro bod cyfeiriadau at ymarferwyr ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2006 yn gyfeiriadau at ymarferwyr sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr offthalmig.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3. | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63) |
Atodlen 3, paragraffau 14 i 17. | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63) |
Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf 2006. | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63) |
Adran 22 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. | 1 Chwefror 2012 | O.S. 2011/2362 (Cy. 248) (C. 83) |
Atodlen 4, paragraffau 7(6), 8(1), 8(3) ac, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 7(6), 8(1) ac 8(3), paragraff 2. | 1 Mehefin 2012 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Adran 21 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (at ddiben siopau mawr ac eithrio swmpwerthwyr tybaco a gwerthwyr tybaco arbenigol). | 3 Rhagfyr 2012 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Atodlen 4, paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 6(2)), paragraff 10, paragraffau 11 a 12 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), paragraff 2 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 6(2), 6(1), 10, 11 a 12), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny). | 3 Rhagfyr 2012 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Adran 20 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. | 6 Ebrill 2015 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Adran 21 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. | 6 Ebrill 2015 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Atodlen 4, paragraff 2 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), paragraff 3, paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny). | 6 Ebrill 2015 | O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45) |
Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 36 | 19 Ionawr 2010 | O.S. 2010/30 (C. 5) |
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno. | 1 Hydref 2011 | O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49) |
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno. | 6 Ebrill 2012 | O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49) |
Y cofnodion yn Atodlen 6 sy’n ymwneud â Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac adran 38 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r cofnodion hynny yn Atodlen 6. | 31 Hydref 2012 | O.S. 2012/2647 (C. 105) |
Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C. 5); O.S. 2010/779 (C. 52); O.S. 2010/1068 (C. 70); O.S. 2010/1863 (C. 95); O.S. 2011/1255 (C. 49); O.S. 2012/1902 (C. 76) ac O.S. 2012/2647 (C. 105).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: