Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1064 (Cy. 180)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Gwnaed

4 Hydref 2023

Yn dod i rym

9 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1), (2)(d) a (4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1), yn gwneud y Rheolau a ganlyn.

Yn unol ag adran 36A(7) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 36A(10) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheolau hyn i rym ar 9 Hydref 2023.

(3Yn y Rheolau hyn, ystyr “Rheolau 2021” yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021(2).

Diwygio rheol 3 o Reolau 2021

2.  Yn rheol 3 o Reolau 2021 (dehongli), ym mharagraff (3)—

(a)yn y geiriau mewn cromfachau, yn lle “adran 202(1)” rhodder “adrannau 202(1) a 203(1)”;

(b)yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

system mwyafrif syml” (“simple majority system”);

system pleidlais sengl drosglwyddadwy” (“single transferable vote system”).

Diwygio Rhan 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021

3.—(1Mae Rhan 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 21 (y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid canfod y canlyniad—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4A..

(3Yn rheol 22 (y papurau pleidleisio)—

(a)ym mharagraff (3), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2A, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw..

(4Yn rheol 28 (papurau pleidleisio post)—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “Atodiad 4” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A)  Ym mharagraff (1)(b), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4A..

(5Yn rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ym mharagraff (6)(a), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(c)ym mharagraff (7), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(i)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5;

(ii)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5A..

(6Yn rheol 32 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio)—

(a)ym mharagraff (9), yn lle “Atodiad 6” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A)  Ym mharagraff (9), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6A.;

(c)ym mharagraff (11), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;

(d)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(12)  Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i roi’r rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’i ddewis cyntaf;

(b)esboniad i’r pleidleisiwr y caiff wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ychwanegol ag y dymuna, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hyn drwy roi’r rhif 2 gyferbyn â’i ail ddewis, y rhif 3 gyferbyn â’i drydydd dewis ac yn y blaen..

Mewnosod Rhan 4A o Atodlen 1 i Reolau 2021

4.—(1Yn lle pennawd Rhan 4 o Atodlen 1 i Reolau 2021 rhodder—

Cyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Mwyafrif Syml .

(2Ar ddiwedd Rhan 4 mewnosoder—

Rhan 4ACyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

PENNOD 1Darpariaethau rhagarweiniol

Trefniadau cyfrif y pleidleisiau

60A.(1)  Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantau cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.

Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif

60B.(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)yr asiantau etholiadol;

(d)yr asiantau cyfrif;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(3) (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(3) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r asiantau etholiadol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantau cyfrif ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(5) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddwyd y dewis cyntaf o’i ran ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan yr asiantau cyfrif hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983(4) (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(7) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002(5) (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Y cyfrif: camau

60C.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif, agor pob bocs pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.

(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau etholiadol, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio, y papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol sy’n gofyn amdano.

(6) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (7)), a

(b)cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(7) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn y ward etholiadol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(8) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983(6), os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(9) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(10) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—

(a)yn achos papurau pleidleisio post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un bocs pleidleisio o leiaf, a

(b)yn achos papurau pleidleisio o focs pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un bocs pleidleisio arall o leiaf.

(11) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Y cyfrif: cyffredinol

60D.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau hyd nes y bydd pob swydd wag wedi ei llenwi, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(2) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(3) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd

60E.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio nad yw’r rhif “1” ar ei ben ei hun wedi ei nodi arno er mwyn dangos dewis cyntaf o ran ymgeisydd penodol;

(c)papur pleidleisio y mae’r rhif “1” ar ei ben ei hun i ddangos dewis cyntaf wedi ei nodi arno gyferbyn ag enw mwy nag un ymgeisydd;

(d)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(e)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol, neu

(b)heblaw drwy ddefnyddio geiriau neu unrhyw farc arall yn lle ffigur.

(3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig, os yw’n glir o’r papur pleidleisio, ym marn y swyddog canlyniadau, fod y pleidleisiwr wedi nodi’n glir ddewis neu ddewisiadau.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.

(5) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.

(7) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (1).

PENNOD 2Canfod y Canlyniad

Dehongli

60F.  Yn y Bennod hon—

ystyr “cam o’r cyfrif” (“stage of the count”) yw—

(a)

pennu’r pleidleisiau dewis cyntaf ar gyfer pob ymgeisydd;

(b)

trosglwyddo papurau trosglwyddadwy ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ac sydd â phleidleisiau dros ben (gweler rheolau 60J a 60K);

(c)

eithrio un ymgeisydd neu ragor ar unrhyw adeg benodol (gweler rheol 60O);

ystyr “cwota” (“quota”) yw’r nifer a gyfrifir yn unol â rheol 60H;

ystyr “cyfrif” (“count”) yw’r holl weithrediadau sy’n ymwneud â chyfrif dewisiadau cyntaf a gofnodwyd o ran ymgeiswyr, trosglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ac y mae ganddynt bleidleisiau dros ben, a throsglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr sydd wedi eu heithrio o dan reol 60O;

ystyr “dewis nesaf sydd ar gael” (“next available preference”) yw dewis sy’n ail ddewis neu’n ddewis pellach mewn trefn olynol o ran ymgeisydd sy’n parhau (ac felly nid yw’n cynnwys dewis o ran ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol na dewis o ran ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 60O);

ystyr “pleidleisiau dros ben” (“surplus”) yw nifer y pleidleisiau sydd uwchlaw’r cwota o blith cyfanswm nifer y pleidleisiau dros unrhyw ymgeisydd;

ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” (“continuing candidate”) yw unrhyw ymgeisydd nad yw eisoes yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ethol ac nad yw wedi ei eithrio o dan reol 60O.

Cyfrif pleidleisiau dewis cyntaf

60G.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio dilys yn grwpiau yn ôl yr ymgeiswyr y rhoddwyd y pleidleisiau dewis cyntaf iddynt.

(2) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp, a

(b)cofnodi’r niferoedd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ganfod a chofnodi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys.

Pennu’r cwota

60H.  Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn i bennu nifer y pleidleisiau sy’n ddigon i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd (“y cwota”).

Cam 1

Cymryd cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys a gofnodwyd ar gyfer y ward etholiadol o dan reol 60G(3).

Cam 2

Cymryd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer y ward etholiadol ac ychwanegu un.

Cam 3

Rhannu’r nifer a gymerwyd yng ngham 1 â’r nifer a gymerwyd yng ngham 2. Os yw canlyniad y rhannu yn cynnwys lleoedd degol, eu hanwybyddu.

Cam 4

Ychwanegu un at ganlyniad y rhannu yng ngham 3 (gan anwybyddu unrhyw ddegolion). Y nifer hwn yw’r cwota.

Dychwelyd cynghorwyr

60I.(1) Pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, trinnir yr ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol.

(2) At ddiben pennu a yw nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros unrhyw ymgeisydd yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, mae’r ymgeisydd i’w gredydu ag un bleidlais ar gyfer pob papur pleidleisio y rhoddwyd pleidlais dewis cyntaf i’r ymgeisydd arno.

(3) Mae rheolau 60J, 60K, 60O a 60P yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer y pleidleisiau sydd i’w credydu i ymgeisydd pan fo papur pleidleisio y rhoddir ail ddewis neu ddewis pellach o ran yr ymgeisydd arno yn cael ei drosglwyddo i’r ymgeisydd yn unol â’r rheolau hynny.

(4) Caiff ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ei ddychwelyd fel cynghorydd pan fydd y swyddog canlyniadau’n datgan bod yr ymgeisydd wedi ei ethol yn unol â rheol 60W.

(5) Ar gyfer ystyr “cwota”, gweler rheol 60F.

Trosglwyddiadau pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf uwchlaw’r cwota

60J.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir pleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd arnynt fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddir y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill. Dyma’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(7) Gweler hefyd—

reol 60L (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 60M (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 60N (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddiadau eraill pan fo’r pleidleisiau uwchlaw’r cwota

60K.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota ar ddiwedd unrhyw gam o’r cyfrif sy’n cynnwys trosglwyddo papurau pleidleisio.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau a drosglwyddwyd a gafwyd ddiwethaf gan yr ymgeisydd hwnnw fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill.

Cam 3

Cymharu’r nifer a geir ar ôl cam 2 â gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r papurau pleidleisio yn awr yn cael eu trosglwyddo oddi wrtho.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn llai na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, neu’n gyfwerth â’r bleidlais honno, y nifer hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, gwerth y bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(7) Gweler hefyd—

reol 60L (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 60M (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 60N (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Amgylchiadau pan na throsglwyddir pleidleisiau o dan reol 60J neu 60K

60L.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i wneud trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K hyd nes—

(a)nad oes ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol sydd â phleidleisiau dros ben, neu

(b)bod pob swydd wag wedi ei llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeisydd hwnnw.

(3) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ddau ymgeisydd sy’n parhau neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Nid yw rheolau 60J a 60K yn gymwys i etholiad pan nad oes ond un swydd wag.

(5) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Trefn trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K

60M.(1) Os oes gan ddau ymgeisydd neu ragor, ar unrhyw gam o’r cyfrif, bleidleisiau dros ben yr ymdrinnir â hwy o dan reol 60J neu 60K, rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau dros ben gael eu trosglwyddo gyntaf.

(2) Os yw’r pleidleisiau dros ben mewn cysylltiad â dau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal, rhaid i bapurau trosglwyddadwy yr ymgeisydd a oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd eu pleidleisiau’n anghyfartal gael eu trosglwyddo gyntaf.

(3) Os oedd y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i ddau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal ar bob cam o’r cyfrif—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr hynny drwy fwrw coelbren, a

(b)rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid gael eu trosglwyddo gyntaf.

(4) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K: darpariaeth atodol

60N.(1) Mae pob trosglwyddiad o dan reol 60J neu 60K o ran yr holl bapurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeisydd sydd â phleidleisiau dros ben yn ffurfio cam yn y cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau’r cam hwnnw—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd,

(b)ychwanegu’r gwerth hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi fel pleidleisiau anhrosglwyddadwy y gwahaniaeth rhwng y pleidleisiau dros ben a chyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd, a

(d)ychwanegu’r gwahaniaeth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer yr holl ymgeiswyr, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 60J neu 60K fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth trosglwyddo y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60J neu 60K(2)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

(6) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Eithrio ymgeiswyr a throsglwyddo papurau pleidleisio dewis cyntaf

60O.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo’r holl bapurau trosglwyddadwy y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio o’r etholiad, ar y cam hwnnw, yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau bryd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio dau ymgeisydd neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau pan fo cyfanswm nifer pleidleisiau’r ymgeiswyr hynny, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nad ydynt wedi eu trosglwyddo, yn llai na nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir arnynt bleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr a eithriwyd fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(6) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, a’r gwerth hwnnw fydd 1.

(7) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau weithredu nesaf yn unol â rheol 60P.

(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ar ôl y trosglwyddiadau ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(10) Gweler hefyd—

reol 60Q (sy’n ymdrin â’r drefn eithrio pan fo gan fwy nag un ymgeisydd y nifer lleiaf o bleidleisiau);

rheol 60R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddo papurau pleidleisio eraill ymgeiswyr a eithriwyd

60P.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo holl bapurau trosglwyddadwy ymgeisydd neu ymgeiswyr a eithriwyd y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan reol 60O, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’n grwpiau yr holl bapurau pleidleisio, os oes rhai, a drosglwyddwyd i’r ymgeisydd a eithriwyd (neu i unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr a eithriwyd) ar gam cynharach o’r cyfrif yn ôl y gwerth trosglwyddo a oedd i’r pleidleisiau ar y papurau pleidleisio pan gafodd yr ymgeisydd hwnnw hwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf yn grwpiau pellach fel a ganlyn—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, sef y gwerth a oedd i’r bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd y mae’r papur yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho.

(6)  Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau ailadrodd y camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grwpiau sy’n weddill o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2), gan ymdrin â phob grŵp mewn trefn ddisgynnol yn ôl gwerth y pleidleisiau hyd nes—

(a)naill ai nad oes swyddi gwag ar ôl i’w llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), neu

(b)yr ymdriniwyd â phob grŵp.

(7) Mae paragraff (6) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau sydd â’r gwerth trosglwyddo uchaf neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r grwpiau sy’n weddill.

(8) Mewn achos pan ymdriniwyd â phob grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2) ond bod un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen fel a ganlyn—

(a)yn unol â rheol 60K os oes gan un ymgeisydd neu ragor a drinnir fel pe bai wedi ei ethol neu fel pe baent wedi eu hethol ar ôl trosglwyddo’r papurau pleidleisio o dan reol 60O neu’r rheol hon bleidleisiau dros ben, neu

(b)fel arall yn unol â rheol 60O.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(10) Gweler hefyd reol 60R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Y drefn eithrio

60Q.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu pa ymgeisydd i’w eithrio o dan reol 60O(2),

(b)pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau, ac

(c)pan na fo gan yr un ymgeisydd arall lai o bleidleisiau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio p’un bynnag o’r ymgeiswyr a oedd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd ganddynt nifer anghyfartal o bleidleisiau.

(3) Pan oedd nifer y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i’r ymgeiswyr yn gyfartal ar bob cam, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)penderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)eithrio’r ymgeisydd yr aeth y coelbren o’i blaid.

Eithrio ymgeiswyr: darpariaeth atodol

60R.(1) Mae eithrio ymgeisydd, neu ddau ymgeisydd neu ragor gyda’i gilydd, o dan reol 60O yn ffurfio cam pellach o’r cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn ar ôl gorffen trosglwyddo papurau trosglwyddadwy o dan reol 60O(5) neu ar ôl ymdrin â grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan reol 60P(2) yn unol â rheol 60P(3) i (5)—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth y pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd o dan reol 60O(5) neu 60P(4);

(b)ychwanegu’r cyfanswm hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi gwerth y pleidleisiau yn y grwpiau o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60O(4) neu 60P(3), a

(d)ychwanegu’r gwerth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 60O(5) neu 60P(4) fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60O(4) neu 60P(3)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

Llenwi swyddi gwag olaf

60S.(1) Pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, trinnir yr ymgeiswyr sy’n parhau fel pe baent wedi eu hethol.

(2) Pan nad oes ond un swydd yn dal heb ei llenwi, rhaid trin yr ymgeisydd sy’n parhau sydd wedi ei gredydu bryd hynny â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel pe bai wedi ei ethol os yw’r nifer hwnnw o bleidleisiau yn cyfateb i gyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeiswyr eraill sy’n parhau ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nas trosglwyddwyd, neu os yw’n fwy na hynny.

(3) Pan ellir llenwi’r swyddi olaf o dan y rheol hon, ni chaniateir trosglwyddo pleidleisiau ymhellach.

(4) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Ailgyfrif

60T.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau pob cam o’r cyfrif, hysbysu’r holl ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol sy’n bresennol bryd hynny o’i fwriad, yn ddarostyngedig i gais am ailgyfrif, i fwrw ymlaen i’r cam nesaf.

(2) Cyn i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen, caiff unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiadol sy’n bresennol yn y cyfrif ofyn i’r cam diwethaf a gwblhawyd gael ei ailgyfrif.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(4) Os na cheir cais rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â cham nesaf y cyfrif.

(5) Pan ddeuir o hyd i gamgymeriad o ganlyniad i ailgyfrif, rhaid i’r swyddog canlyniadau, pan fo hynny’n angenrheidiol, ddiwygio unrhyw ganlyniadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Trefn ethol yr ymgeiswyr

60U.(1) Y drefn y trinnir ymgeiswyr y mae eu pleidlais uwchlaw’r cwota fel pe baent wedi eu hethol ynddi yw’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi neu’r drefn y byddai’r pleidleisiau dros ben hynny wedi eu trosglwyddo ynddi oni bai am reol 60L(2) neu (3).

(2) Mae ymgeisydd a gredydwyd â nifer o bleidleisiau sy’n cyfateb i’r cwota i’w roi (yn nhrefn y rheini a drinnir fel pe baent wedi eu hethol) ar ôl unrhyw ymgeiswyr eraill a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ar yr un pryd ac yr oedd ganddynt bleidleisiau dros ben.

(3) Ar gyfer ystyr “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio

60V.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio, trosglwyddo papurau pleidleisio neu eithrio ymgeiswyr yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad mewn etholiad lle ceir gornest

60W.(1) Pan fo pob cam o’r cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeiswyr sydd wedi eu trin fel pe baent wedi eu hethol o dan y Bennod hon wedi eu hethol.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd;

(b)o nifer y dewisiadau cyntaf a’r dewisiadau pellach o ran pob ymgeisydd (p’un a’i hetholwyd ai peidio);

(c)o nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd a’u gwerth trosglwyddo ar bob cam o’r cyfrif;

(d)o nifer y pleidleisiau a gredydwyd i bob ymgeisydd ar bob cam o’r cyfrif;

(e)o nifer y papurau pleidleisio anhrosglwyddadwy a nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy ar bob cam o’r cyfrif;

(f)o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd..

Diwygio Rhan 5 o Atodlen 1 i Reolau 2021

5.  Yn rheol 62 (danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest) o Atodlen 1 i Reolau 2021—

(a)ym mharagraff (2)(c), ar ôl “reol 56(7)” mewnosoder “neu reol 60E(6)”;

(b)ym mharagraff (2)(d), ar ôl “reol 54(5)” mewnosoder “neu reol 60C(5)”.

Diwygio’r Atodiadau i Atodlen 1 i Reolau 2021

6.—(1Mae’r Atodiadau i Atodlen 1 i Reolau 2021 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl Atodiad 2 mewnosoder Atodiad 2A fel y’i nodir yn Atodlen 1.

(3Ar ôl Atodiad 4 mewnosoder Atodiad 4A fel y’i nodir yn Atodlen 2.

(4Ar ôl Atodiad 5 mewnosoder Atodiad 5A fel y’i nodir yn Atodlen 3.

(5Ar ôl Atodiad 6 mewnosoder Atodiad 6A fel y’i nodir yn Atodlen 4.

Diwygio Rhan 3 o Atodlen 2 i Reolau 2021

7.—(1Mae Rhan 3 o Atodlen 2 i Reolau 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 21 (y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd), yn lle paragraff (2), rhodder—

(2) Rhaid canfod y canlyniad—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4A..

(3Yn rheol 22 (y papurau pleidleisio)—

(a)ym mharagraff (3), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2A, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw..

(4Yn rheol 28 (papurau pleidleisio post)—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “Atodiad 4” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ym mharagraff (1)(b), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4A..

(5Yn rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ym mharagraff (6)(a), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(c)ym mharagraff (8), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(i)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5;

(ii)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5A..

(6Yn rheol 32 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio)—

(a)ym mharagraff (11), yn lle “Atodiad 6” rhodder “yr Atodiad cymwys”;

(b)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(11A) Ym mharagraff (11), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6A.;

(c)ym mharagraff (13), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;

(d)ar ôl paragraff (13) mewnosoder—

(13A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch marcio’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio ac, mewn perthynas ag etholiad y brif ardal, rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys y canlynol—

(a)cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i roi’r rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’i ddewis cyntaf;

(b)esboniad i’r pleidleisiwr y caiff wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ychwanegol ag y dymuna, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hyn drwy roi’r rhif 2 gyferbyn â’i ail ddewis, y rhif 3 gyferbyn â’i drydydd dewis ac yn y blaen..

Mewnosod Rhan 4A o Atodlen 2 i Reolau 2021

8.—(1Yn lle pennawd Rhan 4 o Atodlen 2 i Reolau 2021 rhodder—

Cyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Mwyafrif Syml .

(2Ar ddiwedd Rhan 4 mewnosoder—

Rhan 4ACyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

PENNOD 1Darpariaethau rhagarweiniol

Trosolwg o’r rheolau a dehongli

64A.(1) Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.

(2) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 64B (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 64C (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 64D (gwahanu papurau pleidleisio etc.);

(d)y rheolau ym Mhennod 2 (canfod y canlyniad).

(3) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 64B(1) a (3) i (8) (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 64E (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 64F (agor cynwysyddion etc.);

(d)y rheolau ym Mhennod 2 (canfod y canlyniad).

(4) Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;

(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.

Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon

64B.(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 64D(2) i (10) a 64F ac o dan y rheolau ym Mhennod 2—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)asiantau etholiadol y brif ardal;

(d)asiantau cyfrif y brif ardal;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2) Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 64D(2) i (10).

(3) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 64D(2) i (10) neu 64F neu o dan unrhyw un neu ragor o’r rheolau ym Mhennod 2.

(4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(5) At ddibenion paragraff (4)(b), “y personau priodol” yw—

(a)yn achos trafodion o dan reol 64D(2) i (10), asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill;

(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, asiantau etholiadol y brif ardal.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(7) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddwyd y dewis cyntaf o’i ran ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y brif ardal hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(9) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

64C.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 64D cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 64D.

(4) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

64D.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill—

(a)agor pob bocs pleidleisio a thynnu’r papurau pleidleisio,

(b)gwahanu’r papurau pleidleisio yn ôl yr etholiad y’u defnyddiwyd ynddo,

(c)cyfrif y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad, a

(d)cofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.

(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4) Pan ddefnyddiwyd bocsys pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y brif ardal i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y bocs pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol prif ardal, ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.

(7) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 64G), a

(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol.

(8) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, a

(b)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.

(9) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—

(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac

(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.

(10) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y brif ardal gyda’i gilydd.

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

64E.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.

(4) Tra bydd yn cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

64F.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 64E(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal.

(3) Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(7) neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(8), rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(4) Yna, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.

Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post

64G.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 64D(7)(a) a 64F(3).

(2) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(3) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) ddyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(4) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(5) “Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—

(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,

(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac

(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.

Y cyfrif: cyffredinol

64H.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 64D(10) neu 64F(4).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(3) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(4) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif prif ardal sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd

64I.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio nad yw’r rhif “1” ar ei ben ei hun wedi ei nodi arno er mwyn dangos dewis cyntaf o ran ymgeisydd penodol;

(c)papur pleidleisio y mae’r rhif “1” ar ei ben ei hun i ddangos dewis cyntaf wedi ei nodi arno gyferbyn ag enw mwy nag un ymgeisydd;

(d)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(e)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol, neu

(b)heblaw drwy ddefnyddio geiriau neu unrhyw farc arall yn lle ffigur.

(3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig, os yw’n glir o’r papur pleidleisio, ym marn y swyddog canlyniadau, fod y pleidleisiwr wedi nodi’n glir ddewis neu ddewisiadau.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.

(5) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.

(7) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (1).

PENNOD 2Canfod y Canlyniad

Cymhwyso a dehongli

64J.  Yn y Bennod hon—

ystyr “cam o’r cyfrif” (“stage of the count”) yw—

(a)

pennu’r pleidleisiau dewis cyntaf ar gyfer pob ymgeisydd;

(b)

trosglwyddo papurau trosglwyddadwy ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ac sydd â phleidleisiau dros ben (gweler rheolau 64N a 64O);

(c)

eithrio un ymgeisydd neu ragor ar unrhyw adeg benodol (gweler rheol 64S);

ystyr “cwota” (“quota”) yw’r nifer a gyfrifir yn unol â rheol 64L;

ystyr “cyfrif” (“count”) yw’r holl weithrediadau sy’n ymwneud â chyfrif dewisiadau cyntaf a gofnodwyd o ran ymgeiswyr, trosglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ac y mae ganddynt bleidleisiau dros ben, a throsglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr sydd wedi eu heithrio o dan reol 64S;

ystyr “dewis nesaf sydd ar gael” (“next available preference”) yw dewis sy’n ail ddewis neu’n ddewis pellach mewn trefn olynol o ran ymgeisydd sy’n parhau (ac felly nid yw’n cynnwys dewis o ran ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol na dewis o ran ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 64S);

ystyr “pleidleisiau dros ben” (“surplus”) yw nifer y pleidleisiau sydd uwchlaw’r cwota o blith cyfanswm nifer y pleidleisiau dros unrhyw ymgeisydd;

ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” (“continuing candidate”) yw unrhyw ymgeisydd nad yw eisoes yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ethol ac nad yw wedi ei eithrio o dan reol 64S.

Cyfrif pleidleisiau dewis cyntaf

64K.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio dilys yn grwpiau yn ôl yr ymgeiswyr y rhoddwyd y pleidleisiau dewis cyntaf iddynt.

(2) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp, a

(b)cofnodi’r niferoedd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ganfod a chofnodi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys.

Pennu’r cwota

64L.  Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn i bennu nifer y pleidleisiau sy’n ddigon i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd (“y cwota”).

Cam 1

Cymryd cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys a gofnodwyd ar gyfer y ward etholiadol o dan reol 64K(3).

Cam 2

Cymryd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer y ward etholiadol ac ychwanegu un.

Cam 3

Rhannu’r nifer a gymerwyd yng ngham 1 â’r nifer a gymerwyd yng ngham 2. Os yw canlyniad y rhannu yn cynnwys lleoedd degol, eu hanwybyddu.

Cam 4

Ychwanegu un at ganlyniad y rhannu yng ngham 3 (gan anwybyddu unrhyw ddegolion). Y nifer hwn yw’r cwota.

Dychwelyd cynghorwyr

64M.(1) Pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, trinnir yr ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol.

(2) At ddiben pennu a yw nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros unrhyw ymgeisydd yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, mae’r ymgeisydd i’w gredydu ag un bleidlais ar gyfer pob papur pleidleisio y rhoddwyd pleidlais dewis cyntaf i’r ymgeisydd arno.

(3) Mae rheolau 64N, 64O, 64S a 64T yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer y pleidleisiau sydd i’w credydu i ymgeisydd pan fo papur pleidleisio y rhoddir ail ddewis neu ddewis pellach o ran yr ymgeisydd arno yn cael ei drosglwyddo i’r ymgeisydd yn unol â’r rheolau hynny.

(4) Caiff ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ei ddychwelyd fel cynghorydd pan fo’r swyddog canlyniadau’n datgan bod yr ymgeisydd wedi ei ethol yn unol â rheol 64Z1.

(5) Ar gyfer ystyr “cwota”, gweler rheol 64J.

Trosglwyddiadau pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf uwchlaw’r cwota

64N.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir pleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd arnynt fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddir y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill. Dyma’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(7) Gweler hefyd—

reol 64P (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 64Q (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 64R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddiadau eraill pan fo’r pleidleisiau uwchlaw’r cwota

64O.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota ar ddiwedd unrhyw gam o’r cyfrif sy’n cynnwys trosglwyddo papurau pleidleisio.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau a drosglwyddwyd a gafwyd ddiwethaf gan yr ymgeisydd hwnnw fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill.

Cam 3

Cymharu’r nifer a geir ar ôl cam 2 â gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r papurau pleidleisio yn awr yn cael eu trosglwyddo oddi wrtho.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn llai na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, neu’n gyfwerth â’r bleidlais honno, y nifer hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, gwerth y bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(7) Gweler hefyd—

reol 64P (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 64Q (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 64R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Amgylchiadau pan na throsglwyddir pleidleisiau o dan reol 64N neu 64O

64P.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i wneud trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O hyd nes—

(a)nad oes ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol sydd â phleidleisiau dros ben, neu

(b)bod pob swydd wag wedi ei llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeisydd hwnnw.

(3) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ddau ymgeisydd sy’n parhau neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Nid yw rheolau 64N a 64O yn gymwys i etholiad pan nad oes ond un swydd wag.

(5) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Trefn trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O

64Q.(1) Os oes gan ddau ymgeisydd neu ragor, ar unrhyw gam o’r cyfrif, bleidleisiau dros ben yr ymdrinnir â hwy o dan reol 64N neu 64O, rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau dros ben gael eu trosglwyddo gyntaf.

(2) Os yw’r pleidleisiau dros ben mewn cysylltiad â dau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal, rhaid i bapurau trosglwyddadwy yr ymgeisydd a oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd eu pleidleisiau’n anghyfartal gael eu trosglwyddo gyntaf.

(3) Os oedd y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i ddau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal ar bob cam o’r cyfrif—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid gael eu trosglwyddo gyntaf.

(4) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O: darpariaeth atodol

64R.(1) Mae pob trosglwyddiad o dan reol 64N neu 64O o ran yr holl bapurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeisydd sydd â phleidleisiau dros ben yn ffurfio cam yn y cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau’r cam hwnnw—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd,

(b)ychwanegu’r gwerth hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi fel pleidleisiau anhrosglwyddadwy y gwahaniaeth rhwng y pleidleisiau dros ben a chyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd, a

(d)ychwanegu’r gwahaniaeth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer yr holl ymgeiswyr, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 64N neu 64O fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth trosglwyddo y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64N(2) neu 64O(2)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

(6) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Eithrio ymgeiswyr a throsglwyddo papurau pleidleisio dewis cyntaf

64S.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo’r holl bapurau trosglwyddadwy y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio o’r etholiad, ar y cam hwnnw, yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau bryd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio dau ymgeisydd neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau pan fo cyfanswm nifer pleidleisiau’r ymgeiswyr hynny, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nad ydynt wedi eu trosglwyddo, yn llai na nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir arnynt bleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr a eithriwyd fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(6) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, a’r gwerth hwnnw fydd 1.

(7) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau weithredu nesaf yn unol â rheol 64T.

(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ar ôl y trosglwyddiadau ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(10) Gweler hefyd—

reol 64U (sy’n ymdrin â’r drefn eithrio pan fo gan fwy nag un ymgeisydd y nifer lleiaf o bleidleisiau);

rheol 64V (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddo papurau pleidleisio eraill ymgeiswyr a eithriwyd

64T.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo holl bapurau trosglwyddadwy ymgeisydd neu ymgeiswyr a eithriwyd y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan reol 64S, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’n grwpiau yr holl bapurau pleidleisio, os oes rhai, a drosglwyddwyd i’r ymgeisydd a eithriwyd (neu i unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr a eithriwyd) ar gam cynharach o’r cyfrif yn ôl y gwerth trosglwyddo a oedd i’r pleidleisiau pan gafodd yr ymgeisydd hwnnw hwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf yn grwpiau pellach fel a ganlyn—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar y papur pleidleisio ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, sef y gwerth a oedd i’r bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd y mae’r papur yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho.

(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau ailadrodd y camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grwpiau sy’n weddill o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2), gan ymdrin â phob grŵp mewn trefn ddisgynnol yn ôl gwerth y pleidleisiau hyd nes—

(a)naill ai nad oes swyddi gwag ar ôl i’w llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 64W pan fo hynny’n berthnasol), neu

(b)yr ymdriniwyd â phob grŵp.

(7) Mae paragraff (6) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r grwpiau sy’n weddill.

(8) Mewn achos pan ymdriniwyd â phob grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2) ond bod un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen fel a ganlyn—

(a)yn unol â rheol 64O os trinnir unrhyw ymgeisydd, ar y cam hwnnw, fel pe bai wedi ei ethol a bod ganddo bleidleisiau dros ben, a

(b)fel arall yn unol â rheol 64S.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(10) Gweler hefyd reol 64V (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Y drefn eithrio

64U.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu pa ymgeisydd i’w eithrio o dan reol 64S(2),

(b)pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau, ac

(c)pan na fo gan yr un ymgeisydd arall lai o bleidleisiau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio p’un bynnag o’r ymgeiswyr a oedd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd ganddynt nifer anghyfartal o bleidleisiau.

(3) Pan oedd nifer y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i’r ymgeiswyr yn gyfartal ar bob cam, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)penderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)eithrio’r ymgeisydd yr aeth y coelbren o’i blaid.

Eithrio ymgeiswyr: darpariaeth atodol

64V.(1) Mae eithrio ymgeisydd, neu ddau ymgeisydd neu ragor gyda’i gilydd, o dan reol 64S yn ffurfio cam pellach o’r cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn ar ôl gorffen trosglwyddo papurau trosglwyddadwy o dan reol 64S(5) neu ar ôl ymdrin â grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan reol 64T(2) yn unol â rheol 64T(3) i (5)—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth y pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd o dan reol 64S(5) neu 64T(4);

(b)ychwanegu’r cyfanswm hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi gwerth y pleidleisiau yn y grwpiau o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64S(4) neu 64T(3), a

(d)ychwanegu’r gwerth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 64S(5) neu 64T(4) fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64S(4) neu 64T(3)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

Llenwi swyddi gwag olaf

64W.(1) Pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, trinnir yr ymgeiswyr sy’n parhau fel pe baent wedi eu hethol.

(2) Pan nad oes ond un swydd yn dal heb ei llenwi, rhaid trin yr ymgeisydd sy’n parhau sydd wedi ei gredydu bryd hynny â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel pe bai wedi ei ethol os yw’r nifer hwnnw o bleidleisiau yn cyfateb i gyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeiswyr eraill sy’n parhau, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nas trosglwyddwyd, neu os yw’n fwy na hynny.

(3) Pan ellir llenwi’r swyddi olaf o dan y rheol hon, ni chaniateir trosglwyddo pleidleisiau ymhellach.

(4) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Ailgyfrif

64X.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau pob cam o’r cyfrif, hysbysu’r holl ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol sy’n bresennol bryd hynny o’i fwriad, yn ddarostyngedig i gais am ailgyfrif, i fwrw ymlaen i’r cam nesaf.

(2) Cyn i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen, caiff unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiadol sy’n bresennol yn y cyfrif ofyn i’r cam diwethaf a gwblhawyd gael ei ailgyfrif.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(4) Os na cheir cais rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â cham nesaf y cyfrif.

(5) Pan ddeuir o hyd i gamgymeriad o ganlyniad i ailgyfrif, rhaid i’r swyddog canlyniadau, pan fo hynny’n angenrheidiol, ddiwygio unrhyw ganlyniadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Trefn ethol yr ymgeiswyr

64Y.(1) Y drefn y trinnir ymgeiswyr y mae eu pleidlais uwchlaw’r cwota fel pe baent wedi eu hethol ynddi yw’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi neu’r drefn y byddai’r pleidleisiau dros ben hynny wedi eu trosglwyddo ynddi oni bai am reol 64P(2) neu (3).

(2) Mae ymgeisydd a gredydwyd â nifer o bleidleisiau sy’n cyfateb i’r cwota i’w roi (yn nhrefn y rheini a drinnir fel pe baent wedi eu hethol) ar ôl unrhyw ymgeiswyr eraill a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ar yr un pryd ac yr oedd ganddynt bleidleisiau dros ben.

(3) Ar gyfer ystyr “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio

64Z.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio, trosglwyddo papurau pleidleisio neu eithrio ymgeiswyr yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad mewn etholiad lle ceir gornest

64Z1.(1) Pan fo pob cam o’r cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeiswyr sydd wedi eu trin fel pe baent wedi eu hethol o dan y Bennod hon wedi eu hethol.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd;

(b)o nifer y dewisiadau cyntaf a’r dewisiadau pellach o ran pob ymgeisydd (p’un a’i hetholwyd ai peidio);

(c)o nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd a’u gwerth trosglwyddo ar bob cam o’r cyfrif;

(d)o nifer y pleidleisiau a gredydwyd i bob ymgeisydd ar bob cam o’r cyfrif;

(e)o nifer y papurau pleidleisio anhrosglwyddadwy a nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy ar bob cam o’r cyfrif;

(f)o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd..

Diwygio Rhan 5 o Atodlen 2 i Reolau 2021

9.  Yn rheol 66 (danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest) o Atodlen 2 i Reolau 2021—

(a)ym mharagraff (2)(c), ar ôl “reol 60(7)” mewnosoder “neu reol 64I(6)”;

(b)ym mharagraff (2)(d), ar ôl “reol 55(6)” mewnosoder “neu reol 64D(6)”.

Diwygio’r Atodiadau i Atodlen 2 i Reolau 2021

10.—(1Mae’r Atodiadau i Atodlen 2 i Reolau 2021 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl Atodiad 2 mewnosoder Atodiad 2A fel y’i nodir yn Atodlen 5.

(3Ar ôl Atodiad 4 mewnosoder Atodiad 4A fel y’i nodir yn Atodlen 6.

(4Ar ôl Atodiad 5 mewnosoder Atodiad 5A fel y’i nodir yn Atodlen 7.

(5Ar ôl Atodiad 6 mewnosoder Atodiad 6A fel y’i nodir yn Atodlen 8.

Diwygiadau eraill i Reolau 2021

11.  Yn rheol 54(3) o Atodlen 2 i Reolau 2021, yn lle “reol 56”, rhodder “reol 55”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2023

YR ATODLENNI

Rheol 6(2)

ATODLEN 1

Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 6(3)

ATODLEN 2

Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 6(4)

ATODLEN 3

Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 6(5)

ATODLEN 4

Ffurf

Rheol 10(2)

ATODLEN 5

Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 10(3)

ATODLEN 6

Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 10(4)

ATODLEN 7

Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheol 10(5)

ATODLEN 8

Ffurf

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Ar 6 Mai 2022, daeth darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) sy’n ymwneud â’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor yng Nghymru i rym. Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu i brif gynghorau benderfynu cynnal etholiadau gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn hytrach na’r system mwyafrif syml (gweler, yn benodol, adrannau 7 i 9 o’r Ddeddf honno).

Mewnosodwyd adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gan adran 13 o Ddeddf 2021. Arferwyd y pŵer hwnnw i wneud Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1459 (Cy. 374)) (“Rheolau 2021”). Mae’r Rheolau hynny’n nodi sut y mae rhaid cynnal etholiadau i brif gynghorau pan ddefnyddir y system mwyafrif syml. Nid ydynt yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau pan ddefnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae’r Rheolau hyn (Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023) felly yn diwygio Rheolau 2021 er mwyn iddynt ddarparu ar gyfer cynnal etholiadau pan ddefnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd Rheolau 2021 yn parhau i wneud darpariaeth ynghylch y system mwyafrif syml ar gyfer cynnal etholiadau mewn prif ardaloedd nad ydynt wedi penderfynu defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae rheol 2 yn diwygio rheol 3 o Reolau 2021 er mwyn ychwanegu’r termau “system mwyafrif syml” a “system pleidlais sengl drosglwyddadwy” at y rhestr ym mharagraff (3) o’r rheol honno. Effaith y diwygiad yw fod i’r termau hynny yr ystyr a nodir yn adran 6 o Ddeddf 2021.

Mae rheol 3 yn diwygio Rhan 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021, sy’n ymdrin â chynnal y bleidlais, er mwyn cynnwys darpariaeth ar gyfer y system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Ar hyn o bryd, mae Rhan 3 yn cyfeirio at nifer o ffurfiau rhagnodedig, gan gynnwys ffurf y papur pleidleisio, nad ydynt yn addas ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy oherwydd eu bod yn cynnwys cyfarwyddiadau i bleidleiswyr i roi croes [X] yn erbyn enw’r ymgeisydd y maent yn pleidleisio drosto. Mae’r diwygiadau’n darparu ar gyfer defnyddio ffurfiau gwahanol mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer cynnwys hysbysiadau y tu mewn i bob bwth pleidleisio (fel bod pleidleiswyr, yn hytrach na chael eu cyfarwyddo i roi croes, yn cael gwybodaeth ynghylch sut i farcio eu dewis cyntaf, eu hail ddewis a’u trydydd dewis etc.).

Mae rheol 4 yn mewnosod Rhan newydd 4A yn Rheolau 2021, sy’n ymdrin â chyfrif pleidleisiau mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd y Rhan 4 bresennol yn parhau i fod yn gymwys mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system mwyafrif syml ac mae wedi ei hailenwi i adlewyrchu ei chwmpas.

Mae Pennod 1 o’r Rhan newydd 4A yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol. Mae’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (rheol 60B), ar gyfer cyfrif y papurau pleidleisio yn y lle cyntaf a’u dilysu etc. (rheol 60C) ac ar gyfer dyletswyddau cyffredinol y swyddog canlyniadau wrth gyfrif y pleidleisiau (rheol 60D) yn debyg i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rhan 4 bresennol ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system mwyafrif syml. Mae’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer gwrthod papurau pleidleisio yn sylweddol wahanol (rheol 60E). Yn benodol, mae’r seiliau ar gyfer eu gwrthod yn wahanol mewn ffyrdd penodol er mwyn ystyried y sefyllfa mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy pan fo rhaid i bleidleiswyr nodi dewis cyntaf a phan gânt nodi ail ddewis a dewisiadau pellach.

Mae Pennod 2 o’r Rhan newydd 4A yn nodi’r rheolau a ddefnyddir i bennu’r canlyniad mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae’r rheolau hyn yn seiliedig ar system a ddisgrifir weithiau mewn llenyddiaeth ynghylch systemau etholiadol fel “y dull Gregory clasurol” neu “y dull Gregory syml”. Mae prif agweddau’r rheolau fel a ganlyn.

  • Cyfrifir y pleidleisiau dewis cyntaf ar bapurau pleidleisio dilys (rheol 60G).

  • Cyfrifir y “cwota”. Dyma nifer y pleidleisiau y mae eu hangen i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd. Mae rheol 60H yn nodi sut y cyfrifir y cwota ac fe’i dangosir gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

    Formula
  • Mae rheol 60I yn nodi bod ymgeisydd i’w drin fel pe bai wedi ei ethol os yw nifer y pleidleisiau dros yr ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota.

  • Mae darpariaeth i bleidleisiau gael eu trosglwyddo pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota (hynny yw, pan drinnir yr ymgeisydd felly fel pe bai wedi ei ethol a bod ganddo bleidleisiau dros ben).

    • Pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota, mae rheol 60J yn nodi’r hyn sy’n digwydd. Yn y bôn, edrychir ar bapurau pleidleisio’r ymgeisydd llwyddiannus i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi “dewis nesaf sydd ar gael”. Diffinnir hyn yn rheol 60F, ac yn fras mae’n golygu dewis nesaf (mewn trefn olynol) o ran ymgeisydd sy’n dal yn y ras (hynny yw, nad yw wedi ei drin fel pe bai wedi ei ethol nac wedi ei eithrio). Cyfeirir at bapurau pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael yn y rheolau fel “papurau trosglwyddadwy” a throsglwyddir pob un i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran. Mae i’r bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir werth a gyfrifir yn unol â rheol 60J(5) (drwy gymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd a’u rhannu â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir).

    • Mewn achosion eraill pan fo gan ymgeisydd bleidleisiau dros ben (er enghraifft, pan fo gan ymgeisydd bleidleisiau dros ben ar ôl trosglwyddo’r pleidleisiau dewis cyntaf o dan reol 60J), mae rheol 60K yn nodi’r hyn sy’n digwydd. Os digwydd hyn, nid yw’r swyddog canlyniadau ond yn edrych ar y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd ddiwethaf i’r ymgeisydd llwyddiannus (yn yr enghraifft, y rheini a drosglwyddwyd o dan reol 60J). Edrychir ar y papurau pleidleisio hyn i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran. Mae i’r bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir werth a gyfrifir yn unol â rheol 60K(5). Mae hyn eto yn golygu rhannu pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir ond mae cam ychwanegol y bwriedir iddo sicrhau nad yw’r gwerth yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r bleidlais yn awr yn cael ei throsglwyddo oddi wrtho (gweler cam 3 yn rheol 60K(5)).

    • Mae rheolau 60L, 60M a 60N yn ymdrin â materion ategol yn ymwneud â throsglwyddiadau. Yn benodol, mae rheol 60L yn ymdrin ag achosion pan na fo angen trosglwyddo, rheol 60M yn ymdrin â threfn trosglwyddiadau pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau dros ben a rheol 64N yn ymdrin â’r cofnodion y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu gwneud.

  • Os oes swyddi gwag i’w llenwi o hyd ar ôl trosglwyddo’r holl bleidleisiau dros ben, mae’r rheolau’n darparu ar gyfer eithrio’r ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau (rheol 60O). Yna caiff pleidleisiau’r ymgeisydd a eithriwyd eu hailddosbarthu. Mae hyn yn digwydd fesul cam.

    • Y cam cyntaf yw trosglwyddo pleidleisiau dewis cyntaf yr ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 60O. Mae’r swyddog canlyniadau’n edrych ar y papurau pleidleisio y rhoddwyd y pleidleisiau hynny arnynt i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran, a’r gwerth trosglwyddo fydd 1.

    • Os oes swyddi gwag o hyd ar ôl gwneud hyn, mae’r swyddog canlyniadau’n didoli papurau pleidleisio eraill yr ymgeisydd a eithriwyd yn grwpiau yn unol â gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau hynny pan gafodd yr ymgeisydd a eithriwyd hwy (rheol 60P). Gan ddechrau â’r grŵp uchaf ei werth, mae’r swyddog canlyniadau’n edrych ar y papurau pleidleisio i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran, yn unol â gwerth y bleidlais ar y papur pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd.

    • Mae rheol 60R yn ymdrin â materion ategol sy’n ymwneud ag eithrio, megis y cofnodion y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu gwneud.

  • Mae rheol 60S yn nodi rheolau arbennig sy’n gymwys i lenwi swyddi gwag olaf. Bwriedir i’r rheolau hyn sicrhau nad yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau barhau i gyfrif pan na fyddai diben gwneud hynny. Er enghraifft, mae’r rheol yn darparu, pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n dal yn y ras yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, y trinnir yr ymgeiswyr hynny fel pe baent wedi eu hethol.

  • Mae rheolau 60T i 60W yn ymdrin â materion atodol. Mae rheol 60T yn galluogi ymgeisydd neu asiant etholiadol i ofyn, ar ddiwedd pob cam o’r cyfrif, i’r cam hwnnw gael ei ailgyfrif. Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn afresymol. Mae rheol 60U yn nodi rheolau ynghylch y drefn y trinnir ymgeiswyr fel pe baent wedi eu hethol ynddi (a’r rheol gyffredinol yw mai dyma’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi). Mae rheol 60V yn darparu y bydd penderfyniadau’r swyddog canlyniadau yn derfynol (yn ddarostyngedig i’w hadolygu ar ddeiseb etholiad). Mae rheol 60W yn ymdrin â datgan y canlyniad a materion cysylltiedig.

Mae rheol 6 yn mewnosod Atodlenni 1 i 4 sy’n mewnosod Atodiadau newydd 2A, 4A, 5A a 6A yn yr Atodiadau i Atodlen 1 i Reolau 2021. Mewnosodir ffurfiau newydd o ran papurau pleidleisio, datganiadau pleidleisio post, cardiau pleidleisio a chanllawiau i bleidleiswyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarwyddiadau priodol ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae rheolau 7 i 10 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 2 i Reolau 2021 (sy’n ymdrin â’r sefyllfa pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad i brif gyngor â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol). Gan fod y ddarpariaeth a wneir gan y Rheolau hyn yn debyg i’r ddarpariaeth a wneir gan reolau 3 i 6 mewn cysylltiad ag Atodlen 1, ni roddir rhagor o eglurhad.

Mae rheol 11 yn gwneud diwygiad technegol i reol 54(3) o Reolau 2021.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(2)

O.S. 2021/1459 (Cy. 374). Diwygiwyd y Rheolau hyn gan O.S. 2022/263 (Cy. 79).

(3)

2000 p. 41. Mewnosodwyd adrannau 6A i 6D gan adran 29 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22).

(4)

Diwygiwyd adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 82 a 86 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50); mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.

(5)

2002 p. 30. Diwygiwyd adran 38 gan adran 38 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017 (p. 3); mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.

(6)

Gweler Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/1871, O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.

(7)

O.S. 2001/341. Diwygiwyd rheoliad 65 gan baragraff 16(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(8)

2000 p. 22. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 18(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. I’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan adran 44 i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.