Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1289 (Cy. 227)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Gwnaed

29 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

6 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn(1) drwy arfer y pwerau a roddir ganadran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999(2) (“Deddf 1999”), adrannau 39, 42, 52 i 55 a 62(2) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(3) (“Deddf 2008”) ac adrannau 9(1) a 9A(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(4) (“Mesur 2010”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999, adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 2008(5) ac adran 11 o Fesur 2010.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008) y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol (sef y rheoleiddwyr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 2(8) o Ddeddf 1999(6), adran 62(3) o Ddeddf 2008(7) ac adran 20(3)(8) o Fesur 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Gorfodaeth a sancsiynau sifil

Y rheoleiddiwr

2.  Y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn yw Cyfoeth Naturiol Cymru ac eithrio mewn cysylltiad â pheiriannau llosgi gwastraff bach pan y rheoleiddiwr yw’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r peiriant ynddi.

Sancsiynau sifil

3.  Mae’r Atodlen (sancsiynau sifil) yn gwneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil y caniateir eu gosod at ddiben gorfodi trosedd o dan reoliad 38(2) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(9) (“Rheoliadau 2016”) pan fo’r drosedd yn ymwneud â thorri amod trwydded a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 4 o Atodlen 9 i Reoliadau 2016 neu baragraff 5A o Atodlen 10 iddynt.

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau 2016

Diwygiadau i Reoliadau 2016: Cymru

4.—(1Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1 o Ran 4 o Atodlen 9 (peidio â llosgi gwastraff wedi ei gasglu ar wahân er mwyn ei baratoi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu)—

(a)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “any waste paper, metal, plastic or glass” rhodder “in Wales, any waste paper, card, cartons, metal, plastic, glass, food, small electrical and electronic equipment or unsold textiles”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder—

(3) For the purposes of this paragraph—

cartons” means fibre-based composite packaging, being packaging material which is made of paperboard or paper fibres, laminated with low density polythene or polypropylene plastic, and which may also have layers of other materials, to form a single unit that cannot be separated by hand;

electrical and electronic equipment” means equipment which is dependent on electric currents or electromagnetic fields in order to work properly and equipment for the generation, transfer and measurement of such currents and fields and designed for use with a voltage rating not exceeding 1,000 volts for alternating current and 1,500 volts for direct current;

small electrical and electronic equipment” means electrical and electronic equipment falling within one of the categories of EEE listed in Schedule 3 to the Waste Electrical and Electronic Equipment Regulations 2013(10), excluding items with any external dimension of more than 50 centimetres;

unsold” means an unused consumer product, in a factory, retail premises, wholesaler, warehouse or other premises, that has not been sold to a consumer or has been sold and returned by a consumer.

(3Ym mharagraff 5A o Atodlen 10 (peidio â thirlenwi gwastraff wedi ei gasglu ar wahân er mwyn ei baratoi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu)—

(a)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “any waste paper, metal, plastic or glass for landfill if that waste has been separately collected for the purposes of preparing for re-use or recycling; or” rhodder “in Wales, any waste paper, card, cartons, metal, plastic, glass, food, small electrical and electronic equipment or textiles for landfill if that waste has been separately collected for the purposes of preparing for re-use or recycling;”;

(b)ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—

(aa)any waste wood; or;

(c)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “any waste for landfill that results from the treatment of waste referred to in paragraph (a), unless” rhodder “in Wales, any waste for landfill that results from the treatment of waste referred to in paragraph (a) or (aa) unless”;

(d)ar y diwedd, mewnosoder—

(3) For the purposes of this paragraph —

cartons” means fibre-based composite packaging, being packaging material which is made of paperboard or paper fibres, laminated with low density polythene or polypropylene plastic, and which may also have layers of other materials, to form a single unit that cannot be separated by hand;

electrical and electronic equipment” means equipment which is dependent on electric currents or electromagnetic fields in order to work properly and equipment for the generation, transfer and measurement of such currents and fields and designed for use with a voltage rating not exceeding 1,000 volts for alternating current and 1,500 volts for direct current;

small electrical and electronic equipment” means electrical and electronic equipment falling within one of the categories of EEE listed in Schedule 3 to the Waste Electrical and Electronic Equipment Regulations 2013, excluding items with any external dimension of more than 50 centimetres.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2023

Rheoliad 3

YR ATODLENSancsiynau sifil

RHAN 1Cosbau ariannol penodedig

Gosod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 38(2) o Reoliadau 2016 pan fo’r drosedd yn ymwneud â thorri amod trwydded a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 4 o Atodlen 9 i Reoliadau 2016 neu baragraff 5A o Atodlen 10 iddynt.

(2Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Swm y gosb i’w thalu i’r rheoleiddiwr fel cosb ariannol benodedig yw £500.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;

(d)gwybodaeth am—

(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;

(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(iii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Rhyddhau rhag atebolrwydd

3.  Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

5.—(1Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol (“hysbysiad terfynol”) sy’n gosod cosb ariannol benodedig.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(3Ni chaiff y rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,

(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr,

(f)hawliau apelio, ac

(g)canlyniadau peidio â thalu.

Disgownt am dalu’n gynnar

7.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

8.—(1Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)unrhyw reswm tebyg arall.

Peidio â thalu ar ôl 56 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)

9.—(1Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael hysbysiad terfynol.

(2Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.

(3Yn achos apêl, mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.

Achosion troseddol

10.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

(a)ni chaniateir cychwyn achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a

(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.

RHAN 2Cosbau ariannol amrywiadwy

Gosod cosb ariannol amrywiadwy

11.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol ar berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu swm i’r rheoleiddiwr a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol amrywiadwy”) mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 38(2) o Reoliadau 2016 pan fo’r drosedd yn ymwneud â thorri amod trwydded a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 4 o Atodlen 9 i Reoliadau 2016 neu baragraff 5A o Atodlen 10 iddynt.

(2Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd—

(a)y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig, a

(b)sydd i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy (pa un a yw hefyd i’w chosbi drwy gyfnod o garchar ai peidio),

ni chaniateir i swm y gosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno (os oes uchafswm).

(4Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.

Hysbysiad o fwriad

12.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol amrywiadwy ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(ii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau rhag y drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

13.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol amrywiadwy.

Ymgymeriadau trydydd parti

14.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran camau i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

15.—(1Ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i osod y gosb ariannol amrywiadwy yn yr hysbysiad o fwriad ai peidio, gydag addasiadau neu hebddynt.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—

(a)pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, a

(b)swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.

(3Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod cosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n ei gosod (“hysbysiad terfynol”) sy’n cydymffurfio â pharagraff 16.

(4Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

Cynnwys hysbysiad terfynol

16.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

17.—(1Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

Achosion troseddol

18.—(1Os—

(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy ar unrhyw berson, neu

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

(2Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—

(a)pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,

(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac

(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad trydydd parti.

(3Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y gellir eu rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fo’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person fod y person wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

RHAN 3Cosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfio

19.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio ag ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr ymgymeriad trydydd parti.

(3Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.

(4Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio,

(f)canlyniadau peidio â thalu, ac

(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.

(5Os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio

20.—(1Caiff person sy’n cael cosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei herbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 4Cyfuno sancsiynau

Cyfuno sancsiynau

21.—(1Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw sy’n ymwneud â’r un weithred neu anweithred.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson os, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred—

(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

RHAN 5Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

22.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy arno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod y gosb ariannol amrywiadwy hyd at yr adeg y’i gosodwyd.

(2Mae costau yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad,

(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

(4Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.

(5Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

23.—(1Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan baragraff 22(1) apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau,

(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny, neu

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod swm y costau yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 6Gweinyddu ac apelau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad

24.  Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu cosb ariannol benodedig yn ôl;

(b)tynnu yn ôl gosb ariannol amrywiadwy, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth, neu leihau’r swm a bennir yn y gosb neu’r hysbysiad.

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil

25.—(1Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr yn y Rheoliadau hyn i osod sancsiwn sifil—

(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;

(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;

(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo hynny’n briodol;

(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.

(2Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,

(c)swm y gosb,

(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac

(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

(3Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,

(c)y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys pan fo rhywun yn adrodd yn wirfoddol nad yw wedi cydymffurfio), a

(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

Canllawiau ychwanegol

26.  Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—

(a)ym mha amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir eu gosod,

(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw, a

(d)hawliau apelio.

Ymgynghori ar ganllawiaus

27.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.

Cyhoeddi camau gorfodi

28.—(1Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad, a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd, ac

(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt.

(2Yn is-baragraff (1)(a) nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.

Adennill taliadau

29.  Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Apelau

30.—(1Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (“y Tribiwnlys”).

(2Mewn unrhyw apêl pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.

(4Mae pob hysbysiad wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

(5Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod cosb neu gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn—

(a)tynnu yn ôl y gosb neu’r hysbysiad,

(b)cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad,

(c)amrywio’r gosb neu’r hysbysiad,

(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad, neu

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwahardd llosgi mathau penodedig o wastraff, neu eu dodi ar safle tirlenwi. Y mathau o wastraff yw bwyd, cyfarpar trydanol ac electronig bach, cerdyn, cartonau, a thecstilau penodol. Cyflawnir y gwaharddiad drwy ychwanegu mathau penodedig o wastraff at baragraff 1 (gwastraff wedi ei gasglu ar wahân er mwyn ei baratoi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu nad yw i’w losgi) o Ran 4 o Atodlen 9 a pharagraff 5A (gwastraff wedi ei gasglu ar wahân er mwyn ei baratoi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu nad yw i’w dirlenwi) o Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (O.S. 2016/1154). Yn ychwanegol at hyn bydd gwaharddiad rhag dodi gwastraff pren ar safle tirlenwi (pa un a yw’r gwastraff wedi ei gasglu ar wahân ai peidio).

Cyflwynir cyfundrefn sancsiynau sifil i alluogi’r rheoleiddiwr i osod cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio (rheoliad 3 a pharagraffau 1, 11 a 19 o’r Atodlen). Y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn yw Adnoddau Naturiol Cymru ac eithrio mewn cysylltiad â pheiriannau llosgi gwastraff bach pan y rheoleiddiwr yw’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r peiriant ynddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau sifil, gan gynnwys apelau. Mae apelau o dan y Rheoliadau hyn i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn (paragraffau 25 i 27) yn darparu bod rhaid cyhoeddi canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid i ganllawiau hefyd gael eu cyhoeddi ynghylch y defnydd o gosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill costau gorfodaeth (paragraff 26). Cyn i unrhyw ganllawiau gael eu cyhoeddi, mae’n ofynnol i’r rheoleiddiwr ymgynghori (paragraff 27). Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr (paragraff 28 o’r Atodlen). Gall y rheoleiddiwr adennill rhai costau gorfodaeth (paragraff 22 o’r Atodlen) yn achos cosbau ariannol amrywiadwy.

Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir ganddo o dan y Rheoliadau ynghyd ag unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr (paragraff 29 o’r Atodlen).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) er mwyn gwneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(2)

1999 p. 24. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac eithrio mewn perthynas â chwilio am olew a nwy alltraeth ac elwa arnynt, yn rhinwedd erthygl 3(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

2008 p. 13. Diwygiwyd adrannau 39 a 42 gan baragraff 12 o Atodlen 5 i O.S. 2015/664. Diffinnir “prescribed” yn adran 71(1) o’r Ddeddf honno.

(4)

2010 mccc 8; mewnosodwyd adran 9A gan adran 67 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).

(5)

Mae adran 71(1) o Ddeddf 2008 yn darparu mai ystyr “relevant authority”, mewn perthynas â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3 neu yn ei rhinwedd, yw Gweinidogion Cymru.

(6)

Mae’r cyfeiriad yn adran 2(8) o Ddeddf 1999 at gymeradwyaeth dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn cael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru fel pe bai’n gyfeiriad at gymeradwyaeth Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 33 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Mae’r cyfeiriad yn adran 62(3) o Ddeddf 2008 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(8)

Mae’r cyfeiriad yn adran 20(3) o Fesur 2010 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(9)

O.S. 2016/1154, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/904; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(10)

O.S. 2013/3113, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1214; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.