Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(1)(a) a 201(1) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 1983 p. 2. Amnewidiwyd adran 13 gan baragraffau 1 a 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) ac amnewidiwyd adran 13(1) ymhellach gan adran 5(1) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (p. 33). Gweler adran 202(1) am ystyr “prescribed” yn adran 13(1). Diwygiwyd adran 201(1) gan baragraff 6(1) a (7)(a) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41). Mewnosodwyd adran 201(3) gan baragraffau 1 ac 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 6(1) a (7)(d) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddo.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 201(2) Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 9(2)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1). Amnewidiwyd adran 201(2) gan adran 24 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) a pharagraff 69 o Atodlen 4 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 6(1) a (7)(b) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41); gan adran 13(2) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2014 (p. 13); gan baragraff 1(9) o Atodlen 8 i Ddeddf Etholiadau 2022 (p. 37); a chan O.S. 1991/1728.