2023 Rhif 1318 (Cy. 235)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(1)(a) a 201(1) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19831 (“Deddf 1983”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20003.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 201(2)4 o Ddeddf 19835.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2023.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Dyddiad cyhoeddi’r cofrestrau diwygiedig am y flwyddyn 20242

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r gofyniad o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983 i swyddogion cofrestru gyhoeddi, am y flwyddyn 2024, fersiynau diwygiedig y cofrestrau a gynhelir o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 19836.

2

Y dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983, sef y cyfnod y mae rhaid i’r cofrestrau diwygiedig gael eu cyhoeddi ynddo, yw 1 Chwefror 2025.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu dyddiad diwygiedig ar gyfer diwedd y cyfnod y mae rhaid i fersiynau diwygiedig y cofrestrau o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru, am y flwyddyn 2024, gael eu cyhoeddi ynddo gan swyddogion cofrestru o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”).

Mae rheoliad 2(1) yn gymwys i gyhoeddi gan swyddog cofrestru (gweler adran 8 o Ddeddf 1983) ar gyfer ardal sirol neu ardal bwrdeistref sirol yng Nghymru y gofrestr ddiwygiedig o etholwyr llywodraeth leol a gynhelir gan y swyddog hwnnw o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 2(2) yn pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r gofrestr honno gael ei chyhoeddi yn 1 Chwefror 2025.

Er mwyn sicrhau cysondeb wrth gyhoeddi’r cofrestrau etholiadol yng Nghymru, mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio’r Etholfraint ac Adolygu Cymhwystra) 2023 (O.S. 2023/1150) yn rhagnodi’r dyddiad 1 Chwefror 2025 ar gyfer cyhoeddi gan swyddogion cofrestru fersiynau diwygiedig y cofrestrau o etholwyr seneddol y Deyrnas Unedig a gynhelir ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, am y flwyddyn 2024, o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf 1983.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn am eu bod yn gweithredu diwygiad technegol nad yw’n cael unrhyw effaith, neu nad yw’n cael unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na’r sector cyhoeddus.