Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1318 (Cy. 235)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023

Gwnaed

6 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(1)(a) a 201(1) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1) (“Deddf 1983”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(3).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 201(2)(4) o Ddeddf 1983(5).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Dyddiad cyhoeddi’r cofrestrau diwygiedig am y flwyddyn 2024

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r gofyniad o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983 i swyddogion cofrestru gyhoeddi, am y flwyddyn 2024, fersiynau diwygiedig y cofrestrau a gynhelir o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983(6).

(2Y dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983, sef y cyfnod y mae rhaid i’r cofrestrau diwygiedig gael eu cyhoeddi ynddo, yw 1 Chwefror 2025.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu dyddiad diwygiedig ar gyfer diwedd y cyfnod y mae rhaid i fersiynau diwygiedig y cofrestrau o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru, am y flwyddyn 2024, gael eu cyhoeddi ynddo gan swyddogion cofrestru o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”).

Mae rheoliad 2(1) yn gymwys i gyhoeddi gan swyddog cofrestru (gweler adran 8 o Ddeddf 1983) ar gyfer ardal sirol neu ardal bwrdeistref sirol yng Nghymru y gofrestr ddiwygiedig o etholwyr llywodraeth leol a gynhelir gan y swyddog hwnnw o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 2(2) yn pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r gofrestr honno gael ei chyhoeddi yn 1 Chwefror 2025.

Er mwyn sicrhau cysondeb wrth gyhoeddi’r cofrestrau etholiadol yng Nghymru, mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio’r Etholfraint ac Adolygu Cymhwystra) 2023 (O.S. 2023/1150) yn rhagnodi’r dyddiad 1 Chwefror 2025 ar gyfer cyhoeddi gan swyddogion cofrestru fersiynau diwygiedig y cofrestrau o etholwyr seneddol y Deyrnas Unedig a gynhelir ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, am y flwyddyn 2024, o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf 1983.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn am eu bod yn gweithredu diwygiad technegol nad yw’n cael unrhyw effaith, neu nad yw’n cael unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na’r sector cyhoeddus.

(1)

1983 p. 2. Amnewidiwyd adran 13 gan baragraffau 1 a 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) ac amnewidiwyd adran 13(1) ymhellach gan adran 5(1) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (p. 33). Gweler adran 202(1) am ystyr “prescribed” yn adran 13(1). Diwygiwyd adran 201(1) gan baragraff 6(1) a (7)(a) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41). Mewnosodwyd adran 201(3) gan baragraffau 1 ac 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 6(1) a (7)(d) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddo.

(4)

Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 9(2)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).

(5)

Amnewidiwyd adran 201(2) gan adran 24 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) a pharagraff 69 o Atodlen 4 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 6(1) a (7)(b) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41); gan adran 13(2) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2014 (p. 13); gan baragraff 1(9) o Atodlen 8 i Ddeddf Etholiadau 2022 (p. 37); a chan O.S. 1991/1728.

(6)

Amnewidiwyd adran 9 gan baragraffau 1 a 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).