2023 Rhif 1325 (Cy. 236)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 6(1)(d), 10(2)(a)(ix), 11(3)(a)(iii), 27(1) a 38(2)(g) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161 (“Deddf 2016”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn2.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(a) o Ddeddf 2016, ac maent wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o Ddeddf 2016. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi o’r datganiad gerbron Senedd Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o Ddeddf 2016.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(f) o Ddeddf 2016 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad3.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, heblaw rheoliad 2, i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

3

Daw rheoliad 2 i rym ar 30 Medi 2024.

RHAN 2Gwybodaeth Ragnodedig

Cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau: gwybodaeth ragnodedig2

Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei rhagnodi o dan adran 38(2)(g) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel gwybodaeth y mae rhaid ei dangos mewn cofnod yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau—

a

cyfeiriad post electronig,

b

rhif ffôn y gwasanaeth,

mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef.

RHAN 3Gofyniad am Wybodaeth Bellach gan Ddarparwyr Gwasanaethau

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

3

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 20174 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 4.

4

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 32(a), ar ôl “cyfeiriad” mewnosoder “, cyfeiriad post electronig”.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

5

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20175 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 6.

6

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, ar ôl “Manylion cyswllt”, hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder “gan gynnwys cyfeiriad post electronig a rhif ffôn.”

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

7

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20176 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.

8

Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 25 mewnosoder y paragraff canlynol—

25A

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

9

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20197 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 10.

10

Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 22, mewnosoder y paragraff canlynol—

22A

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

11

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20198 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 12.

12

Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—

18A

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

13

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20199 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.

14

Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 21, mewnosoder y paragraff canlynol—

22

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

15

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 201910 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 16.

16

Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—

18A

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”). Diben y Rheoliadau hyn yw rhagnodi gwybodaeth ychwanegol benodol y mae rhaid ei dangos ar bob cofnod yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 38(1) o Ddeddf 2016. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu Gweinidogion Cymru am newidiadau i rif ffôn a chyfeiriad post electronig gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod gwybodaeth ychwanegol, ar ffurf cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y gwasanaeth, yn cael ei rhagnodi o dan y pŵer a roddir gan adran 38(2)(g) o Ddeddf 2016. Rhaid i’r wybodaeth ragnodedig ychwanegol hon gael ei dangos ar y gofrestr mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 i osod gofyniad ar ymgeiswyr sy’n ceisio darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd i ddarparu cyfeiriad post electronig y fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau bod rhaid i bob ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth hon wrth wneud ceisiadau i gofrestru ac i amrywio cofrestriad ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2016.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 i gynnwys gofyniad i’r cyfeiriad post electronig a’r rhif ffôn mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef, gael eu cynnwys fel rhan o ddatganiad blynyddol darparwr gwasanaeth.

Mae rheoliadau 7 i 16 yn diwygio’r Rheoliadau canlynol i ychwanegu gofyniad hysbysu ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau o ran unrhyw newid i gyfeiriad post electronig neu rif ffôn gwasanaeth rheoleiddiedig:

a

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017,

b

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

c

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

d

Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, ac

e

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.