Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1327 (Cy. 238)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

Gwnaed

am 12.05 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(1)(i)(1), 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2) (“y Ddeddf”) ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, fel sy’n ofynnol gan adran 2(4) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(a) o’r Ddeddf ac mae wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Ystyr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig

2.—(1Ystyr “gwasanaeth preswyl ysgol arbennig” (“special school residential service”) yw’r ddarpariaeth o lety ynghyd â gofal neu nyrsio mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yr ysgol.

(2Ond nid yw llety ynghyd â gofal neu nyrsio a ddarperir mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yn wasanaeth preswyl ysgol arbennig os y’i darperir—

(a)mewn man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal,

(b)mewn man lle y darperir gwasanaeth llety diogel, neu

(c)mewn ysbyty.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) a “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyron a roddir gan adran 2 ac adran 3 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “disgybl” (“pupil”) yw person sy’n cael addysg yn yr ysgol arbennig;

mae i “gofal” (“care”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(a) o’r Ddeddf;

mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(4);

ystyr “nyrsio” (“nursing”) yw gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai ddarparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond mae’n eithrio unrhyw wasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs;

ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw—

(a)

ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hospital” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5),

(b)

ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000(6), ac

(c)

clinig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent clinic” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996(7);

ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol, pa un a gaiff ei chynnal gan awdurdod lleol ai peidio, y mae’r cyfan o’i darpariaeth addysgol, neu’r rhan fwyaf ohoni, wedi ei threfnu’n arbennig er mwyn creu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol.

Rhagnodi bod gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn wasanaeth rheoleiddiedig

3.  Rhagnodir bod gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn wasanaeth rheoleiddiedig at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol ar gyfer darparwyr presennol

4.—(1Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr presennol yn ystod y cyfnod trosiannol mewn cysylltiad â gwasanaeth perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr cyfnod trosiannol (“transition period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn ac sy’n dod i ben naill ai—

(a)

ar y dyddiad pan fydd y cais i Weinidogion Cymru yn cael ei benderfynu; neu

(b)

mewn achos pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru yn destun apêl i’r tribiwnlys neu apêl ddilynol, ar ddyddiad dyfarniad yr apêl honno neu ddyfarniad unrhyw apêl ddilynol;

ystyr “darparwr presennol” (“existing provider”) yw person sy’n darparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn union cyn dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn;

ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw gwasanaeth preswyl ysgol arbennig a ddarperir mewn lleoliad sy’n destun cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf a wnaed i Weinidogion Cymru cyn 1 Gorffennaf 2024;

mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr agyn adran 189 o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol ynghylch dehongli “darpariaeth ddysgu ychwanegol” a “personau ag anghenion dysgu ychwanegol”

5.  Yn rheoliad 2(3) mae’r cyfeiriadau at “darpariaeth ddysgu ychwanegol” a “personau ag anghenion dysgu ychwanegol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at “special educational provision” a “persons with special educational needs” o fewn ystyr adran 312 o Ddeddf Addysg 1996 am gyhyd ag y mae’r arbediad a wneir gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022(8) yn cael effaith.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 12.05 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y ddarpariaeth o lety a gofal neu nyrsio i ddisgybl ysgol arbennig yn “gwasanaeth rheoleiddiedig” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) a byddant yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu gwasanaeth o’r fath gofrestru o dan y Ddeddf.

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ysgolion, pa un a gânt eu cynnal gan awdurdod lleol ai peidio, sy’n rhoi darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw ysgolion arbennig.

Cyfeirir at y gwasanaeth hwn fel Gwasanaeth Preswyl Ysgol Arbennig.

Mae Rheoliad 4 yn ddarpariaeth drosiannol sy’n atal dros dro effaith adran 5 o’r Ddeddf ar gyfer darparwyr presennol unrhyw wasanaethau preswyl ysgolion arbennig sydd wedi eu cynnwys mewn cais i gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2024.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(1)

Mae adran 2(1)(i) yn cyfeirio at wasanaeth “a ragnodir”. Diffinnir “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i olygu “wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru”.

(8)

O.S. 2022/891 (Cy. 188). Mae erthygl 4 yn darparu bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i gael effaith ar gyfer plentyn sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig o dan y Bennod honno er ei bod wedi ei diddymu. Yn unol ag erthygl 10, daw’r cyfnod o dan sylw i ben ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2023-2024.