Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1336 (Cy. 241)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d)(1), 11(3)(a)(iii) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel”, mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;

(b)yn rheoliad 6(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;

(c)yn rheoliad 7(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;

(d)ym mharagraff 30 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;

(e)ym mharagraff 32 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;

(f)ar ôl paragraff (ea) o Atodlen 2 mewnosoder y paragraff canlynol—

(eb)yn achos gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, disgrifiad o sut y caiff y trefniadau ar gyfer darparu addysg a’r trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaeth preswyl eu cydgysylltu;;

(g)ym mharagraff (k) o Atodlen 2, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ceisiadau i gofrestru a cheisiadau i amrywio cofrestriad o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Rhagnodir gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel “gwasanaeth rheoleiddiedig” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 2016 gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau er mwyn integreiddio cyfeiriadau at y gwasanaeth rheoleiddiedig newydd hwn yn Rheoliadau 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(1)

Mae adrannau 6(1)(d) ac 11(3)(a)(iii) yn cyfeirio at “unrhyw wybodaeth arall a ragnodir”. Diffinnir “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i olygu “wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources