Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1232 (Cy. 218) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2023 Rhif 1337 (Cy. 242)

Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru

Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20091.

Enwi a dod i rym1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2023.

Dirymu2

Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 20232 wedi ei ddirymu.

Vaughan GethingGweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ac mae’n dirymu Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.