xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1232 (Cy. 218) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1337 (Cy. 242)

Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru

Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023

Gwnaed

7 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

9 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1).

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2023.

Dirymu

2.  Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023(2) wedi ei ddirymu.

Vaughan Gething

Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ac mae’n dirymu Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.