2023 Rhif 1355 (Cy. 245)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 144A(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn2:

Enwi a dod i rym1

Enw’r Rheoliadau hyn yw ‌‌Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017

2

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

3

Yn yr Atodlen (gofynion o ran ffurf adroddiadau blynyddol), yn lle paragraffau 1 i 4 rhodder—

1

Rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol gael ei nodi o dan y penawdau a ganlyn—

Pennod 1: Crynodeb y Cyfarwyddwr

Pennod 2: Cyd-destun

Pennod 3: Asesu perfformiad

Pennod 4: Gwybodaeth arall

2

Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 3 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y penawdau a ganlyn—

Pennod 3(a): Pobl

Pennod 3(b): Atal

Pennod 3(c): Partneriaeth ac integreiddio

Pennod 3(d): Llesiant

3

Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhob rhan o bennod 3 gael ei nodi mewn pedair adran o dan y penawdau a ganlyn—

Adran (i): Beth yr ydym yn ei wybod am ansawdd ac effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud?

Adran (ii): Sut yr ydym yn gwybod?

Adran (iii): Beth yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella?

Adran (iv): Pa gynnydd a wnaethom ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd? Pa wahaniaeth a wnaethom?

4

Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 4 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y ‌penawdau a ganlyn—

Pennod 4(a): Arolygiadau ac adolygiadau

Pennod 4(b): Cwynion a sylwadau

Pennod 4(c): Cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth

Pennod 4(d): Unrhyw wybodaeth arall

Darpariaeth drosiannol4

1

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â’r adroddiadau blynyddol a lunnir gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae Deddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf yr adroddiadau hynny. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017 er mwyn nodi gofynion diwygiedig o ran ffurf adroddiadau blynyddol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r penawdau y mae rhaid cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol oddi tanynt.

Mae rheoliad 4 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.