RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol
Cyfraddau tâl isaf
11.—(1) Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.
(2) Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.
Cyfraddau tâl isaf am oramser
12. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf 1.5 gwaith y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu i’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.
Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn
13. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
Diogelu tâl
14. Rhaid i dâl gweithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a ddioddefodd ostyngiad yn eu cyfradd isaf fesul awr o ganlyniad i’w cymathu i radd neu gategori is neu gyfradd tâl isaf is fel y’u pennir yn y Tabl yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 barhau i gael ei ddiogelu fel bod eu cyfradd tâl o leiaf yn gyfwerth â’r gyfradd tâl yr oeddent yn ei chael ar 21 Ebrill 2022.
Lwfans gwrthbwyso llety
15.—(1) Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.65 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £5.29 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.
(4) At ddibenion paragraff (2) ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—
(a)sy’n addas i bobl fyw ynddo,
(b)sy’n ddiogel ac yn ddiddos,
(c)sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig, a
(d)sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992() fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.
(5) Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.
(6) Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.
Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol
16. Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—
(a)lwfans cŵn o £9.36 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn,
(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i dair gwaith cyfradd fesul awr y gweithiwr amaethyddol yn ôl ei radd. Mae’r lwfans ar alwad yn daladwy mewn cysylltiad â phob cyfnod y mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad. Ni chaiff cyfnod trefniant ar alwad fod yn hwy na 24 awr,
(c)lwfans gwaith nos o £1.78 am bob awr o waith nos, a
(d)grant geni a mabwysiadu o £73.60 am bob plentyn.
Costau hyfforddi
17.—(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
(a)unrhyw ffioedd am y cwrs, a
(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
(2) Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.
(3) Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).