Offerynnau Statudol Cymru
2023 Rhif 292 (Cy. 43)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Mawrth 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014().
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015
2.—(1) Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector)—
(a)yn lle’r pennawd, rhodder—
“4. Ymgysylltu â’r sector preifat, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus”;
(b)ym mharagraff (1), yn lle “neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn,” rhodder “, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â” ac o flaen y geiriau “i’r boblogaeth leol” mewnosoder “, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol,”;
(c)yn lle paragraff (2), rhodder—
“(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998();
mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf()..”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2023
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau poblogaeth.
Mae rheoliad 4 o’r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid i gyrff cyfrifol, wrth gynnal asesiad poblogaeth, ymgysylltu â sefydliadau sector preifat penodol neu sefydliadau trydydd sector penodol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau fel bod rhaid i gyrff cyfrifol ymgysylltu hefyd ag unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth leol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod diffiniadau perthnasol at y dibenion hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.