Yn adran 16(2) o’r Ddeddf, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015
Yn rheoliad 4 (ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector)—
yn lle’r pennawd, rhodder—
Ymgysylltu â’r sector preifat, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus
ym mharagraff (1), yn lle “neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn,” rhodder “, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â” ac o flaen y geiriau “i’r boblogaeth leol” mewnosoder “, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol,”;
yn lle paragraff (2), rhodder—
At ddibenion y rheoliad hwn— ystyr “ mae i “
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“ Mae rheoliad 4 o’r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid i gyrff cyfrifol, wrth gynnal asesiad poblogaeth, ymgysylltu â sefydliadau sector preifat penodol neu sefydliadau trydydd sector penodol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau fel bod rhaid i gyrff cyfrifol ymgysylltu hefyd ag unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth leol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod diffiniadau perthnasol at y dibenion hyn. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.