Cyflwyno hysbysiadau
59.—(1) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon neu i’w gyflwyno gael ei gyflwyno—
(a)drwy ei ddanfon—
(i)i’r person (“X”) y mae i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno iddo, neu
(ii)i unrhyw berson arall a awdurdodwyd gan X i weithredu fel asiant X at y diben hwnnw;
(b)drwy ei anfon at X neu at asiant X drwy gyfathrebiad electronig;
(c)drwy ei adael yn un neu ragor o’r mannau a ganlyn, neu ei anfon yno drwy’r post—
(i)man busnes arferol X neu ei fan busnes olaf sy’n hysbys, neu
(ii)yn achos cwmni, ei swyddfa gofrestredig, neu
(iii)man busnes arferol, neu’r olaf sy’n hysbys, neu swyddfa gofrestredig unrhyw berson arall a awdurdodwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a)(ii);
(d)drwy ei ddanfon i ryw berson yn y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, neu, os nad oes neb y gellir ei ddanfon iddo felly yn y fangre, drwy ei osod ynghlwm wrth ryw ran amlwg o’r fangre;
(e)heb ragfarnu darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, pan fo hereditament y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn fan busnes i’r person y mae’r hysbysiad i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno iddo, drwy adael yr hysbysiad yn y man busnes hwnnw, neu ei anfon yno drwy’r post, wedi ei gyfeirio at y person hwnnw.
(2) Yr un adeg ag y mae copi o hysbysiad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn cael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno i asiant person, rhaid darparu’r hysbysiad hefyd i X—
(a)rheoliad 8(1);
(b)rheoliad 10(1);
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 14(2);
(e)rheoliad 16;
(f)rheoliad 20(b);
(g)rheoliad 23(2).
(3) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno gan SP i berson a wnaeth gais o dan reoliad 6(2) neu gynnig drwy ddefnyddio porth electronig yr SP (fel y’i diffinnir yn rheoliad 3) gael ei gyflwyno drwy hysbysu’r person drwy gyfathrebiad electronig fod hysbysiad a gyfeiriwyd at y person wedi ei godi ar y porth electronig hwnnw.
(4) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno gan TPC i berson a wnaeth apêl drwy ddefnyddio porth electronig TPC gael ei gyflwyno drwy hysbysu’r person drwy gyfathrebiad electronig fod hysbysiad a gyfeiriwyd at y person wedi ei godi ar y porth electronig hwnnw.
(5) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno i berchennog neu feddiannydd unrhyw fangre gael ei gyfeirio drwy gyfrwng y disgrifiad “perchennog” neu “meddiannydd” y fangre, heb enw neu ddisgrifiad pellach.
(6) Ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno drwy ddefnyddio porth electronig yr SP neu mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP, caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno i SP gael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno—
(a)drwy gyfeirio’r hysbysiad at SP yr ardal o dan sylw, heb ddisgrifiad pellach, a
(b)drwy ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r SP drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at borth electronig yr SP yn cynnwys cyfeiriad at y cyfleuster ar-lein a ddarperir gan yr SP i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â chynigion ar gyfer newid rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad yn cynnwys cyfeiriad at gynnig ac unrhyw ddogfen arall y mae’n ofynnol ei chyflwyno neu yr awdurdodir ei chyflwyno;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad yn gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn;
(d)rhaid barnu bod unrhyw hysbysiad a anfonir yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff (1)(b) wedi ei anfon pan ddaw i law ar ffurf ddarllenadwy.