2023 Rhif 42 (Cy. 5)

Landlord A Thenant, Cymru

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 19861 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongliI11

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 10 Chwefror 2023.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

  • mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;

  • ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 17/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin3;

  • ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)

Asesu gallu cynhyrchiol tirI22

1

Mae paragraffau (2), (3) a (4) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

2

Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2,

b

y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, ac

c

y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.

3

Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2020 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

b

y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.

4

Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2021 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

b

y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.

Annotations:
Commencement Information
I2

Ergl. 2 mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

I3YR ATODLENUnedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net

Erthygl 2

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)

colofn 1

colofn 2

colofn 3

colofn 4

Defnydd ffermio

Uned gynhyrchu

Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021

Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022

1. Da byw

Buchod godro

buwch

641

813

Buchod bridio cig eidion:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

buwch

-144

-106

ar dir arall

buwch

-264

-156

Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)

y pen

-149(1)

-18(1)

Buchod llaeth i lenwi bylchau

y pen

90(1)

99(1)

Mamogiaid:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

mamog

-20

-12

ar dir arall

mamog

3

23

Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)

y pen

5

9

Moch:

hychod a banwesod torrog

hwch neu fanwes

244

269

moch porc

y pen

8

9.1

moch torri

y pen

10.8

12.1

moch bacwn

y pen

12.7

14.5

Dofednod:

ieir dodwy

aderyn

4.3

4.2

brwyliaid

aderyn

0.3

0.3

cywennod ar ddodwy

aderyn

0.8

0.8

Tyrcwn Nadolig

aderyn

10.5

12.5

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

145

397

Ffa

hectar

7

135

Rêp had olew

hectar

250

294

Pys sych

hectar

-20

-50

Tatws:

cynnar cyntaf

hectar

3,190

3,460

prif gnwd (gan gynnwys hadyd)

hectar

2,410

2,410

Betys siwgr

hectar

160

460

Gwenith

hectar

370

480

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau

Ffrwythau’r berllan

hectar

3,090

3,460

Ffrwythau meddal

hectar

14,720

15,460

4. Hectarau cymwys

Tir a oedd yn 2020 (gweler colofn 3) neu yn 2021 (gweler colofn 4) yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013

tir dan anfantais ddifrifol

hectar

132.70

114.98

tir dan anfantais

hectar

131.19

114.96

pob tir arall

hectar

33.46

79.06

(1)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath ar gyfer y cyfnodau o 12 Medi 2021 hyd at 11 Medi 2022 ac o 12 Medi 2022 hyd at 11 Medi 2023, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “commercial unit of agricultural land” (“uned fasnachol o dir amaethyddol”) ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986; yn benodol adrannau 36(3) a 50(2) sy’n ymdrin â’r cwestiwn hwn. Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn. Mae paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986 yn rhoi diffiniad o “commercial unit of agricultural land”.

Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a bennir yng ngholofn 2 a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofn 3 neu 4 fydd sail yr asesiad.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2020 neu 2021, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin. Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais a thir dan anfantais ddifrifol, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.

Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.