2023 Rhif 439 (Cy. 67)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(1)1 a 123(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20032, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 19 Mai 2023.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20032

Yn rheoliad 24K(5) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (enillion a cholledion gwerth teg cronfeydd buddsoddi cyfun)3, yn lle “2023” rhodder “2025”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Mae rheoliad 24K o Reoliadau 2003 yn darparu na chaiff awdurdod lleol godi swm ar ei gyfrif refeniw i adlewyrchu unrhyw amrywiad yng ngwerth teg buddsoddiad awdurdod lleol mewn cronfa fuddsoddi gyfun. Yn hytrach, rhaid cofnodi’r symiau hynny mewn cyfrif ar wahân sydd wedi ei greu at y diben hwnnw yn unig ac a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig. Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn cymhwysiad rheoliad 24K ddwy flynedd ariannol ychwanegol i 31 Mawrth 2025.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.