Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 30 Ebrill 2023 i 31 Hydref 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 31 Hydref ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN.
Mae rheoliad 2(4)(a) yn diwygio’r diffiniad o “cyfnod o 12 mis blaenorol” yn rheoliad 36(6) o Reoliadau 2021 fel bod y cyfnod cadw cofnodion perthnasol yn adlewyrchu’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 31 Hydref o dan reoliad 4 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir mai’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol cyntaf ar gyfer meddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN yw 31 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024.
Mae rheoliad 2(4)(b) yn diwygio’r diffiniad o “dyddiad perthnasol” yn rheoliad 36(6) o Reoliadau 2021 fel bod rhaid i feddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN gofnodi’r data perthnasol sy’n ofynnol o dan reoliad 36(1) cyn 28 Chwefror 2025 ac 28 Chwefror ar gyfer pob blwyddyn ddilynol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
Back to top