2023 Rhif 67 (Cy. 12)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141.

Enwi a dod i rymI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2023.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 10.4.2023, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015I22

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

a

yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”;

b

yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 10.4.2023, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015I33

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20153 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

a

yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—

i

ym mharagraff 20, yn y disgrifiad rhwng cromfachau o baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ar ôl y geiriau “Gronfa Byw’n Annibynnol” mewnosoder “, unrhyw daliad Tŵr Grenfell, taliad camdriniaeth plant, taliad Windrush ac unrhyw daliad a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol o dan y cynllun ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig”;

ii

ar ôl paragraff 39 mewnosoder—

40

Unrhyw daliad a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni o dan gyfarwyddyd4 yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn unol ag adrannau 7(3)(a) a 107 o Ddeddf Trydan 19895.

41

Unrhyw daliad a wneir o dan adrannau 1, 4 a 5 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 20226 (taliadau ychwanegol sy’n dibynnu ar brawf modd a thaliadau ychwanegol anabledd).

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 10.4.2023, gweler rhl. 1(2)

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20157 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20158 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan y Ddeddf ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:

  • pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth), y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu

  • pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu angen gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i A dalu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.

Mae rheoliad 2 o’r offeryn hwn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) i gynyddu’r swm incwm wythnosol net o £35 i £39.50. Mae rheoliad 28 hefyd wedi ei ddiwygio i wneud newid cyfatebol ar gyfer derbynnydd taliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 3(a)(i) o’r offeryn hwn yn diwygio geiriad disgrifiadol paragraff 20(1) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys y canlynol:

  • taliad Tŵr Grenfell,

  • taliad camdriniaeth plant,

  • taliad Windrush, neu

  • taliadau a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol.

Mae’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu diystyru drwy effaith paragraff 20 o Atodlen 2 drwy eu cynnwys yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ac maent wedi eu hychwanegu yn y geiriau disgrifiadol er eglurder.

Mae rheoliad 3(a)(ii) o’r offeryn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

  • mae taliadau a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni,

  • mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 2022,

i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.