2023 Rhif 723 (Cy. 109) (C. 37)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 20201, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 20232

Daw adran 19(3) a (4) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd) o’r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2023.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym weddill y darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 19(3) a (4) o’r Ddeddf ar 1 Gorffennaf 2023. Mae adran 19(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd (“y Cod”) a lunnir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o’r Ddeddf. Mae adran 19(4) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r Cod (i’r graddau y mae’r Cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 24

8 Mawrth 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 26

8 Mawrth 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 12

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 19 (yn rhannol)

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 21

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 22

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 4 (yn rhannol)

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 11 (yn rhannol)

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 25

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 28

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 23(3)

29 Mawrth 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adrannau 1 i 3

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adran 4 (y gweddill)

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adrannau 5 i 10

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adran 11 (y gweddill)

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adrannau 13 i 20

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adran 23(1) a (2)

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Adran 27

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno)

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Paragraff 22 o Atodlen 1

1 Hydref 2022

2022/996 (Cy. 212)2

Atodlen 2

29 Mawrth 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Atodlen 3

1 Ebrill 2023

2023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).