Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 723 (Cy. 109) (C. 37)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023

Gwnaed

28 Mehefin 2023

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2023

2.  Daw adran 19(3) a (4) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd) o’r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2023.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym weddill y darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 19(3) a (4) o’r Ddeddf ar 1 Gorffennaf 2023. Mae adran 19(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd (“y Cod”) a lunnir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o’r Ddeddf. Mae adran 19(4) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r Cod (i’r graddau y mae’r Cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 248 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 268 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 121 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 19 (yn rhannol)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 211 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 221 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 4 (yn rhannol)7 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 11 (yn rhannol)7 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 257 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 287 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 23(3)29 Mawrth 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adrannau 1 i 31 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adran 4 (y gweddill)1 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adrannau 5 i 101 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adran 11 (y gweddill)1 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adrannau 13 i 201 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adran 23(1) a (2)1 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Adran 271 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Paragraff 22 o Atodlen 11 Hydref 20222022/996 (Cy. 212) (2)
Atodlen 229 Mawrth 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 11 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)
Atodlen 31 Ebrill 20232023/370 (Cy. 56) (C. 16)

Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

(2)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.