Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 775 (Cy. 121)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023

Gwnaed

10 Gorffennaf 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Gorffennaf 2023

Yn dod i rym

2 Awst 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraffau 1, 5(1), 8(1), (2), (3) a (6) o Atodlen 11 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 2 Awst 2023.

Diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010

2.  Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3.  Yn rheoliad 5A (cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llywodraethu), yn lle “pedwar” rhodder “tri”.

4.  Yn rheoliad 8A (Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu), hepgorer paragraff (3).

5.  Yn rheoliad 9 (nifer aelodau’r Tribiwnlys Prisio a’u penodiad), hepgorer paragraffau (5) a (6).

6.  Yn rheoliad 10 (parhad aelodaeth o’r Tribiwnlys Prisio)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “gyfnod”, yn lle “o bum mlynedd” rhodder “sydd i’w bennu gan y Panel Penodiadau, ond heb fod yn hwy na phum mlynedd”;

(b)ym mharagraff 2(a), yn lle “bum mlynedd” rhodder “benodiad a bennir o dan reoliad 10(1)”;

(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Ni fydd aelod yn peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio at ddibenion rheoliadau 11(4)(b), 12(4)(a) a 13(5)(b) pan fo’r aelod, ar ddiwedd cyfnod penodiad o dan reoliad 10(1), yn cael ei benodi yn syth am gyfnod pellach o dan y rheoliad hwnnw.

7.  Yn rheoliad 27(1) (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

“mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

“ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar ac mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, dros y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebiadau electronig dwyffordd disymwth;

8.  Yn rheoliad 31 (trefniadau ar gyfer apelau), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

9.  Yn rheoliad 34(2) (hysbysiad o wrandawiad)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a), hepgorer “neu”;

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)yn swyddfa’r tribiwnlys prisio, neu

(d)ar wefan y tribiwnlys prisio.

10.  Yn rheoliad 34(3), ar ôl y gair “man” mewnosoder y geiriau “a’r wefan”.

11.  Yn rheoliad 46(11), hepgorer paragraff (a).

12.  Yn Atodlen 2 (gweithdrefn ethol)—

(a)ym mharagraff 2, hepgorer “(ond yn ddarostyngedig i baragraff 12(a))”;

(b)ar ddiwedd paragraff 12(a), hepgorer “—” a mewnosoder “yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio;”;

(c)hepgorer paragraff 12(a)(i) a (ii).

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Gorffennaf 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (“Rheoliadau 2010”).

Mae rheoliadau 3, 4 a 12 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â’r Cyngor Llywodraethu. Mae’r diwygiadau yn lleihau’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llywodraethu i dri, ac yn caniatáu i aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru eistedd ar Banel Penodiadau pan fydd yn penodi Cadeiryddion a’r rheini nad ydynt yn Gadeiryddion i’w hethol fel cynrychiolwyr cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn dileu’r cyfnod aelodaeth hwyaf o 10 mlynedd. Mae rheoliad 6 yn galluogi’r Panel Penodiadau i benodi aelodau am gyfnodau nad ydynt yn hwy na phum mlynedd ac yn egluro na fydd aelodaeth yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod penodiad pan fydd y cyfnod hwnnw wedi ei ddilyn yn syth gan gyfnod arall o aelodaeth.

Mae rheoliadau 7 i 11 yn diwygio trefniadau gweinyddol ar gyfer Apelau Treth Gyngor. Mae’r diwygiadau yn cadarnhau bod gwrandawiad yn cynnwys un a gynhelir naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfathrebiad electronig dwyffordd, yn pennu y caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun, ac yn diweddaru gofynion ar gyfer arddangos hysbysiadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1988 p. 41. Diwygiwyd adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 154(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 11 i Ddeddf 1988 gan baragraffau 3, 4, 7 ac 11 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28). Mae diwygiadau eraill i Atodlen 11 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2), a pharagraffau 1, 5 ac 8 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

2000 p. 7, a ddiwygiwyd gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources