2023 Rhif 775 (Cy. 121)
Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, a pharagraffau 1, 5(1), 8(1), (2), (3) a (6) o Atodlen 11 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 2 Awst 2023.
Diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010
2
Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 20102 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3
Yn rheoliad 5A (cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llywodraethu), yn lle “pedwar” rhodder “tri”.
4
Yn rheoliad 8A (Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu), hepgorer paragraff (3).
5
Yn rheoliad 9 (nifer aelodau’r Tribiwnlys Prisio a’u penodiad), hepgorer paragraffau (5) a (6).
6
Yn rheoliad 10 (parhad aelodaeth o’r Tribiwnlys Prisio)—
a
ym mharagraff (1), ar ôl “gyfnod”, yn lle “o bum mlynedd” rhodder “sydd i’w bennu gan y Panel Penodiadau, ond heb fod yn hwy na phum mlynedd”;
b
ym mharagraff 2(a), yn lle “bum mlynedd” rhodder “benodiad a bennir o dan reoliad 10(1)”;
c
ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
5
Ni fydd aelod yn peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio at ddibenion rheoliadau 11(4)(b), 12(4)(a) a 13(5)(b) pan fo’r aelod, ar ddiwedd cyfnod penodiad o dan reoliad 10(1), yn cael ei benodi yn syth am gyfnod pellach o dan y rheoliad hwnnw.
7
Yn rheoliad 27(1) (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20003;
“ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar ac mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, dros y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebiadau electronig dwyffordd disymwth;
8
Yn rheoliad 31 (trefniadau ar gyfer apelau), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
6
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
9
Yn rheoliad 34(2) (hysbysiad o wrandawiad)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (a), hepgorer “neu”;
b
ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
c
yn swyddfa’r tribiwnlys prisio, neu
d
ar wefan y tribiwnlys prisio.
10
Yn rheoliad 34(3), ar ôl y gair “man” mewnosoder y geiriau “a’r wefan”.
11
Yn rheoliad 46(11), hepgorer paragraff (a).
12
Yn Atodlen 2 (gweithdrefn ethol)—
a
ym mharagraff 2, hepgorer “(ond yn ddarostyngedig i baragraff 12(a))”;
b
ar ddiwedd paragraff 12(a), hepgorer “—” a mewnosoder “yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio;”;
c
hepgorer paragraff 12(a)(i) a (ii).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)