Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
10 Gorffennaf 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Gorffennaf 2023
Yn dod i rym
2 Awst 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraffau 1, 5(1), 8(1), (2), (3) a (6) o Atodlen 11 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 2 Awst 2023.
2. Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3. Yn rheoliad 5A (cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llywodraethu), yn lle “pedwar” rhodder “tri”.
4. Yn rheoliad 8A (Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu), hepgorer paragraff (3).
5. Yn rheoliad 9 (nifer aelodau’r Tribiwnlys Prisio a’u penodiad), hepgorer paragraffau (5) a (6).
6. Yn rheoliad 10 (parhad aelodaeth o’r Tribiwnlys Prisio)—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “gyfnod”, yn lle “o bum mlynedd” rhodder “sydd i’w bennu gan y Panel Penodiadau, ond heb fod yn hwy na phum mlynedd”;
(b)ym mharagraff 2(a), yn lle “bum mlynedd” rhodder “benodiad a bennir o dan reoliad 10(1)”;
(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Ni fydd aelod yn peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio at ddibenion rheoliadau 11(4)(b), 12(4)(a) a 13(5)(b) pan fo’r aelod, ar ddiwedd cyfnod penodiad o dan reoliad 10(1), yn cael ei benodi yn syth am gyfnod pellach o dan y rheoliad hwnnw.”
7. Yn rheoliad 27(1) (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
““mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);”
““ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar ac mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, dros y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebiadau electronig dwyffordd disymwth;”
8. Yn rheoliad 31 (trefniadau ar gyfer apelau), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun.”
9. Yn rheoliad 34(2) (hysbysiad o wrandawiad)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (a), hepgorer “neu”;
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)yn swyddfa’r tribiwnlys prisio, neu
(d)ar wefan y tribiwnlys prisio.”
10. Yn rheoliad 34(3), ar ôl y gair “man” mewnosoder y geiriau “a’r wefan”.
11. Yn rheoliad 46(11), hepgorer paragraff (a).
12. Yn Atodlen 2 (gweithdrefn ethol)—
(a)ym mharagraff 2, hepgorer “(ond yn ddarostyngedig i baragraff 12(a))”;
(b)ar ddiwedd paragraff 12(a), hepgorer “—” a mewnosoder “yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio;”;
(c)hepgorer paragraff 12(a)(i) a (ii).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (“Rheoliadau 2010”).
Mae rheoliadau 3, 4 a 12 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â’r Cyngor Llywodraethu. Mae’r diwygiadau yn lleihau’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llywodraethu i dri, ac yn caniatáu i aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru eistedd ar Banel Penodiadau pan fydd yn penodi Cadeiryddion a’r rheini nad ydynt yn Gadeiryddion i’w hethol fel cynrychiolwyr cenedlaethol.
Mae rheoliad 5 yn dileu’r cyfnod aelodaeth hwyaf o 10 mlynedd. Mae rheoliad 6 yn galluogi’r Panel Penodiadau i benodi aelodau am gyfnodau nad ydynt yn hwy na phum mlynedd ac yn egluro na fydd aelodaeth yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod penodiad pan fydd y cyfnod hwnnw wedi ei ddilyn yn syth gan gyfnod arall o aelodaeth.
Mae rheoliadau 7 i 11 yn diwygio trefniadau gweinyddol ar gyfer Apelau Treth Gyngor. Mae’r diwygiadau yn cadarnhau bod gwrandawiad yn cynnwys un a gynhelir naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfathrebiad electronig dwyffordd, yn pennu y caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun, ac yn diweddaru gofynion ar gyfer arddangos hysbysiadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 154(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 11 i Ddeddf 1988 gan baragraffau 3, 4, 7 ac 11 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28). Mae diwygiadau eraill i Atodlen 11 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2), a pharagraffau 1, 5 ac 8 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
O.S. 2010/713 (Cy. 69); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/547 (Cy. 59), O.S. 2014/554 (Cy. 66) ac O.S. 2017/941 (Cy. 234).
2000 p. 7, a ddiwygiwyd gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).