Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 794 (Cy. 126) (C. 43)

Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023

Gwnaed

11 Gorffennaf 2023

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Gorffennaf 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Gorffennaf 2023—

(a)adran 1;

(b)adran 2;

(c)adran 3;

(d)adran 4;

(e)adran 5;

(f)adran 6;

(g)adran 7;

(h)adran 8;

(i)adran 11;

(j)adran 12;

(k)adran 13;

(l)adran 14;

(m)adran 46;

(n)adran 47;

(o)adran 49.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—

(a)adran 15;

(b)adran 16;

(c)adran 18;

(d)adran 20.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1) (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Gorffennaf 2023—

(a)adran 1 (Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru);

(b)adran 2 (aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru);

(c)adran 3 (cynrychiolwyr cyflogwyr);

(d)adran 4 (cynrychiolwyr gweithwyr);

(e)adran 5 (enwebu aelodau penodedig);

(f)adran 6 (cyfnod penodiadau);

(g)adran 7 (cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol);

(h)adran 8 (is-grwpiau);

(i)adran 11 (cyfarfod o bell);

(j)adran 12 (treuliau);

(k)adran 13 (pwerau atodol);

(l)adran 14 (dehongli Rhan 1);

(m)adran 46 (dehongli cyffredinol);

(n)adran 47 (mân ddiwygiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2));

(o)adran 49 (enw byr).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—

(a)adran 15 (trosolwg o’r Rhan a dehongli);

(b)adran 16 (dyletswydd partneriaeth gymdeithasol);

(c)adran 18 (adroddiadau partneriaeth gymdeithasol);

(d)adran 20 (gwaith teg).