
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Gwybodaeth a ddarperir cyn 1 Hydref 2023: cyfrifo addasiad credyd rhwymedïol
23.—(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod y swm amgen mewn perthynas â chredyd pensiwn C—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023, a
(b)ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun.
(2) Pan fo—
(a)y swm amgen yn fwy na’r swm cychwynnol, neu
(b)y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg a’r swm amgen yn llai na’r swm cychwynnol,
mae cyfrif pensiwn C yn ddarostyngedig i addasiad (“addasiad credyd rhwymedïol”) sy’n hafal i’r gwahaniaeth.
(3) Rhaid i’r rheolwr cynllun, erbyn diwedd 30 Medi 2024, ddarparu i C ddatganiad sy’n nodi—
(a)y swm amgen,
(b)unrhyw addasiad credyd rhwymedïol, ac
(c)pan fo rheoliad 24(4)(b) yn gymwys mewn perthynas ag C, eglurhad o’r cais y caniateir ei wneud yn unol â rheoliad 24(5) a chanlyniadau gwneud y cais hwnnw, neu beidio â gwneud y cais hwnnw.
Back to top