Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
12 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Medi 2023
Yn dod i rym
9 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(5)(a) a (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Hydref 2023.
2. Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001(2), yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder “cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Medi 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2279 (Cy. 169)) (“Rheoliadau 2001”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y diffiniad o “awdurdod perthnasol”.
Mae Rheoliadau 2001 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer caniatáu gollyngiadau rhag gwaharddiadau yn y cod ymddygiad ar gyfer aelodau neu aelodau cyfetholedig o bwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2000 p. 22. Diwygiwyd adran 81(5) gan baragraff 48(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), i roi’r geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State”. Ailrifwyd adran 81(5) yn adran 81(5)(a) a mewnosodwyd adran 81(5)(b) gan adran 69(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4). Mewnosododd rheoliad 3(2)(a) o O.S. 2022/372 (Cy. 92) gyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “relevant authority” yn adran 49 o Ddeddf 2000. Mae adran 49 wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 2000, sy’n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.
O.S. 2001/2279 (Cy. 169) a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy. 214) ac O.S. 2016/85 (Cy. 39).