Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 13 (Cy. 5)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed

8 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Ionawr 2024

Yn dod i rym

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1), (2) a (5) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947(1) ac adrannau 34(1), (2) a (4), a 60(2)(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2), ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn, yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2024.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Mae Atodlen 1 (Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru)) i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(3) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau Canlyniadol i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

3.—(1Mae Atodlen 2 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(4) wedi ei diwygio yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn Atodlen 6 (gwasanaeth pensiynadwy a gwerthoedd trosglwyddo), yn Rhan 4 (swm y gwerth trosglwyddo), ym mharagraff 7—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “1st July 2000”, rhodder “7 April 2000”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “1st July 2000”, rhodder “7 April 2000”.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

4.  Mae Atodlen 1 (Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007) i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (5) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Ionawr 2024

Erthygl 2

ATODLEN 1Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Rhan 1 (enwi a dehongli)

1.—(1Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “cyfnod cyfyngedig estynedig” (“extended limited period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflogwyd y person gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o—

(a)

y dyddiad, os yw’n gymwys, yr ymunodd y person hwnnw â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r person hwnnw, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig,

(b)

y dyddiad, os yw’n gymwys, pan ddaeth cyflogaeth y person hwnnw fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân rheolaidd i ben, ac

(c)

31 Mawrth 2015;;

ystyr “cyfnod cyflogaeth arbennig” (“special employment period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 7 Ebrill 2000 ac sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2006;

ystyr “Cynllun 2015” (“the 2015 Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 a sefydlwyd gan Reoliadau 2015;.

(b)yn lle’r diffiniad o “cyfnod arbennig gorfodol”, rhodder—

ystyr “cyfnod arbennig gorfodol” (“mandatory special period”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwasanaeth a brynwyd yn dilyn cais a wnaed o dan reol 5A o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig), y rhan honno o wasanaeth person yn ystod y cyfnod cyfyngedig sy’n cychwyn ar y dyddiad a ddewiswyd gan y person hwnnw cyn 6 Ebrill 2006 ac yn diweddu ar y cynharaf o’r dyddiadau a ganlyn—

(i)

y dyddiad yr ymunodd y person â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn perthynas â gwasanaeth y gallai’r person, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, a

(ii)

y dyddiad, os yw’n gymwys, y diswyddwyd y person neu yr ymddeolodd o’i gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd neu ddiffoddwr tân wrth gefn;

(b)

mewn perthynas â gwasanaeth a brynwyd yn dilyn cais o dan reol 5B o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig), y rhan honno o wasanaeth person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig sy’n cychwyn ar y dyddiad a ddewiswyd ganddo cyn 6 Ebrill 2006 ac sy’n diweddu ar ddiwrnod olaf y cyfnod cyfyngedig estynedig.;

(c)yn y diffiniad o “aelodaeth arbennig”, ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân arbennig,” mewnosoder “aelod arbennig cysylltiedig,”.

Diwygio Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol)—

2.—(1Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraffau (7)(b) ac (11)(b) o reol 1A (aelodaeth arbennig), yn lle “1 Gorffennaf 2000” rhodder “7 Ebrill 2000”.

(3Ym mharagraff (11)(b) o reol 1A, yn lle “1 Gorffennaf 2000” rhodder “7 Ebrill 2000”.

Diwygio Rhan 3 (dyfarndaliadau personol)

3.—(1Mae Rheol 2A o Ran 3 (dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid gwneud cais o dan baragraff (2)—

(a)pan fo’r person yn prynu gwasanaeth yn dilyn cais o dan reol 5A o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig), yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5A(13) o’r Rhan honno;

(b)pan fo’r person yn prynu gwasanaeth yn dilyn cais a wnaed o dan reol 5B o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig), yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5B(15) o’r Rhan honno.

(3Ar ôl paragraff (14), mewnosoder—

(15) Caiff aelod a oedd, ar neu cyn 1 Chwefror 2024, yn cael dyfarndaliad ôl-weithredol o dan y rheol hon wneud cais am ddyfarndaliad ôl-weithredol wedi ei ailgyfrifo, pan fo’r aelod wedi prynu gwasanaeth ychwanegol yn dilyn cais a wnaed o dan reol 5B o Ran 11 (“y gwasanaeth ychwanegol”).

(16) Rhaid gwneud cais o dan baragraff (15) yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5B(15) o Ran 11.

(17) Yn dilyn cais o dan baragraff (15), rhaid i’r awdurdod dalu cyfandaliad sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng—

(a)swm y cyfandaliad a’r pensiwn a delir o dan baragraff (12) cyn dyddiad y cais o dan baragraff (15), a

(b)y cyfandaliad a’r swm pensiwn a fyddai wedi ei dalu o dan baragraff (12) cyn dyddiad y cais, pe bai’r taliadau hynny wedi cymryd i ystyriaeth y gwasanaeth ychwanegol.

(18) O ddyddiad y cais o dan baragraff (15), rhaid i’r awdurdod dalu pensiwn afiechyd a gyfrifir yn unol â pharagraff (12), sy’n cymryd i ystyriaeth y gwasanaeth ychwanegol.

(19) Rhaid i’r awdurdod atgyfeirio cais a wneir o dan baragraff (15) at Actiwari’r Cynllun, a rhaid iddo gyfrifo’r symiau sy’n daladwy o dan baragraffau (17) a (18).

Diwygio Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth)

4.—(1Mae Rhan 5 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2—Ar ôl rheol 1A (grant marwolaeth ar gyfer cyfnod cyfyngedig) mewnosoder—

Grant marwolaeth ar gyfer cyfnod cyfyngedig estynedig

1B.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys os oedd person—

(a)wedi ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn ar neu ar ôl 7 Ebrill 2000, a

(b)wedi parhau mewn cyflogaeth o’r fath hyd nes bu farw’r person cyn 6 Ebrill 2006.

(2) Os oedd yr ymadawedig yn briod neu’n aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, caiff priod neu bartner sifil yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud ar neu cyn 31 Gorffennaf 2025.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad oedd yr ymadawedig yn briod nac yn aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, neu os bu farw priod neu bartner sifil yr ymadawedig ers marwolaeth yr ymadawedig, caiff plentyn yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid gwneud unrhyw gais o’r fath ar neu cyn 31 Gorffennaf 2025.

(4) Nid yw person yn gymwys i gael grant marwolaeth ar gyfer plentyn o dan y rheol hon oni fyddai’r person wedi bod yn gymwys ar gyfer pensiwn plentyn yn rhinwedd unrhyw beth yn rheol 7 o Ran 4 (pensiwn plentyn: cyfyngiadau a hyd) ar yr adeg y bu farw’r ymadawedig.

(5) Rhaid i’r awdurdod ddyfarnu swm tâl pensiynadwy’r ymadawedig yn seiliedig ar—

(a)gwybodaeth a ddarperir gan y person sy’n gwneud y cais, a ddarperir gyda’r cais hwnnw, neu mewn ymateb i gais gan yr awdurdod,

(b)os na ddarperir gwybodaeth, cofnodion yr awdurdod, neu

(c)os na ddarperir gwybodaeth ac nad oes cofnodion ar gael, y rhagdybiaeth bod tâl pensiynadwy wrth gefn y person am y cyfnod yn hafal i 25% o dâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-cyflawn a gyflogwyd mewn rôl debyg gyda gwasanaeth cymhwysol cyfwerth.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae grant marwolaeth o dan y rheol hon yn cynnwys—

(a)y grant marwolaeth sylfaenol, a gyfrifir yn unol â pharagraff (7), a

(b)y grant marwolaeth ychwanegol, a gyfrifir yn unol â pharagraff (8), os yw’r grant marwolaeth ychwanegol yn daladwy o dan baragraff (9).

(7) Mae swm y grant marwolaeth sylfaenol yn swm sy’n hafal i luoswm 2.5 a swm y tâl pensiynadwy y penderfyna’r awdurdod a gafodd yr ymadawedig yn ystod ei flwyddyn olaf o wasanaeth.

(8) Rhaid cyfrifo swm y grant marwolaeth ychwanegol yn unol â’r fformiwla—

Fformiwla

ac—

  • A yw swm y tâl pensiynadwy y penderfyna’r awdurdod a gafodd yr ymadawedig yn ei flwyddyn olaf o wasanaeth, a

  • B yw nifer y blynyddoedd a gwblhawyd (sydd â’r ystyr yn rheol 6(2) o Ran 10 (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy)) pryd y cyflogwyd yr ymadawedig fel diffoddwr tân wrth gefn yn y cyfnod cyn 7 Ebrill 2000, fel y’i dyfernir gan yr awdurdod.

(9) Nid yw’r grant marwolaeth ychwanegol yn daladwy ond pan fo’r ymadawedig wedi dechrau cyflogaeth gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 7 Ebrill 2000.

(10) Pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod grant marwolaeth yn daladwy o dan y rheol hon, rhaid i’r awdurdod dalu’r grant marwolaeth yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais am grant marwolaeth.

(11) Yn ddarostyngedig i baragraff (12) caiff yr awdurdod dalu’r cyfan neu ran o’r grant marwolaeth, i ba bynnag berson neu bersonau sy’n briodol ym marn yr awdurdod.

(12) Rhaid i’r awdurdod beidio â thalu unrhyw ran o’r grant marwolaeth i berson a gollfarnwyd o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (13).

(13) Os diddymir collfarn o’r math a ‌ddisgrifir ym mharagraff (12) yn dilyn apêl, caiff ‌yr awdurdod, oni fydd wedi talu’r grant ‌marwolaeth yn llawn erbyn hynny, dalu’r cyfan ‌neu ran ohono i’r person y diddymwyd ei gollfarn.

(14) Pan fo’r rheol hon yn gymwys, nid oes hawlogaeth i gael grant marwolaeth o dan reol 1 (grant marwolaeth) na grant marwolaeth ar ôl ymddeol o dan reol 2 (grant marwolaeth ar ôl ymddeol) o’r Rhan hon nac ychwaith bensiwn goroeswr, pensiwn profedigaeth na phensiwn plentyn o dan Ran 4 (pensiynau goroeswyr).

(15) Nid yw grant marwolaeth sylfaenol yn daladwy o dan y rheol hon os yw grant marwolaeth wedi ei dalu o dan reol 1A (grant marwolaeth ar gyfer cyfnod cyfyngedig) o’r Rhan hon mewn perthynas â’r ymadawedig.

Grant marwolaeth ychwanegol

1C.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo person—

(a)wedi dechrau cyflogaeth gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 1 Gorffennaf 2000,

(b)wedi dewis ymuno â’r Cynllun hwn o dan reol 6A o Ran 11 (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig) mewn perthynas â gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig yn dilyn cais o dan reol 5A o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig), ac

(c)wedi marw cyn 31 Gorffennaf 2025 a heb ddewis o dan reol 6A o Ran 11 mewn perthynas â’u gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig yn dilyn cais o dan reol 5B o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig).

(2) Os oedd yr ymadawedig yn briod neu’n aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, caiff priod neu bartner sifil yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud ar neu cyn 31 Gorffennaf 2025.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad oedd yr ymadawedig yn briod nac yn aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, neu os bu farw priod neu bartner sifil yr ymadawedig ers marwolaeth yr ymadawedig, caiff plentyn yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid gwneud unrhyw gais o’r fath ar neu cyn 31 Gorffennaf 2025.

(4) Nid yw person yn gymwys i gael grant marwolaeth ar gyfer plentyn o dan y rheol hon oni fyddai’r person wedi bod yn gymwys ar gyfer pensiwn plentyn yn rhinwedd unrhyw beth yn rheol 7 o Ran 4 (pensiwn plentyn: cyfyngiadau a hyd) ar yr adeg y bu farw’r ymadawedig.

(5) Rhaid i’r awdurdod ddyfarnu swm tâl pensiynadwy’r ymadawedig yn seiliedig ar—

(a)gwybodaeth a ddarperir gan y person sy’n gwneud y cais, a ddarperir gyda’r cais hwnnw, neu mewn ymateb i gais gan yr awdurdod,

(b)os na ddarperir gwybodaeth, cofnodion yr awdurdod, neu

(c)os na ddarperir gwybodaeth ac nad oes cofnodion ar gael, y rhagdybiaeth bod tâl pensiynadwy wrth gefn y person am y cyfnod yn hafal i 25% o dâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-cyflawn a gyflogwyd mewn rôl debyg gyda gwasanaeth cymhwysol cyfwerth.

(6) Rhaid cyfrifo swm y grant marwolaeth sy’n daladwy o dan y rheol hon yn unol â’r fformiwla—

Fformiwla

ac—

  • A yw swm y tâl pensiynadwy y penderfyna’r awdurdod a gafodd yr ymadawedig yn ei flwyddyn olaf o wasanaeth, a

  • B yw nifer y blynyddoedd a gwblhawyd (sydd â’r ystyr yn rheol 6(2) o Ran 10) pryd y cyflogwyd yr ymadawedig fel diffoddwr tân wrth gefn yn y cyfnod cyn 1 Gorffennaf 2000, fel y’i dyfernir gan yr awdurdod.

(7) Pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod grant marwolaeth yn daladwy o dan y rheol hon, rhaid i’r awdurdod dalu’r grant marwolaeth yn ystod y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais am grant marwolaeth.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) caiff yr awdurdod dalu’r cyfan neu ran o’r grant marwolaeth, i ba bynnag berson neu bersonau sy’n briodol ym marn yr awdurdod.

(9) Rhaid i’r awdurdod beidio â thalu unrhyw ran o’r grant marwolaeth i berson a gollfarnwyd o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).

(10) Os diddymir collfarn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (9) yn dilyn apêl, caiff yr awdurdod, oni fydd wedi talu’r grant marwolaeth yn llawn erbyn hynny, dalu’r cyfan neu ran ohono i’r person y diddymwyd ei gollfarn.

Diwygio Rhan 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy)

5.—(1Mae Rhan 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 1 (gwasanaeth cymhwysol), ym mharagraffau (f) ac (ff), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig” mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(3Yn rheol 2A (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy arbennig)—

(a)ym mharagraff (1)(b), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig”, mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

Diwygio Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)—

6.—(1Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol), ym mharagraff (9), ar y diwedd, mewnosoder “neu, os rhoddwyd hysbysiad o dan reol 5B(15) o’r Rhan hon, a nodir yn yr hysbysiad hwnnw”.

(3Ar ôl rheol 5A (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig), mewnosoder—

Prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig

5B.(1) Caiff person sy’n bodloni’r amodau a bennir ym mharagraff (2), yn unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon, ddewis talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig.

(2) Yr amodau yw—

(a)bod y person yn aelod arbennig neu fod ganddo hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig;

(b)bod y gwasanaeth yn wasanaeth—

(i)fel diffoddwr tân wrth gefn;

(ii)fel diffoddwr tân rheolaidd pan fo’r person wedi dechrau ei gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd ar ôl 5 Ebrill 2006 yn union ar ôl terfynu ei gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn, neu

(iii)gyda chytundeb yr awdurdod, fel diffoddwr tân rheolaidd, ond nid fel diffoddwr tân wrth gefn, pan fo’r person hwnnw wedi bod yn gyflogedig gan awdurdod fel diffoddwr tân wrth gefn ac wedyn y gwnaed hi’n ofynnol gan yr awdurdod hwnnw ar ôl 5 Ebrill 2006 iddo barhau mewn cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn tra bo’n ymgymryd â chyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd, ac

(c)nad yw paragraff (3) yn gymwys i’r person.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)y person wedi dechrau cyflogaeth gyntaf fel diffoddwyr tân wrth gefn ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000, a

(b)yr awdurdod wedi hysbysu’r person o’i hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig o dan reol 5A(4) o’r Rhan hon, ac, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, fod yr awdurdod wedi cydymffurfio â’r gofynion yn rheol 5A(13) neu reol 6C(4) (dewis prynu gwasanaeth: cofrestru dros dro) o’r Rhan hon.

(4) Rhaid i’r awdurdod ddyfarnu a yw paragraff (3)(a) yn gymwys ac os felly, a gydymffurfiwyd â’r gofyniad ym mharagraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu’r personau hynny y penderfyna fod paragraff (3) yn gymwys iddynt cyn 30 Ebrill 2024.

(5) Caiff yr awdurdod, wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (4), ddyfarnu eu bod wedi hysbysu’r person o’i hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig yn unol â pharagraff (3)(b) os gall yr awdurdod—

(a)dangos copi ffeil o lythyr neu neges e-bost a ddrafftiwyd yn unol â rheol 5A(4), 5A(13) neu 6C(4) o’r Rhan hon, yn ôl y digwydd, sydd—

(i)wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person yn y cyfeiriad cartref neu’r cyfeiriad e-bost yr hysbysodd y person hwnnw yr awdurdod amdano yn fwyaf diweddar cyn y dyddiad a arddangosir ar y llythyr hwnnw neu’r neges e-bost honno, a

(ii)yn nodi’r materion sy’n ofynnol gan reol 5A(4), 5A(13) neu 6C(4) o’r Rhan hon, yn ôl fel y digwydd, neu

(b)cadarnhau—

(i)bod system postgyfuno electronig yn bodoli i roi enwau a chyfeiriadau ar lythyrau templed neu negeseuon e-bost templed at ddiben hysbysu personau o’u hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig o dan reol 5A(4), ac, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, i gydymffurfio â’r gofynion yn rheol 5A(13) neu 6C(4) o’r Rhan hon, yn ôl fel y digwydd,

(ii)bod y system postgyfuno electronig yn cynnwys enw’r person a’r cyfeiriad cartref neu’r cyfeiriad e-bost diwethaf yr hysbysodd y person hwnnw yr awdurdod amdano cyn y dyddiad y mae’r awdurdod yn rhesymol amcangyfrif bod y llythyr neu’r neges e-bost wedi ei anfon neu ei hanfon, a

(iii)bod llythyr templed neu neges e-bost dempled sy’n nodi’r materion sy’n ofynnol gan reol 5A(4), rheol 5A(13) neu reol 6C(4) o’r Rhan hon yn bodoli, yn ôl fel y digwydd.

(6) At ddibenion paragraffau (3), (4) a (5), mae awdurdod wedi cydymffurfio â’r gofynion yn rheol 6C(4) o’r Rhan hon—

(a)os nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r awdurdod hwnnw roi hysbysiad yn unol â rheol 6C(4) ar neu cyn 31 Mai 2015, a

(b)os rhoddodd yr awdurdod yr hysbysiad cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol ar ôl 31 Mai 2015.

(7) Pan fo person yn anghytuno â dyfarniad awdurdod o dan baragraff (4), caiff y person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r awdurdod o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daeth y dyfarniad i law, ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ymdrin â’r anghytundeb drwy gyfrwng y trefniadau a weithredir gan yr awdurdod yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995 (6) (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 2008 (7).

(8) Nid yw’r cyfnod gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1), yn ddarostyngedig i reol 11A (trosglwyddo hawliau crynodedig o dan Gynllun 1992 i aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn) neu 18 (trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig – aelodau pensiynwyr arbennig) o Ran 12, yn cynnwys unrhyw gyfnod o wasanaeth y talodd y person mewn cysylltiad ag ef—

(a)cyfraniadau pensiwn o dan Gynllun 1992;

(b)cyfraniadau pensiwn o dan y Cynllun hwn fel aelod safonol;

(c)cyfraniadau pensiwn arbennig o dan y Cynllun hwn fel aelod arbennig mewn perthynas â gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig y dewisodd y person ei brynu yn dilyn cais o dan reol 5A o’r Rhan hon.

(9) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)yn ddarostyngedig i reol 6A(12) o’r Rhan hon, rhaid talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol, a

(b)rhaid talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol am y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6A(11) o’r Rhan hon, os yw’r person wedi dewis trosglwyddo’i hawliau cronedig yng Nghynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig.

(10) Cyn 30 Ebrill 2024 rhaid i’r awdurdod wneud pob ymdrech resymol i hysbysu’r holl gyflogeion presennol a chyn-gyflogeion a gyflogwyd yn ystod y cyfnod cyflogaeth arbennig, y gallant fod â hawlogaeth o’r fath, sydd naill ai—

(a)yn bersonau a allai fod â hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, neu

(b)yn aelodau arbennig presennol a allai fod â hawlogaeth i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig.

(11) Caiff person wneud cais i’r awdurdod a fu’n ei gyflogi yn ystod y cyfnod cyflogaeth arbennig am ddatganiad o—

(a)y gwasanaeth y gallai fod gan y person hawlogaeth mewn cysylltiad ag ef i dalu cyfraniadau o dan y rheol hon, a

(b)y cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol y byddai’n ofynnol i’r person eu talu mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

(12) Rhaid gwneud cais o dan baragraff (11)—

(a)o fewn 6 mis ar ôl cael yr hysbysiad ym mharagraff (10), neu

(b)os na chafwyd hysbysiad o’r fath, cyn 30 Tachwedd 2024.

(13) Rhaid i gais o dan baragraff (11) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

(a)y dyddiad pan ddechreuodd y ceisydd ei gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn;

(b)os yw’r ceisydd wedi gadael y gyflogaeth honno, dyddiad yr ‌ymadawiad;

(c)os dechreuodd y ceisydd gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth honno;

(ch)os ymunodd y ceisydd â’r Cynllun hwn fel aelod safonol neu os ymunodd â Chynllun 1992, y dyddiad yr ymunodd â’r Cynllun ac, os digwyddodd hynny, y dyddiad y dewisodd beidio â thalu cyfraniadau pensiwn o dan reol 5 o Ran 2 o’r Cynllun hwn neu o dan reol G3 o Gynllun 1992 (dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn) yn ôl fel y digwydd, a

(d)os yw’r ceisydd eisoes wedi ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, y dyddiad yr ymunodd â’r Cynllun hwn a’r cyfnod o wasanaeth y mae’r person eisoes wedi dewis ei brynu o dan reol 6A o’r Rhan hon.

(14) Rhaid i awdurdod ddyfarnu gwasanaeth a thâl pensiynadwy person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, a chyfraniadau pensiwn arbennig y person sy’n daladwy mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, yn unol â rheol 5C o’r Rhan hon.

(15) O fewn 3 mis ar ôl cael cais o dan baragraff (11), rhaid i’r awdurdod roi i’r ceisydd hysbysiad sy’n nodi—

(a)y cyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig y caiff y ceisydd ei brynu,

(b)swm y cyfraniadau pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod arbennig gorfodol,

(c)swm y cyfraniadau pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn cysylltiad â gweddill gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, a

(ch)y tâl pensiynadwy ac, mewn achosion priodol, y tâl pensiynadwy terfynol y dyfarnodd yr awdurdod a dalwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig.

(16) Pan na fo’n rhesymol ymarferol cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir yn y rheol hon o fewn y cyfnod a bennir, rhaid i’r awdurdod neu’r ceisydd yn ôl fel y digwydd gydymffurfio â’r gofyniad hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, ond mae hyn yn ddarostyngedig i reol 6B(13) o’r Rhan hon.

(17) Mewn achos pan fo aelod yn gwneud cais o dan baragraff (12)(b) ar ôl 31 Gorffennaf 2025, rhaid i’r awdurdod ymgynghori ag Actiwari’r Cynllun wrth lunio’r hysbysiad o dan baragraff (15).

Prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig – darpariaeth atodol

5C.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys at ddibenion dyfarnu cyfnod gwasanaeth a thâl pensiynadwy’r person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, a chyfraniadau pensiwn arbennig y person sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(2) Mewn perthynas â’r rhan honno o wasanaeth person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig sy’n dod ar 1 Gorffennaf 2000 neu ar ôl hynny, rhaid i awdurdod ddyfarnu’r cyfnod hwnnw o wasanaeth y person a’i dâl pensiynadwy yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol â pharagraffau (7)-(12) o reol 5A o’r Rhan hon, ond at ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “y cyfnod cyfyngedig” yn y paragraffau hynny o reol 5A i’w darllen fel petaent yn gyfeiriadau at “y cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(3) Mewn perthynas â’r rhan honno o wasanaeth person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig cyn 1 Gorffennaf 2000, rhaid i awdurdod ddyfarnu’r cyfnod hwnnw o wasanaeth y person a’i dâl pensiynadwy yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol â pharagraffau (4)-(9) o’r rheol hon.

(4) Rhaid i awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person a’i dâl pensiynadwy yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig o’i gofnodion.

(5) Pan na all awdurdod, o’i gofnodion, ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person neu dâl pensiynadwy’r person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, caiff y person ddarparu dogfennau i’r awdurdod i’w gynorthwyo i ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person a thâl pensiynadwy’r person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig a chaiff yr awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person a thâl pensiynadwy’r person o’r dogfennau hynny.

(6) Rhaid i’r awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth pensiynadwy’r person yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, ac, yn benodol, caiff benderfynu nad oes gan y person wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig os nad oes gan yr awdurdod gofnodion o wasanaeth y person hwnnw ar gyfer y cyfnod hwnnw ac na all y person ddarparu’r dogfennau angenrheidiol i’r awdurdod.

(7) Pan oes gan yr awdurdod gofnodion o dâl y person hwnnw am y cyfnod hwnnw, ac na all y person ddarparu’r dogfennau angenrheidiol i’r awdurdod, rhaid i’r awdurdod—

(a)dyfarnu tâl pensiynadwy’r person am y cyfnod hwnnw o’r cofnodion sydd yn ei feddiant a’i brofiad lleol, neu

(b)cymhwyso’r rhagdybiaeth ddiofyn—

(i)os nad yw dyfarniad o dan is-baragraff (a) yn bosibl, neu

(ii)os yw dyfarniad o dan is-baragraff (a) yn ddyfarniad bod tâl pensiynadwy wrth gefn y person am y cyfnod yn llai na 25% o dâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-cyflawn a gyflogwyd mewn rôl debyg gyda gwasanaeth cymhwysol cyfwerth.

(8) Ym mharagraff (7), y rhagdybiaeth ddiofyn yw bod tâl pensiynadwy wrth gefn y person am y cyfnod yn hafal i 25% o dâl pensiynadwy diffoddwr tân cymwys rheolaidd amser-cyflawn a gyflogwyd mewn rôl debyg gyda gwasanaeth cymhwysol cyfwerth.

(9) Pan fo’r awdurdod yn amcangyfrif tâl pensiynadwy y person o dan baragraff (7) ac nad oes gan yr awdurdod gofnodion o reng y person hwnnw, ac na all y person ddarparu dogfennau i’r awdurdod i’w cynorthwyo i ddyfarnu rheng y person, caiff yr awdurdod ragdybio y bu’r person yn dal rheng diffoddwr tân at ddibenion amcangyfrif tâl pensiynadwy.

(10) Rhaid i’r awdurdod gyfrifo swm y cyfraniadau pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig drwy gymhwyso cyfradd a bennir gan Actiwari’r Cynllun gan roi sylw i’r gyfradd sy’n ofynnol gan baragraff (1A) o reol 3 o’r Rhan hon ar gyfer y cyfnod priodol ar gyfer tâl pensiynadwy’r person.

(4Ym mhennawd rheol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig” mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig” .

(5Yn rheol 6A—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “Cynllun hwn” mewnosoder “neu brynu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(c)o dan reol 10 o Ran 3 (cymudo: pensiynau bach).;

(c)ym mharagraff (3), ar ôl “Cynllun hwn” mewnosoder “neu brynu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig”;

(d)yn lle paragraff (4), rhodder—

(4) Caniateir talu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar ffurf—

(a)cyfraniad cyfandaliad, neu

(b)cyfraniadau cyfnodol y mae’n rhaid eu cyfrifo yn unol â chanllawiau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun dros gyfnod y cytunwyd arno rhwng y person a’r awdurdod, heb fod y cyfnod hwnnw yn hwy na—

(i)10 mlynedd, sy’n dechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath, mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig sy’n ymwneud â gwasanaeth ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000;

(ii)10 mlynedd ynghyd â hanner nifer y blynyddoedd o wasanaeth, neu os yw’n hwy, 20 mlynedd, gan ddechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath, mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig sy’n ymwneud â gwasanaeth cyn 1 Gorffennaf 2000,

ac eithrio pan fo atebolrwydd y person yn llai na £100, ac os felly mae’n rhaid talu’r cyfraniadau hynny drwy gyfraniad cyfandaliad.

(e)ym mharagraff (6), yn lle “yn unol â hysbysiad i gymudo” hyd ddiwedd y paragraff, rhodder—

(a)yn unol â hysbysiad i gymudo cyfran o bensiwn yr aelod o dan reol 9 neu reol 10 (cymudo: pensiynau bach) o Ran 3;

(b)o dan baragraff (8) o reol 1A neu o dan baragraff (12) o reol 2A o Ran 3.

(f)ym mharagraffau (7) a (7A), ar ôl “Cynllun hwn” ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu brynu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig”;

(g)yn lle paragraff (8), rhodder—

(8) Caniateir talu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar ffurf—

(a)cyfraniad cyfandaliad, neu

(b)cyfraniadau cyfnodol y mae’n rhaid eu cyfrifo yn unol â chanllawiau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun dros gyfnod y cytunwyd arno rhwng y person a’r awdurdod, heb fod y cyfnod hwnnw yn hwy na—

(i)10 mlynedd, sy’n dechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath, mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig sy’n ymwneud â gwasanaeth ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000;

(ii)10 mlynedd ynghyd â hanner nifer y blynyddoedd o wasanaeth, neu os yw’n hwy, 20 mlynedd, gan ddechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath, mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig sy’n ymwneud â gwasanaeth cyn 1 Gorffennaf 2000,

ac eithrio pan fo atebolrwydd y person yn llai na £100, ac os felly mae’n rhaid talu’r cyfraniadau hynny drwy gyfandaliad cyfandaliad.

(h)ym mharagraff (10), yn lle “yn unol â hysbysiad i gymudo” hyd ddiwedd y paragraff, rhodder—

(a)yn unol â hysbysiad i gymudo cyfran o bensiwn yr aelod o dan reol 9 neu reol 10 o Ran 3;

(b)o dan baragraff (8) o reol 1A neu o dan baragraff (12) o reol 2A o Ran 3.

(6Ym mhennawd rheol 6B (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig: darpariaeth atodol), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig” mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(7Yn rheol 6B—

(a)yn lle paragraff (1), rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (12), (13) a (14), rhaid gwneud dewisiad o dan reol 6A o’r Rhan hon drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, y mae’n rhaid ei roi—

(a)pan fo’r awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan reol 5A(13) o’r Rhan hon, yn ystod y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o’r fath, neu

(b)pan fo’r awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan reol 5B (10) o’r Rhan hon, yn ystod y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o’r fath.;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “o dan reol 5A(13)” mewnosoder “neu reol 5B(15) yn ôl fel y digwydd ”;

(c)ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

(4A) Pan fo’n ofynnol i berson o dan baragraff (2), neu pan fo person wedi dewis o dan baragraff (4), (8) neu (9), o reol 6A o’r Rhan hon, dalu cyfraniad cyfandaliad, rhaid talu’r swm hwnnw yn llawn, cyn y dechreuir talu’r pensiwn y mae’r cyfandaliad yn ymwneud ag ef, yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad o’r cyfandaliad yn unol â pharagraff (2), (6) neu (10) o reol 6A;

(d)ym mharagraff (7)(a) a (b), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig” mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”;

(e)ym mharagraff (12), ar ôl “mharagraff (1)”, mewnosoder “(a)”;

(f)ar ôl paragraff (12), mewnosoder—

(13) Yn ddarostyngedig i baragraff (14), pan na fo’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1)(b) o fewn y cyfnod penodedig, rhaid rhoi’r dewisiad drwy hysbysiad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw ond mewn unrhyw achos ni chaiff gymryd effaith ar ôl 31 Gorffennaf 2025.

(14) Pan na fo person wedi cael hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5B(10) o’r Rhan hon, caiff ddewisiad o dan baragraff (1) gymryd effaith ar ôl 31 Gorffennaf 2025.

(8Ar ôl rheol 6C, mewnosoder—

Prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig – cyfanswm y gwasanaeth pensiynadwy

6D.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo person wedi ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r person hwnnw ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig fel arall a gwasanaeth a brynwyd yn dilyn cais o dan reol 5A o’r Rhan hon,

(b)pan fo’r person hwnnw wedi prynu gwasanaeth ychwanegol o dan reol 5 o’r Rhan hon ar yr un pryd â’r dewisiad o dan reol 5A,

(c)pan fo’r person hwnnw’n dewis prynu gwasanaeth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfyngedig estynedig o dan reol 5B o’r Rhan hon, a

(ch)pan fyddai ychwanegu’r cyfnod o wasanaeth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfyngedig estynedig at wasanaeth pensiynadwy arbennig yr aelod (o fewn ystyr rheol 2A(1) o Ran 10) yn arwain at gyfnod sy’n fwy na 30 mlynedd.

(2) Rhaid i’r awdurdod adolygu’r dewisiad i brynu gwasanaeth ychwanegol o dan reol 5, yn unol â pharagraff (3), fel nad yw cyfanswm y gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn fwy na 30 mlynedd erbyn oedran ymddeol arferol yr aelod.

(3) Mae’r cyfnod y byddai cyfanswm y gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn fwy na 30 mlynedd (“y gwasanaeth gormodol”) ar oedran ymddeol arferol yr aelod i’w ddidynnu o’r gwasanaeth ychwanegol y dewisodd yr aelod ei brynu o dan reol 5.

(4) Mae unrhyw gyfraniadau a dalwyd gan yr aelod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth gormodol i’w didynnu o’r cyfraniadau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwasanaeth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfyngedig estynedig a brynwyd o dan reol 5B.

(5) Pan fo’r cyfraniadau a dalwyd gan yr aelod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth gormodol yn fwy na’r cyfraniadau sy’n ddyledus mewn perthynas â’r gwasanaeth a brynwyd o dan reol 5B, mae’r awdurdod i ad-dalu’r cyfraniadau gormodol i’r aelod.

Didyniad digolledu

6E.(1) Rhaid i’r awdurdod ddidynnu o gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol aelod arbennig swm a gyfrifir yn unol â’r rheol hon (y “didyniad digolledu”) pan fo’r aelod arbennig hwnnw—

(a)yn dewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â gwasanaeth yr aelod arbennig yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol yn unol â rheol 6A o’r Rhan hon, mewn perthynas â gwasanaeth a brynwyd yn dilyn cais o dan reol 5B o’r Rhan hon, a

(b)yn darparu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5).

(2) Rhaid i’r didyniad digolledu—

(a)cael ei gyfrifo ar gyngor Actiwari’r Cynllun;

(b)bod yn hafal i swm y rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol y byddai wedi bod gan yr aelod arbennig hawlogaeth iddo yn y senario ddigolledu a ddisgrifir ym mharagraff (3) (“y senario ddigolledu”);

(c)cynnwys llog a gyfrifwyd ar gyfradd llog y gorffennol ac a gymhwyswyd i’r swm hwnnw o ryddhad treth fel y’i disgrifir o dan reol 6A(13), ar ôl ystyried unrhyw ryddhad treth ar gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol a gafwyd drwy TWE.

(3) Mae’r senario ddigolledu yn golygu y tybir fel a ganlyn—

(a)yr oedd gan yr aelod arbennig hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod arbennig gorfodol,

(b)o’r dyddiad hwnnw, bod yr aelod arbennig wedi talu’r cyfraniadau cyfnod arbennig gorfodol yn unol â rheol 3(1A) o Ran 11 (cyfraniadau pensiwn), a ddidynnwyd o bob rhandaliad o gyflog pensiynadwy’r aelod yn unol â rheol 3(2) o’r Rhan honno, ac

(c)bod rhyddhad treth ar y cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig ar y gyfradd a nodir ym mharagraff (4) wedi ei gymhwyso ar yr adeg y talwyd pob rhandaliad o gyflog pensiynadwy.

(4) Y gyfradd rhyddhad treth y mae’n rhaid ei chymhwyso yn y senario ddigolledu yw—

(a)pan fo aelod yn profi, gyda’r dystiolaeth ategol honno y gall yr awdurdod ei gwneud yn rhesymol ofynnol, fod cyfradd y rhyddhad treth a fyddai wedi bod yn gymwys i’r aelod arbennig yn y senario ddigolledu yn gyfradd dreth uwch, y gyfradd dreth uwch honno, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, y gyfradd dreth sylfaenol a fyddai wedi bod yn gymwys i’r aelod arbennig yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol.

(5) Er mwyn bod â hawlogaeth i’r didyniad digolledu, rhaid i’r aelod arbennig ddarparu datganiad i’r awdurdod na fydd yr aelod arbennig yn hawlio rhyddhad treth mewn perthynas â’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol.

Diwygio Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun)

7.—(1Mae Rhan 12 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 11A (trosglwyddo hawliau crynodedig o dan Gynllun 1992 i aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl “ac sydd” mewnosoder “yn aelod arbennig cysylltiedig, neu sydd ”;

(ii)ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân arbennig” mewnosoder “neu aelod arbennig cysylltiedig ”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)ar ôl “reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)”, mewnosoder “neu reol 5B(11) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig)”;

(ii)ar ôl “o dan reol 5A(13)” mewnosoder “neu reol 5B(15)”;

(iii)ar y diwedd, mewnosoder “, yn ôl fel y digwydd”;

(c)ym mharagraff (3) yn lle “reol 5(13)”, rhodder “reol 5A(13) neu reol 5B(15) o Ran 11, yn ôl fel y digwydd”.

(3Yn rheol 16 (trosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl “person sydd” mewnosoder “yn aelod arbennig cysylltiedig, neu sydd ”;

(ii)ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân arbennig” mewnosoder “neu aelod arbennig cysylltiedig”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)ar ôl “reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)”, mewnosoder “neu reol 5B(11) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig)”;

(ii)ar ôl “o Ran 11”, mewnosoder “, yn ôl fel y digwydd”;

(c)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “reol 5A(13)”, mewnosoder “neu reol 5B(15)”;

(ii)ar ôl “o Ran 11”, mewnosoder “yn ôl fel y digwydd”.

(4Ym mharagraff (5), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig”, mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(5Yn rheol 17 (trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig)—

(a)ym mharagraff (1)(a)—

(i)ar ôl “berson sydd” mewnosoder “yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig, neu sydd”;

(ii)ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân arbennig” mewnosoder “neu aelod arbennig cysylltiedig”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)”, mewnosoder “neu reol 5B(11) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig)”;

(ii)ar ôl “o Ran 11”, mewnosoder “yn ôl fel y digwydd”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)ar ôl “reol 5A(13)”, mewnosoder “neu reol 5B(15)”;

(ii)ar ôl “o Ran 11”, mewnosoder “yn ôl fel y digwydd”;

(d)ym mharagraff (8), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig”, mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(6Yn rheol 18 (trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig - aelodau pensiynwyr arbennig)—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “berson sydd” mewnosoder “yn aelod-bensiynwr arbennig, neu sydd”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)”, mewnosoder “neu reol 5B(11) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig)”;

(ii)ar y diwedd, mewnosoder “yn ôl fel y digwydd”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)ar ôl “reol 5A(13)”, mewnosoder “neu reol 5B(15)”;

(ii)ar ôl “o Ran 11”, mewnosoder “yn ôl fel y digwydd”.

(7Ym mharagraff (8), ar ôl “y cyfnod cyfyngedig”, mewnosoder “neu’r cyfnod cyfyngedig estynedig”.

(8Ar ôl rheol 18, mewnosoder—

Trosi aelodaeth – dewisiad a wnaed yn ystod y cyfnod cyfyngedig

19.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo aelod wedi gwneud, ar yr un pryd â dewisiad o dan reol 5A o Ran 11 i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig—

(a)dewisiad o dan reol 16(5) o’r Rhan hon i drosi aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol;

(b)dewisiad o dan reol 17(5) o’r Rhan hon i drosi aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig;

(c)dewisiad o dan reol 18(5) o’r Rhan hon i drin gwasanaeth pensiynadwy fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(2) Pan fo’r aelod hwnnw’n gwneud dewisiad o dan reol 5B o Ran 11 i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig—

(a)mae unrhyw wasanaeth a brynir i’w drosi i wasanaeth fel aelod arbennig neu fel aelod safonol, yn unol â’r dewisiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c),

(b)caiff yr aelod benderfynu dirymu’r dewisiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c) ac i beidio â gwneud unrhyw ddewisiad newydd o dan reol 16, 17 neu 18 o’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig yn unol â rheol 5A o Ran 11 neu’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig yn unol â rheol 5B o Ran 11, neu

(c)caiff yr aelod wneud dewisiad newydd o dan reol 16, 17 neu 18 o’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig yn unol â rheol 5A o Ran 11 a’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig yn unol â rheol 5B o Ran 11.

(3) Mae rheol 20 o’r Rhan hon (dirymu dewisiad trosi a wnaed yn ystod y cyfnod cyfyngedig) yn gymwys mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddirymu o dan baragraff (2)(b).

(4) Mewn perthynas ag unrhyw ddewisiad newydd a wneir o dan baragraff (2)(c)—

(a)mae i’w wneud yn unol â rheol 16, 17 neu 18,

(b)rhaid ei wneud ar yr un pryd â’r dewisiad i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, a

(c)rhaid ei wneud mewn cysylltiad â’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig a’r gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig, fel bod yr holl wasanaeth yn cael ei drosi i wasanaeth fel aelod arbennig neu fel aelod safonol, neu’n cael ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(5) Pan wneir dewisiad newydd o dan baragraff (2)(c), diddymir y dewisiad a wnaed o dan reol 16(5), 17(5) neu 18(5) o’r Rhan hon yn ystod y cyfnod cyfyngedig, ac mae’r dirymiad yn cymryd effaith ar y diwrnod y gwneir y dewisiad newydd.

Dirymu dewisiad trosi a wnaed yn ystod y cyfnod cyfyngedig

20.(1) Caiff aelod y mae rheol 19 o’r Rhan hon yn gymwys iddo wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am ddatganiad newydd o dan reol 16, 17 neu 18 o’r Rhan hon, yn ôl fel y digwydd.

(2) Rhaid i unrhyw gais o dan baragraff (1) gael ei wneud ar yr un pryd â chais o dan reol 5B(11) o Ran 11 (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig).

(3) Ar yr un pryd ag y mae’r awdurdod yn rhoi’r hysbysiad o dan reol 5B(15) o Ran 11, rhaid i’r awdurdod ddarparu datganiad y cyfeirir ato yn rheol 16(3), 17(4) neu 18(4), yn ôl fel y digwydd.

(4) Pan fo’r ceisydd yn dewis dirymu’r penderfyniad dewisiad blaenorol, rhaid gwneud y dewisiad ar yr un pryd â’r dewisiad i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig o dan reol 6A o Ran 11 ac ni chaniateir ei wneud ar unrhyw adeg arall.

(5) Rhaid gwneud dewisiad o dan baragraff (4) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ac mae’n cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad.

Diwygio Rhan 14 (talu dyfarndaliadau)

8.—(1Mae Rhan 14 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 4 (pensiynau o dan fwy nag un contract cyflogaeth), ym mharagraff (3), ar ôl “reol 5A(5)”, mewnosoder “(prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) neu reol 5B(11) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig)”.

Diwygio Atodiad 1 (pensiynau afiechyd)

9.—(1Mae Atodiad 1 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (6), ar y diwedd, mewnosoder “neu, os rhoddwyd hysbysiad o dan reol 5B(15) o’r Rhan honno, a nodir yn yr hysbysiad hwnnw”.

Erthygl 4

ATODLEN 2Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Atodlen 1 (darpariaethau cyffredinol)

1.—(1Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheol 5 (ei gymhwyso at gyflogaeth barhaol fel hyfforddwr), mewnosoder—

Application to temporary secondary employment with the same fire and rescue authority

5A.(1)  This rule applies in the case of a person who meets the conditions in paragraph (2).

(2) The conditions are—

(a)that the person sustains an injury in the exercise of their duties under a temporary secondary employment with a fire and rescue authority, and

(b)that the injury is sustained at a time when that person is also employed as a regular or retained firefighter with the same fire and rescue authority.

(3) Where this rule applies—

(a)any injury sustained in the exercise of the person’s duties referred to below in paragraph 4(a) to (d), under the temporary secondary employment, must be treated for the purposes of this Scheme as if it were an injury sustained in the exercise of the person’s duties under the employment that person has as a regular or retained firefighter mentioned in paragraph (2)(b) of this rule, and

(b)other than in this rule, references in this Scheme to that person’s employment, role, duties, service, pay, pension age and retirement must be construed in relation to the employment that sub-paragraph (a) treats the injury as having been sustained in the performance of duties under.

(4) In this rule “temporary secondary employment” is temporary employment on terms under which the person is, or may be, required to engage in one or more of the following—

(a)rescuing people in the event of road traffic accidents, or protecting people from serious harm in the event of road traffic accidents;

(b)responding to an emergency for the purposes of—

(i)removing chemical, biological or radio-active contaminants from people in the event of the release or potential release of such contaminants, or

(ii)containing, for a reasonable period, any water used for a purpose mentioned in paragraph (i);

(c)rescuing people who may be trapped and protecting them from serious harm, in the event of—

(i)an emergency involving the collapse of a building or other structure, or

(ii)an emergency falling within section 58(a)(8) of the Fire and Rescue Services Act 2004 which—

(aa)involves a train, tram or aircraft, and

(bb)is likely to require a fire and rescue authority to use its resources beyond the scope of its day-to-day operation,

except to the extent that it involves the collapse of a tunnel or mine, as defined in article 3(3) of the Fire and Rescue Services (Emergencies) (Wales) Order 2007(9);

(d)responding to an emergency for the purpose of—

(i)rescuing people, or protecting them from serious harm in the event of flooding, or

(ii)rescuing people in the event of an emergency involving inland water, as defined in article 3A(3) of the Fire and Rescue Services (Emergencies) (Wales) Order 2007(10).

(5) For the purposes of paragraph (4), except sub-paragraph (c)(ii), “emergency” means an event or situation that causes or is likely to cause—

(a)one or more individuals to die, be seriously injured or become seriously ill, or

(b)serious harm to the environment (including the life and health of plants and animals).

(6) Where the person has a contract of employment as a regular firefighter and a contract of employment as a retained firefighter with the same fire and rescue authority, the person’s employment as a regular or retained firefighter in paragraph (3) of this rule must be construed as their employment as a regular firefighter.

(7) This rule only has effect in relation to injuries wholly sustained on or after 1 February 2024.

Application to secondary retained firefighter employment with the same fire and rescue authority

5B.(1) This rule applies in the case of a person who meets the conditions in paragraph (2).

(2) The conditions are—

(a)that the person sustains an injury in the exercise of their duties as a retained firefighter, and

(b)that the injury is sustained at a time when that person is also employed as a regular firefighter with the same fire and rescue authority.

(3) Where this rule applies—

(a)any injury sustained in the exercise of the person’s duties under their employment as a retained firefighter must be treated for the purposes of this Scheme as if it were an injury sustained in the exercise of the person’s duties under their employment as a regular firefighter, and

(b)other than in this rule, references in this Scheme to that person’s employment, role, duties, service, pay, pension age and retirement must be construed in relation to the employment that sub-paragraph (a) treats the injury as having been sustained in the performance of duties under.

(4) Paragraph (3) does not apply to cases where the total monetary value of any award or awards that would be payable under this Scheme if paragraph (3) were to apply, would be less than the total of any award or awards that would be payable under this Scheme if that paragraph were not to apply.

(5) This rule does not have effect in relation to cases in which a determination as to a person’s eligibility for an award under this Scheme in relation to a person’s employment as a retained firefighter was made before 1 February 2024.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (sy’n nodi Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 1992) ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (sy’n nodi “Cynllun Pensiwn 2007”), i estyn y cyfnod y mae gan bersonau a gyflogid yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn fynediad i gynllun pensiwn ynddo.

Diwygiwyd Cynllun Pensiwn 2007 gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014 i ddarparu i’r personau hynny a gyflogid yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf 2000 hyd 5 Ebrill 2006 yn gynhwysol fynediad i gynllun pensiwn ar gyfer y cyfnod hwnnw. Mae’r Gorchymyn hwn yn estyn y cyfnod hwnnw fel y gall ddechrau o 7 Ebrill 2000, neu, mewn achosion pan fo person wedi ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn ar 7 Ebrill 2000 ac wedi dechrau’r gyflogaeth honno gyntaf ar ddyddiad cynharach, mae’r Gorchymyn hwn yn estyn y cyfnod hwnnw fel ei fod yn dechrau ar y dyddiad cynharach hwnnw (“y cyfnod cyfyngedig estynedig”).

Mae Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn 2007.

Mae paragraffau 1 a 2 yn diwygio Rhannau 1 (enwi a dehongli) a 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer y cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 3 yn diwygio Rhan 3 (dyfarndaliadau personol) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer ceisiadau am ailgyfrifiadau o ddyfarndaliadau ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd pan fo person yn prynu gwasanaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 4 yn mewnosod rheolau newydd 1B ac 1C yn Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer dyfarnu grantiau marwolaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 5 yn gwneud mân ddiwygiadau i Ran 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy) o Gynllun Pensiwn 2007 i adlewyrchu’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 6 yn mewnosod rheolau newydd 5B, 5C, 6D a 6E yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol) o Gynllun Pensiwn 2007. Maent yn darparu ar gyfer prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau i awdurdod ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

Mae paragraff 7 yn diwygio Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun) o Gynllun Pensiwn 2007 ac yn mewnosod rheolau 19 ac 20 yn y Rhan honno, i ddarparu ar gyfer trosi gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig. Mae hefyd yn darparu ar gyfer achosion pan fo penderfyniad trosi wedi ei wneud yn flaenorol, a phan fo gwasanaeth bellach yn cael ei brynu yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraffau 8 a 9 yn diwygio Rhan 14 (talu dyfarndaliadau) ac Atodiad 1 (pensiynau afiechyd) o Gynllun Pensiwn 2007 yn y drefn honno i wneud darpariaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad canlyniadol i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 1992, a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae Atodlen 2 yn diwygio Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw i ganiatáu gwneud dyfarndaliadau mewn perthynas ag anaf a gafwyd tra bo person yn cyflawni dyletswyddau penodol heblaw ymladd tân o dan gyflogaeth eilaidd dros dro gyda’r un awdurdod tân ac achub. Yn yr achosion hynny, bydd unrhyw anaf yn cael ei drin fel pe bai yn anaf a gafwyd o dan brif gyflogaeth y person, ac o ganlyniad bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl o dan y brif gyflogaeth honno. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu, pan fo person yn cyflawni dyletswyddau o dan gyflogaeth eilaidd wrth gefn gyda’r un awdurdod tân ac achub, y caiff unrhyw anaf ei drin fel pe bai’n anaf a gafwyd o dan gyflogaeth reolaidd y person. Ystyr hwn yw y bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl y person o dan y contract gwasanaeth rheolaidd hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(1)

1947 p. 41. Diddymwyd y Ddeddf gan adrannau 52 a 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun pensiwn a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129) (“Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992”), yn rhinwedd erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy. 257) a’r Atodlen iddo. Diwygiwyd adran 26 gan adran 1(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27), adran 42 o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn a’r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65), adrannau 100 a 101 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1973 (p. 38), a pharagraff 6 o Atodlen 27 iddi, adran 1(2) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p. 18), ac Atodlen 1 iddi, adran 1 o Ddeddf Pensiynau’r Heddlu a’r Dynion Tân 1997 (p. 52) ac adran 256 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), ac Atodlen 25 iddi; mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn. I’r graddau y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 yn parhau mewn grym, o ran Cymru, mae adran 26(1) i (5) yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“DLlC 2006”) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(2)

2004 p. 21 (“Deddf 2004”). Rhoddwyd y pwerau a roddir gan adran 34 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, gan adran 62 o Ddeddf 2004. Fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o DLlC 2006, a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(4)

O.S. 1992/129; mewnosodwyd paragraff 7 o Ran 4 o Atodlen 6 (i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru) o Atodlen 2 gan O.S. 2014/3242 (Cy. 329).

(6)

1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 newydd gan adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35). Diwygiwyd adran 50 gan adran 16 o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22).

(7)

O.S. 2008/649, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/383.

(8)

Mae adran 58(a) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn diffinio “emergency” fel digwyddiad neu sefyllfa sy’n peri neu sy’n debygol o beri i un neu ragor o unigolion farw, cael eu hanafu’n ddifrifol neu fynd yn ddifrifol sâl.

(10)

Mewnosodwyd erthygl 3A(3) gan O.S. 2017/168 (Cy. 49).