2024 Rhif 135 (Cy. 29)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 11(6), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 a pharagraffau 4(1)(d) i (f), 4(2) a pharagraff 5 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor neu aelod cyswllt y cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw’r prif gomisiynydd a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol;

  • ystyr “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor, nad yw’n gadeirydd iddo, sydd wedi ei benodi yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf2;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg3;

  • ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw cadeirydd y cyd-bwyllgor;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw GIG Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig, unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, unrhyw Ymddiriedolaeth y GIG neu unrhyw Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG;

  • ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 a wnaed ar 6 Chwefror 2024;

  • ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan brif swyddogion Bwrdd Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 20094;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “prif swyddog” (“chief officer”) yw prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol.

RHAN 2Aelodaeth y cyd-bwyllgor

Aelodaeth y cyd-bwyllgor3

1

Mae’r cyd-bwyllgor i gynnwys—

a

y prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig,

b

cadeirydd, ac

c

dim mwy na phum aelod nad yw’n swyddog.

2

Yn ogystal bydd aelod cyswllt na chaiff bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd nac unrhyw drafodion o’r cyd-bwyllgor.

Penodi’r cadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion4

1

Penodir y cadeirydd, a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion, gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i benodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Y gofynion cymhwystra ar gyfer aelodau o’r cyd-bwyllgor5

1

Rhaid i berson fodloni’r gofynion cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn cyn y caniateir i’r person hwnnw gael ei benodi’n gadeirydd i’r cyd-bwyllgor neu’n aelod nad yw’n swyddog ohono, a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion hynny tra bo’n dal y swydd honno.

2

Ni chaiff prif swyddog fod yn aelod o’r cyd-bwyllgor o dan reoliad 3(1)(a) o’r Rheoliadau hyn ond os yw’r person hwnnw yn parhau i ddal swydd fel prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol.

3

Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd fel swyddog-aelod, fel y’i nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009, o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog sy’n enwebu.

4

Ni chaiff yr aelod cyswllt fod yn aelod o’r cyd-bwyllgor o dan reoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn ond os yw’r person hwnnw yn parhau i ddal swydd fel y prif gomisiynydd a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

5

Rhaid i aelodau hysbysu’r cyd-bwyllgor ar unwaith os ydynt yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn.

Deiliadaeth swydd cadeirydd6

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 4.

2

Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

3

Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4.

5

Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i’r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd aelodau nad ydynt yn swyddogion7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod nad yw’n swyddog o’r cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 4.

2

Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae aelod nad yw’n swyddog yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

3

Caniateir i aelod nad yw’n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i aelod nad yw’n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd ar y cyd-bwyllgor wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4.

5

Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nad yw’n swyddog o’r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Terfynu penodiad cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion8

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, dynnu cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog oddi ar y cyd-bwyllgor ar unwaith os ydynt yn penderfynu—

a

nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu

b

nad yw’n ffafriol i reolaeth dda ar y cyd-bwyllgor,

i’r cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw barhau i ddal ei swydd.

2

Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, ei ddiswyddo.

3

Rhaid i gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a’r cyd-bwyllgor ar unwaith os yw’n dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

4

Os yw cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r aelod hwnnw oni bai eu bod wedi eu bodloni—

a

bod achos rhesymol dros yr absenoldeb, a

b

y bydd y cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol.

5

Caiff cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw. Rhaid i’r cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog hefyd hysbysu’r cyd-bwyllgor am ei ymddiswyddiad.

Atal dros dro aelodau a’r aelod cyswllt9

1

Cyn gwneud penderfyniad i ddiswyddo cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn ystyried ei fod yn rhesymol.

2

Pan fo cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person hwnnw a’r cyd-bwyllgor yn ysgrifenedig ar unwaith, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

3

Ni chaiff cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog, y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro o dan baragraff (1), gyflawni swyddogaethau aelodaeth o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

4

Ni chaiff prif swyddog sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni swyddogaethau aelodaeth o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

5

Ni chaiff aelod cyswllt sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel prif gomisiynydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol gyflawni swyddogaethau aelodaeth gyswllt o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

Penodi is-gadeirydd10

1

Caiff aelodau’r cyd-bwyllgor benodi un o’r aelodau nad ydynt yn swyddogion, heblaw’r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd am unrhyw gyfnod, nad yw’n hwy na gweddill cyfnod y person hwnnw yn aelod, a bennir ganddynt wrth benodi.

2

Caiff aelod a benodir o dan baragraff (1) ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cadeirydd neu, os yw swydd y cadeirydd yn wag, i’r aelodau.

3

Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 11.

Penodi is-gadeirydd pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro11

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9.

2

Os yw is-gadeirydd wedi cael ei benodi o dan reoliad 10(1), mae’r penodiad hwnnw yn peidio â chael effaith.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r person a grybwyllir ym mharagraff (2) neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog i fod yn is-gadeirydd.

4

Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am gyfnod nad yw’n hwy na’r cyfnod byrraf o’r canlynol—

a

y cyfnod y mae’r cadeirydd wedi ei atal dros dro ar ei gyfer, neu

b

gweddill cyfnod penodiad yr aelod nad yw’n swyddog yn aelod.

5

Pan fydd y cyfnod y mae aelod wedi cael ei benodi’n is-gadeirydd ar ei gyfer yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r aelod yn is-gadeirydd neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd.

6

Caiff person a benodir o dan baragraff (3) neu (5) ymddiswyddo, ar unrhyw adeg, o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

7

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (3) neu (5) os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl y byddai er lles pennaf y cyd-bwyllgor i aelod arall nad yw’n swyddog fod yn is-gadeirydd.

8

Os yw—

a

person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6), neu

b

Gweinidogion Cymru yn terfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (7),

caiff Gweinidogion Cymru benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd o dan baragraff (3).

Pwerau’r is-gadeirydd12

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9 ac mae aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 11, neu

b

os yw aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 10 ac—

i

mae swydd y cadeirydd yn wag am unrhyw reswm, neu

ii

nid yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd (yn ôl y digwydd).

RHAN 3Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion13

1

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar reolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

2

Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â’r rheolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.

RHAN 4Dirymiadau

14

1

Mae Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 20095 wedi eu dirymu.

2

Mae Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 20146 wedi eu dirymu.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENNI

ATODLEN 1Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDD AC AELODAU NAD YDYNT YN SWYDDOGION

Rheoliad 4

1

Mae’r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion ohono.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer penodi’r cadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion a bod y trefniadau hynny yn ystyried—

a

yr egwyddorion a osodir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ynghylch penodiadau gan Weinidogion i gyrff cyhoeddus,

b

ei bod yn ofynnol i’r penodiad fod yn agored a thryloyw,

c

ei bod yn ofynnol i’r penodiad gael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored,

d

yr angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi, ac

e

yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni’r gofynion cymhwystra a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

ATODLEN 2Y GOFYNION CYMHWYSTRA

Rheoliad 5(1)

1

Nid yw person yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog os oes unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir ym mharagraffau 2 i 6 yn gymwys.

Euogfarn droseddol2

1

Mae’r person, o fewn y pum mlynedd blaenorol, wedi cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy.

2

At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

Methdaliad3

1

Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.

2

Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—

a

os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y diddymiad,

b

os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y rhyddhau,

c

os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a

d

os yw cyfnod o bum mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog.

Diswyddo o gorff gwasanaeth iechyd4

1

Mae’r person wedi ei ddiswyddo fel aelod, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, neu gontract cyfnod penodol heb ei adnewyddu, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd.

2

Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad hwnnw.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan is-baragraff (2), nid yw’r person wedi ei anghymwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

4

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person wneud cais pellach cyn i gyfnod o ddwy flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.

5

At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel pe bai wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd y bu—

a

yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n Ymddiriedolaeth y GIG neu’n Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG (heblaw Bwrdd Gofal Integredig), yn gadeirydd neu is-gadeirydd y corff neu’n aelod nad yw’n swyddog ohono,

b

yn achos Ymddiriedolaeth y GIG, yn gadeirydd neu is-gadeirydd yr ymddiriedolaeth neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddi,

c

yn achos Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG, yn gadeirydd yr ymddiriedolaeth neu’n llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddi, neu

d

yn achos Bwrdd Gofal Integredig, yn gadeirydd y bwrdd neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddo.

6

Yn is-baragraff (5)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o gorff gwasanaeth iechyd nad yw wedi ei gyflogi gan y corff.

Terfynu aelodaeth o gorff gwasanaeth iechyd5

1

Mae—

a

aelodaeth y person fel cadeirydd, is-gadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol neu ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd bod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben, neu

b

y person wedi ei ddiswyddo fel cadeirydd neu aelod o Fwrdd Gofal Integredig.

2

Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw dwy flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir cyfnod y penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).

4

Pan fydd cyfnod yr anghymhwysiad o dan is-baragraff (2) yn dod i ben, ni fydd y person wedi ei anghymhwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

Cyflogaeth gyda chorff GIG yng Nghymru6

1

Mae’r person yn cael, neu wedi cael, yn y 12 mis cyn ei benodi, ei gyflogi am dâl gan—

a

Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 11 o’r Ddeddf,

b

ymddiriedolaeth y GIG sydd wedi ei sefydlu o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu

c

Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru sydd wedi ei sefydlu gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.

2

At ddibenion is-baragraff (1), nid yw person i’w drin fel pe bai wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd neu is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Lleol neu aelod nad yw’n swyddog ohono; cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol i ymddiriedolaeth y GIG; neu gadeirydd neu is-gadeirydd i Awdurdod Iechyd Arbennig neu aelod nad yw’n swyddog ohono.

3

Mae person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir yn is-baragraff (1) heblaw o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024, a wnaed ar 6 Chwefror 2024, yn darparu y bydd y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau penodol. At ddiben arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu’r cyd-bwyllgor fel ei fod yn weithredol ar 1 Ebrill 2024.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

a

cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3),

b

penodi’r cadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion i’r cyd-bwyllgor (rheoliad 4 ac Atodlen 1),

c

y gofynion cymhwystra ar gyfer aelodau o’r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2),

d

deiliadaeth swydd, terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau o’r cyd-bwyllgor (rheoliadau 6 i 9), ac

e

penodi a phwerau is-gadeirydd y cyd-bwyllgor (rheoliadau 10 i 12).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheolau sefydlog sy’n ymwneud â rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu dwy set o reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.