Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Methdaliad
3.—(1) Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.
(2) Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y diddymiad,
(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y rhyddhau,
(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a
(d)os yw cyfnod o bum mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog.
Back to top