2024 Rhif 147 (Cy. 32)

Harbyrau, Dociau, Pierau A Fferïau

Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024

Gwnaed

Yn dod i rym

Yn unol ag adran 14(1) o Ddeddf Harbyrau 19641 (“y Ddeddf”), mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud mewn perthynas â harbwr sy’n cael ei wella, ei gynnal neu ei reoli gan awdurdod harbwr wrth arfer a chyflawni pwerau a dyletswyddau statudol, i gyflawni amcanion a bennir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf2.

Mae Associated British Ports, sef yr awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot, wedi gwneud cais yn unol ag adran 14(2)(a) o’r Ddeddf am orchymyn diwygio harbwr o dan adran 14 o’r Ddeddf.

Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol at ddiben yr adran honno wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru3.

Mae hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn unol â gofynion paragraff 10 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ac mae darpariaethau paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf wedi eu bodloni. Ni wnaed unrhyw wrthwynebiadau i’r cais.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) a (3) o’r Ddeddf, a chan eu bod yn fodlon bod gofynion adran 14(2)(b) ac 14(2B) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2024.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr ardal ychwanegol” (“the added area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2;

  • ystyr “awdurdod yr harbwr” (“the harbour authority”) yw Associated British Ports yn rhinwedd bod yn awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot;

  • ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau, a Phierau 18474;

  • ystyr “Deddf 1899” (“the 1899 Act”) yw Deddf Rheilffordd a Dociau Port Talbot 18995;

  • ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 19646;

  • ystyr “Deddf 1971” (“the 1971 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 19717;

  • ystyr “Harbwr Port Talbot” (“Port Talbot Harbour”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n cynnwys ymgymeriad Associated British Ports ym Mhort Talbot;

  • ystyr “is-ddeddfau presennol yr harbwr” (“the existing harbour byelaws”) yw is-ddeddfau Harbwr Port Talbot dyddiedig 1 Mawrth 1923, fel y’u hategir gan yr is-ddeddfau dyddiedig 29 Ebrill 1927.

Estyn terfynau awdurdodaeth3

1

Mae terfynau Harbwr Port Talbot fel y’u diffinnir yn adran 23 (Terfynau presennol yr harbwr) o Ddeddf 1899 ac fel y’u hestynnir gan adran 19 (Estyn awdurdodaeth y docfeistr a’r harbwrfeistr, a therfynau’r harbwr) o Ddeddf 1971 yn cael eu hestyn ymhellach i gynnwys yr ardal ychwanegol.

2

Yn ddarostyngedig i erthygl 4, bydd yr holl ddeddfiadau sy’n rhoi hawliau a phwerau i awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, neu sy’n gosod dyletswyddau, rhwymedigaethau neu atebolrwyddau ar awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, a gafodd effaith yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym o fewn yr harbwr, i gael effaith yn yr ardal ychwanegol.

Cymhwyso deddfwriaeth bresennol4

1

Mae Deddf 1847 yn cael effaith yn yr ardal ychwanegol fel y’i hymgorfforir â Deddf 1964 mewn perthynas â gweithfeydd Port Talbot a awdurdodir gan y Ddeddf honno.

2

Ni fydd is-ddeddfau presennol yr harbwr yn gymwys i’r ardal ychwanegol.

3

Ni ellir codi tollau llongau, nwyddau na theithwyr o fewn ystyr Deddf Harbyrau 1964 ar unrhyw long nac ar nwyddau a gludir ar y llong honno dim ond am fod y llong yn pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol ar fordaith i le, ac o le, y tu allan i Harbwr Port Talbot.

4

Ni chaniateir codi taliadau llywio o dan adran 10 (taliadau llywio) o Ddeddf Llywio 19878 ar unrhyw lestr sy’n pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol sy’n teithio i ardal awdurdod harbwr cymwys arall neu oddi yno, ac sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd llywio gorfodol a wneir gan yr awdurdod hwnnw.

5

Yn yr erthygl hon, ystyr “awdurdod harbwr cymwys” yw awdurdod harbwr cymwys at ddibenion Deddf Llywio 1987, ac ystyr “cyfarwyddyd llywio gorfodol” yw cyfarwyddyd a wneir o dan adran 7 (cyfarwyddydau llywio) o’r Ddeddf honno.

Hawliau’r Goron5

1

Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn—

a

yn lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo’r Goron;

b

yn awdurdodi Associated British Ports nac unrhyw un o drwyddedeion Associated British Ports i gymryd unrhyw dir neu unrhyw fuddiannau mewn tir neu unrhyw hawliau o ba ddisgrifiad bynnag, eu defnyddio, mynd arnynt, neu ymyrryd mewn unrhyw fodd â hwy (gan gynnwys unrhyw ran o lannau neu wely’r môr neu lannau neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd) sy’n eiddo i—

i

Ei Fawrhydi drwy hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron heb gydsyniad ysgrifenedig Comisiynwyr Ystad y Goron, neu

ii

adran o’r llywodraeth, neu a ddelir o dan ymddiriedolaeth i’w Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o’r llywodraeth.

2

Caniateir i gydsyniad o dan baragraff (1)(b) gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny neu’r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol.

Lee WatersY Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Ardal Ychwanegol

Erthygl 2

Ystyr yr ardal ychwanegol yw’r ardal o fewn Bae Abertawe, a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2, sydd â’i ffin yn llinell ddychmygol a dynnwyd rhwng y pwyntiau canlynol—

Pwynt

Lledred

Hydred

1

51° 35′ 03.15893″G

003° 49′ 58.92743″Gn

2

51° 35′ 23.28499″G

003° 53′ 52.82491″Gn

3

51° 34′ 48.72388″G

003° 54′ 16.40161″Gn

4.

51° 34′ 09.25610″G

003° 56′ 54.67783″Gn

5

51° 32′ 40.80632″G

003° 58′ 52.80959″Gn

6

51° 32′ 37.04455″G

004° 05′ 25.93474″Gn

7

51° 24′ 59.63288″G

004° 09′ 42.42239″Gn

8

51° 24′ 59.70080″G

003° 58′ 01.78030″Gn

9

51° 28′ 33.70239″G

003° 55′ 40.05564″Gn

10

51° 30′ 05.51332″G

003° 49′ 34.14032″Gn

11

51° 32′ 13.91218″G

003° 51′ 35.79793″Gn

12

51° 32′ 50.42414″G

003° 50’ 01.11214”Gn

13

51° 33’ 35.46087”G

003° 50′ 45.40336″Gn

14

51° 33′ 28.55389″G

003° 51′ 04.80125″Gn

15

51° 34′ 01.50460″G

003° 51′ 33.55558″Gn

16

51° 34′ 38.486404″G

003° 49′ 55.61939″Gn

ATODLEN 2Plan o’r Ardal Ychwanegol

Erthygl 2

Image_r00001

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud ar gais Associated British Ports, sef yr awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot, gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14 o Ddeddf Harbyrau 1964.

Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi estyn terfynau Harbwr Port Talbot ymhellach i’r môr ac yn gwneud darpariaeth o ran cymhwyso deddfwriaeth i’r terfynau ychwanegol.