2024 Rhif 180 (Cy. 36)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881.

Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd fersiwn ddrafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Enwi, dod i rym a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2024.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Newid i’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 20242

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024—

a

nid yw paragraff 5(5A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;

b

at ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai 130.0 yw B.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024 (“y flwyddyn o dan sylw”).

Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys eitemau B ac C. Eitem B yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, ac eitem C yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol sy’n dod cyn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw. Mae paragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio, diddymu neu ddatgymhwyso is-baragraffau penodol yn Atodlen 7 i Ddeddf 1988, er mwyn rhoi cyfeiriadau at fynegai arall yn lle cyfeiriadau at y mynegai prisiau defnyddwyr, neu i bennu neu ddisgrifio ffigur ar gyfer eitemau B a/neu C.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024, ac yn datgymhwyso paragraff 5(5A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu mai’r ffigur ar gyfer eitem B yw 130.0. Effaith hyn yw bod y lluosydd ardrethu annomestig yn cynyddu gan 5% o’i gymharu â’r ffigur hwnnw a gyfrifwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Heb y Rheoliadau hyn, byddai’n cynyddu gan 6.7% yn ddiofyn yn unol â’r newid yn y mynegai prisiau defnyddwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.