2024 Rhif 330 (Cy. 59)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2024.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
a
yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£39.50” rhodder “£43.90”;
b
yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£39.50” rhodder “£43.90”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)