Offerynnau Statudol Cymru
Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru
Gwnaed
7 Mawrth 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48(1) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a)adran 17;
(b)adran 19.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 17 (dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru) ac adran 19 (adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru) o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.