Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1154 (Cy. 199) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2024 Rhif 37 (Cy. 12)
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) a (4)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 (“Deddf 1988”) ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2)(a) ac (ga) o Atodlen 9 i’r Ddeddf2 honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3, a thrwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 8(1) a (4)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 20074, adran 236(1) o Ddeddf Lleoliaeth 20115 ac adran 17(2) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 20236.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 19 Ionawr 2024.
4
Daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2024.
RHAN 2Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym ar 19 Ionawr 2024
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19892
Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19897, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to” rhodder “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of”.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20173
1
Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20178 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 4—
a
yn lle “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym” rhodder “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym”;
b
yn lle “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o”.
3
Ym mharagraff 5—
a
yn lle “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45A o”;
b
yn lle “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45(4) o”.
4
Ym mharagraff 6—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4A)(b) neu (5) o”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(2) a (2A) o”;
c
yn lle “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid” rhodder “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid”.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20174
1
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20179 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i” rhodder “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o”.
3
Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(i) o”.
4
Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(ii) o”.
5
Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(9) o”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 20235
1
Mae Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 202310 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(2) (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989), hepgorer is-baragraff (a).
3
Yn rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017)—
a
hepgorer paragraff (2);
b
hepgorer paragraff (3);
c
hepgorer is-baragraffau (a), (b) a (d) o baragraff (4).
4
Hepgorer rheoliad 5 (diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017).
RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19896
Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of” rhodder “any provision of or made under Schedule 4ZA or Schedule 4ZB to”.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 19907
Yn rheoliad 3(7) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 199011, yn lle “section 43(6), 45(6) and 47(2)(a) of” rhodder “paragraph 2(2) of Schedule 4ZA to”.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20178
1
Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 4—
a
yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraffau 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;
b
yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
3
Ym mharagraff 5—
a
yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;
b
yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
4
Ym mharagraff 6—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;
c
yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20179
1
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.
3
Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.
4
Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.
5
Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)